15 Mehefin 2020

Cael post a pharseli yn ystod y coronafeirws

Yn ystod pandemig y coronafeirws (Covid-19), mae mwy o bobl yn gweithio ac yn dysgu o'r cartref, ac mae angen i fusnesau newid y ffordd y maent yn gweithredu.

Wrth i bobl geisio cadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid a chadw eu cyflenwad o nwyddau hanfodol, mae gweithwyr post a chyflenwyr parseli'r DU yn chwarae rhan holl bwysig-gweithio'n galed i sicrhau bod llythyrau a pharseli yn cyrraedd cartrefi a busnesau ledled y wlad.

Dyma bum awgrym i helpu defnyddwyr post fel chi – ac i helpu’r gweithwyr post a chyflenwyr i gadw pethau i symud yn ddiogel.

1. Wrth dderbyn llythyrau a pharseli, dylech chi a'r person sy’n dosbarthu’r eitem sefyll gwpwl o fetrau ar wahân. Ar hyn o bryd, nid yw cwmnïau post yn disgwyl i bobl lofnodi am eitemau, ond gallwch ddangos iddynt eich bod wedi'u derbyn yn lle hynny.

2. Pan fydd eich parsel ar ei ffordd, gadewch i'r cwmni dosbarthu wybod os oes gennych le diogel lle gallant ei adael.

3. Wrth fynd allan i anfon post, edrychwch ar oriau agor Swyddfa'r Post neu'r siop parseli – efallai y byddant wedi newid.

4. Os nad yw eich llythyr neu barsel yn hanfodol, dylech fod yn amyneddgar a rhoi mwy o amser iddo gyrraedd. Mae cwmnïau post yn wynebu amhariad oherwydd y coronafeirws, felly mae'n ddigon posibl bydd yn cymryd mwy o amser i'ch eitem gael ei danfon. Mae rhai mathau o nwyddau, fel bwydydd a meddyginiaethau, yn cael eu blaenoriaethu.

5. Mae gweithwyr post yn weithwyr allweddol. Maen nhw'n goresgyn heriau i helpu i gadw'r DU i symud. Felly, gallwch wneud gwahaniaeth hefyd drwy ddangos eich gwerthfawrogiad i'ch gweithiwr post neu ddanfonwr.

See also...