Agweddau oedolion a'u defnydd o gyfryngau


Mae'r adroddiad blynyddol ar agweddau oedolion a'u defnydd o gyfryngau'n darparu tystiolaeth ar y defnydd o'r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth, a sut mae'r rhain yn newid dros amser, ymhlith oedolion y DU sy'n 16 oed neu'n hŷn.

Adroddiad agweddau oedolion a'u defnydd o gyfryngau 2024

Mae gan Ofcom gyfrifoldeb i hyrwyddo, a chynnal ymchwil i ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Gan alw i raddau helaeth ar ein harolygon Traciwr Ymwybyddiaeth Oedolion o'r Cyfryngau meintiol, mae'r adroddiad hwn yn darparu tystiolaeth ar ddefnydd, agweddau a dealltwriaeth y cyfryngau ymhlith oedolion 16 oed a throsodd yn y DU.

Mae'r adroddiad yn ddogfen gyfeirio ar gyfer diwydiant, rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Mae'n cefnogi ein gwaith ehangach ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau a'r rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau.

Adults' media use and attitudes report 2024 (PDF, 5.9 MB)

Adroddiad ar Agweddau Oedolion a’u Defnydd o Gyfryngau (PDF, 1020.1 KB)

Adults' media use and attitudes report 2024 – interactive data

Mae data sylfaenol Traciwr Ymwybyddiaeth Oedolion o'r Cyfryngau ar gael yn ein calendr rhyddhau ystadegol, yn ogystal â'r holiaduron a'r adroddiad technegol.

Am adroddiadau hŷn sydd heb eu rhestru uchod, ewch i'r Archif Genedlaethol