Plant a Rhieni: Adroddiad ar Agweddau a Defnydd o Gyfryngau

16 Mawrth 2020

Mae'r adroddiad hwn yn archwilio llythrennedd plant yn y cyfryngau. Mae’n rhoi tystiolaeth fanwl am ddefnyddio’r cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth ymhlith plant a phobl ifanc 5-15 oed, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am fynediad i’r cyfryngau a defnydd ymhlith plant 3-4 oed.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys canfyddiadau sy’n ymwneud â safbwyntiau rhieni am ddefnydd eu plant o gyfryngau, a’r ffordd mae rhieni yn ceisio – neu’n penderfynu peidio – monitro neu gyfyngu ar ddefnydd o wahanol fathau o gyfryngau.

Mae’r adroddiad yn ddogfen gyfeirio ar gyfer y diwydiant, rhanddeiliaid a defnyddwyr. Mae hefyd yn rhoi cyd-destun i'r gwaith mae Ofcom yn ei wneud i hyrwyddo buddiannau defnyddwyr a dinasyddion yn y marchnadoedd a reoleiddir gennym.

Roedd Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn rhoi dyletswydd ar Ofcom i hyrwyddo a chynnal ymchwil ym maes llythrennedd yn y cyfryngau. Mae’r adroddiad hwn ar blant a rhieni yn cyfrannu at sicrhau bod Ofcom yn cyflawni’r ddyletswydd hon.