27 Gorffennaf 2021

Pobl ifanc yn troi i ffwrdd o newyddion teledu i gael y diweddaraf ar-lein

Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o lawer i ddefnyddio'r rhyngrwyd i gadw fyny â newyddion yn hytrach na defnyddio'r teledu a ffynonellau eraill, yn ôl adroddiad cael gafael ar newyddion blynyddol Ofcom.

Mae naw o bob 10 o bobl 16-24 oed yn dilyn storïau newyddion ar-lein, o'i gymharu â llai na dau draean sy'n cael eu newyddion o'r teledu. Mae'n ddarlun tebyg ymysg pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, gydag 85% yn ffafrio newyddion ar y we dros newyddion ar y teledu (69%).

Yn gyffredinol, fodd bynnag, parhaodd y defnydd o newyddion ar y teledu'n gyson dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae'n parhau fel y ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd ymysg poblogaeth oedolion gyffredinol y DU. Er hynny, mae'r ymchwil yn dangos bod y defnydd o radio, papurau newydd printiedig a'r rhyngrwyd i gyd wedi dirywio o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r astudiaeth, Cael gafael ar newyddion yn y DU 2020/21, yn edrych ar sut mae oedolion a phlant hŷn (12-15 oed) yn y DU yn cael gafael ar newyddion ar draws y teledu, radio, papurau newydd printiedig, cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, ffynonellau eraill ar y rhyngrwyd a chylchgronau.

Young people are turning away from TV news. An overview of findings from our latest study of news consumption in the UK.

Ymysg canfyddiadau eraill o'r ymchwil mae'r canlynol:

  • Ar ôl y teledu (79%), y rhyngrwyd yw'r llwyfan fwyaf poblogaidd nesaf ar gyfer newyddion (wedi'i defnyddio gan 73% o bobl), wedi'i dilyn gan radio (46%). Mae un o bob tri oedolyn yn cael eu newyddion o bapurau newydd printiedig. Ond, wrth gyfuno'r wasg draddodiadol â gwefannau ac apiau papurau newydd, mae hyn yn codi i hanner o oedolion.
  • Mae BBC One yn parhau fel y ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd yn gyffredinol (62%). Dilynwyd hyn gan ITV (46%) a Facebook (36%) ond gwelodd y ddau o'r rhain ddirywiad yn eu defnydd ar gyfer newyddion o'i gymharu â 2020 (o 49% a 40% yn ôl eu trefn). Gwelodd nifer o ffynonellau newyddion eraill ddirywiadau tebyg o flwyddyn i flwyddyn – Channel 4 (26% i 24%), BBC Radio 2 (16% i 13%) a BBC Radio 1 (13% i 11%).
  • Wrth gael eu holi pa un o'r prif ffynonellau newyddion sy'n bwysicaf iddynt, roedd BBC One ar y frig (19%) er i hyn ostwng o 22% yn 2020. Dewiswyd gwefan neu ap y BBC fel y ffynhonnell newyddion uchaf ei gwerth nesaf - gan godi mewn pwysigrwydd ers 2020 (o 8% i 11%).
  • Mae hanner o oedolion yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol (49%) a gwefannau ac apiau eraill nad ydynt yn gyfryngau cymdeithasol. Mae pobl ifanc 16-24 oed yn llawer mwy tebygol o ystyried llwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel eu ffynonellau newyddion pwysicaf (36% o'i gymharu â 14% ar gyfer poblogaeth y DU yn gyffredinol). Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn perfformio waethaf ar fesurau megis pwysigrwydd, dibynadwyedd, ystod o farn a didueddrwydd.
  • Mae un o bob pump (19%) o oedolion y DU yn defnyddio cymwysiadau cydgrynhoi newyddion, a dywed 25% iddynt ddefnyddio peiriannau chwilio ar gyfer newyddion, dirywiad o 2020 (28%).
  • Dywed ychydig o dan chwech o bob 10 o blant 12 i 15 oed (57%) fod ganddynt ddiddordeb mewn newyddion. Mae ganddynt ddiddordeb penodol mewn newyddion am gerddoriaeth (53%), wedi'i ddilyn gan newyddion am enwogion (45%), yr amgylchedd (44%) a phethau difrifol sy'n digwydd yn y DU (43%).
  • Er mai BBC One a BBC Two yw'r ffynonellau newyddion a ddefnyddir fwyaf (35%) a'r rhai pwysicaf (14%) o hyd ymysg plant 12-15 oed, mae'r sianelau hyn wedi gweld gostyngiad sylweddol o ran eu defnydd dros y flwyddyn ddiwethaf (i lawr o 41%). Mewn cyferbyniad, defnyddiwyd Sky News (19% i 24%), TikTok (11% i 22%) a WhatsApp (16% i 21%) i gyd yn amlach i gyrchu newyddion nag yn 2020.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

Related content