Cysylltu â chwmnïau ffôn, band eang a theledu drwy dalu: profiadau cwsmeriaid sy'n agored i niwed

14 Mehefin 2021

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil sy'n ymchwilio i brofiadau rai cwsmeriaid mewn amgylchiadau sy'n eu gwneud yn agored i niwed, y maent wedi bod mewn cysylltiad â'u darparwyr gwasanaethau cyfathrebu'n ddiweddar. Yn benodol, mae'r adroddiad yn archwilio p'un a yw'r cwsmeriaid hyn wedi profi gwasanaeth sy'n cyfateb i'r mesurau yn ein canllaw trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg (PDF, 1.6 MB) ai beidio.

I gyd-fynd â'r ymchwil, rydym wedi cyhoeddi crynodeb sy'n cynnwys canfyddiadau allweddol o'r ymchwil, mewnwelediad o'n hymgysylltu diweddar â sefydliadau cwsmeriaid ac elusennau, a'r camau nesaf yr ydym yn eu cynnig.

Prif ddogfennau

Cysylltu â chwmnïau ffôn, band eang a theledu drwy dalu: profiadau cwsmeriaid sy'n agored i niwed – trosolwg (PDF, 105.6 KB)

Contacting phone, broadband and pay-TV companies: vulnerable customers’ experiences – full research report (PDF, 1.4 MB) (Saesneg yn unig)