14 Rhagfyr 2020

Yn awr gall cwsmeriaid band eang gael amcangyfrifon cyflymder wedi’u personoli

Bydd pobl sy'n chwilio am fargen band eang gwell yn cael amcangyfrifon cyflymder wedi’u personoli gan ddarparwyr cyn iddynt ymrwymo i gontract newydd, o dan mesurau diogelu cryfach y mae Ofcom bellach wedi'u rhoi ar waith.

Ym mis Mawrth 2019, gwnaethom newidiadau sylweddol i'n codau ymarfer cyflymder band eang. Mae'r newidiadau hyn yn golygu, os ydych chi'n bwriadu newid neu uwchraddio eich band eang, bod yn rhaid i ddarparwyr sydd wedi ymrwymo i'r codau:

  • roi isafswm cyflymder gwarantedig i chi cyn i chi ymrwymo i gytundeb band eang newydd, heb orfod gofyn amdano;
  • dweud wrthych pa gyflymder i'w ddisgwyl yn ystod oriau brig pan fydd pawb ar-lein; a
  • gadael i chi gerdded i ffwrdd o'ch contract heb gael eich cosbi os bydd y cyflymder yn mynd yn is na'r lefel a warantwyd.

Yn flaenorol, bu’r cyflymder gwarantedig gofynnol hwn yn seiliedig ar ddata gan grŵp o gwsmeriaid y mae gan eu heiddo nodweddion tebyg – er enghraifft, pellter o'r gyfnewidfa neu gabinet stryd, a all effeithio ar gyflymder ar linellau copr.

Ar gyfer cynhyrchion band eang cyflym iawn, mae'r wybodaeth hon bellach yn seiliedig ar allu'r llinell sy'n mynd i mewn i'ch tŷ neu swyddfa unigol, sy'n golygu y bydd yn fwy cywir.

Mae llawer o gwmnïau band eang mawr – BT, Daisy, EE, Plusnet, TalkTalk, Utility Warehouse, Virgin Media ac XLN – wedi ymrwymo i'n codau ymarfer. Fodd bynnag, nid yw Plusnet wedi gwneud y newid hwn mewn pryd. Rydym yn trafod hyn gyda hwy'n rheolaidd ac yn eu hannog i'w weithredu cyn gynted â phosib.

Gwybodaeth well cyn i chi brynu band eang

Pan fyddwch yn prynu gwasanaeth band eang gan ddarparwr sydd wedi ymrwymo i'r codau ymarfer cyflymder band eang, dylech dderbyn gwybodaeth bwysig heb orfod gofyn amdano, cyn i chi ymrwymo i gontract. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth gywir am ba mor gyflym y bydd eich band eang.

Dylech gael y cyflymder wedi’i amcangyfrif yr ydych yn debygol o'i gael ar adegau prysur o'r dydd, pan fydd y cyflymder cyfartalog yn aml yn is. Mae'r amseroedd hyn yn 8-10pm ar gyfer gwasanaethau cartref, a 12-2pm ar gyfer gwasanaethau busnes.

Dylai'r darparwyr hyn hefyd ddarparu isafswm cyflymder gwarantedig ar gyfer eich gwasanaeth band eang pan fyddwch yn ei ddewis. Dylent wneud hyn os ydych yn gwsmer presennol sy'n dymuno uwchraddio i wasanaeth cyflymach, neu os ydych yn ystyried newid iddynt o’ch darparwr presennol.

Eich hawl i ymadael

Os credwch fod eich band eang yn arafach nag y dylai fod, cysylltwch â'ch darparwr i gael diagnosis o'r broblem. Os yw eich darparwr wedi ymrwymo i'r codau a bod y broblem o fewn ei rwydwaith, rhaid iddo gynnig yr hawl i chi adael eich contract heb gael ei gosbi os na all ei drwsio o fewn 30 niwrnod.

Mae'r hawl hon i ymadael hefyd yn berthnasol i gynhyrchion 'bwndel', megis gwasanaethau llinell dir ar yr un llinell, neu wasanaethau teledu drwy dalu a brynwyd ar yr un pryd â'r gwasanaeth band eang.

Os yw eich cyflymder band eang yn eich arafu, nid yw erioed wedi bod yn symlach i newid. Ac efallai y byddwch hyd yn oed yn arbed arian hefyd, yn enwedig os ydych allan o gontract. Rydym wedi gwthio cwmnïau band eang i roi gwybodaeth fwy cywir i chi am y cyflymder y byddwch yn ei dderbyn, fel eich bod yn gwybod beth rydych chi'n ymrwymo iddo.

Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom

Gallwch chi wirio pa gyflymder rydych chi’n derbyn trwy ddefnyddio gwefan cymharu prisiau a achredir gan Ofcom fel Broadband.co.ukbroadbandchoices.co.ukSimplifydigital. Os ydych eisiau rhedeg y prawf cywiraf sy’n bosib, defnyddiwch gyfrifiadur neu lechen a all gysylltu â’ch llwybrydd trwy gebl ‘ethernet’, gan y gall wifi arafu’r signal.

I gael gwybod pa gyflymder y dylech chi fod yn ei gael, gwiriwch eich contract neu gofynnwch i'ch darparwr.

Os na fydd eich gwasanaeth yn dechrau ar y dyddiad y cytunwyd arno, neu os collir eich apwyntiad peiriannydd, bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn eich digolledu o dan y Cynllun Iawndal Awtomatig.

See also...