Traciwr Fforddadwyedd Gwasanaethau Cyfathrebu

27 Chwefror 2024

Mae Ofcom yn monitro profiadau pobl o wasanaethau cyfathrebu yn rheolaidd. Mae’r crynodeb hwn yn disgrifio canfyddiadau ein hymchwil ddiweddaraf i fforddadwyedd gwasanaethau band eang, symudol, llinell dir a theledu-drwy-dalu yn y cartref.

I weld mwy o wybodaeth am ein gwaith ar fforddadwyedd, ewch i'r dudalen Fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu.

Mae 8 miliwn o aelwydydd y DU yn parhau i gael trafferth fforddio gwasanaethau cyfathrebu

Ym mis Ionawr 2024, roedd ychydig o dan dri o bob deg (28%) o aelwydydd y DU yn ein harolwg yn cael trafferth fforddio gwasanaeth cyfathrebu. Mae hyn wedi aros yn gyson ers mis Ebrill 2022.

At ei gilydd, rydym yn amcangyfrif bod tua 8 miliwn o aelwydydd y DU (+/- 800,000)yn parhau i'w chael hi'n anodd fforddio gwasanaeth(au) cyfathrebu.

Fel y gwelwyd mewn tonnau blaenorol, mae aelwydydd â phlant, y rhai sy’n derbyn budd-daliadau a’r rhai â phreswylydd â chyflwr sy’n effeithio/cyfyngu ar fywyd yn parhau i fod ymhlith y rhai sydd fwyaf tebygol o brofi anhawster wrth fforddio gwasanaethau cyfathrebu.

Noder bod y siart isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae aelwydydd yn parhau i wneud newidiadau i'w gwasanaethau cyfathrebu a lleihau gwariant ar bethau eraill fel y gallant eu fforddio

Mae cyfran yr aelwydydd sy’n lleihau gwariant ar bethau eraill i fforddio gwasanaethau cyfathrebiadau, megis ar fwyd neu ddillad (13%) a/neu sy’n gwneud newidiadau i wasanaeth cyfathrebu (e.e. pecyn wedi’i newid neu dariff) (12%), wedi aros ar yr un lefel ag ym mis Hydref 2023. Yn yr un modd, mae aelwydydd sydd wedi canslo gwasanaeth cyfathrebu yn ystod y mis diwethaf (8%), gwneud newidiadau i ddull talu (5%) a methu taliad (5%), yn parhau ar yr un lefel â’r hyn a adroddwyd ym mis Hydref 2023. Mae pob un o’r pum mater fforddiadwyedd wedi aros yn ddigyfnewid yn fras ers mis Ionawr 2023.

Noder bod y siart isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae aelwydydd yn parhau i wynebu problemau fforddiadwyedd gyda gwasanaethau cyfathrebiadau

Ym mis Ionawr 2024, aelwydydd a oedd yn cymryd teledu-drwy-dalu (13%) a/neu wasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifiad (SVoD) (12%) oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn cael trafferth fforddio’r gwasanaethau hyn. Roedd wyth y cant o gartrefi â band eang sefydlog yn ei chael hi'n anodd fforddio eu gwasanaeth, mae hyn yn cyfateb i tua 1.9 miliwn (± 500,000) o aelwydydd yn y DU a 9% o’r rhai â ffôn symudol, sy’n cyfateb i tua 2.4 miliwn (± 500,000) yn y DU aelwydydd, yn ei chael yn anodd fforddio eu gwasanaeth yn ystod y mis blaenorol. O gymharu â mis Hydref 2023, mae aelwydydd â llinell dir sy'n dweud eu bod yn cael trafferth fforddio eu gwasanaeth wedi gostwng (3% o'i gymharu â 7%), ac mae hyn yn dychwelyd i lefelau sy'n debyg i'r hyn a welwyd mewn tonnau blaenorol.

Noder bod y siart isod ar gael yn Saesneg yn unig.

* Mae ymatebwyr sy'n darparu digon o ddata personol (incwm yr aelwyd a nifer y plant yn yr aelwyd) wedi'u dyrannu i dair lefel o fregusrwydd ariannol: Mwyaf, Posibl a Lleiaf.

Traciwr fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu - atodiad technegol

Traciwr fforddadwyedd gwasanaethau cyfathrebu - atodiad technegol (Hydref 2023) (PDF, 253.1 KB) (Saesneg yn unig)

Lawrlwytho'r data data

Mae'r data yn y siartiau hyn ar gael i'w lawrlwytho drwy ein calendrau datganiad ystadegol. (Saesneg yn unig)

Data o ymchwil flaenorol

Noder bod yr isod yn Saesneg.