Gwasanaethau Rhaglenni Teledu ac Ar-alw: Adroddiad Gwasanaethau Mynediad ar gyfer Ion-Rhag 2019

Gwasanaethau Rhaglenni Teledu ac Ar-alw: Adroddiad Gwasanaethau Mynediad ar gyfer Ionawr-Rhagfyr 2019

Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu sy’n cael eu darlledu a gwasanaethau rhaglenni ar-alw wedi darparu is-deitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (gyda’i gilydd, “gwasanaethau mynediad”) yn 2019.

Mae’r adroddiad yn galluogi defnyddwyr i gymharu i ba raddau mae teledu sy’n cael ei ddarlledu yn y ffordd draddodiadol a gwasanaethau dal-i-fyny neu ar-alw yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg.

Mae’r rheolau statudol ar gyfer gwasanaethau darlledu yn wahanol i’r rhai ar gyfer gwasanaethau ar-alw. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch; mae’r Cod ar gyfer Gwasanaethau Hwyluso’r Defnydd o Deledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.

Ni fu gofyniad cyfreithiol i ddarparu gwasanaethau mynediad ar gyfer gwasanaethau ar-alw (gan gynnwys dal-i-fyny). Fodd bynnag, mae Deddf Economi Ddigidol 2017 yn dangos y ffordd er mwyn i’r Llywodraeth ddrafftio rheoliadau i wella hygyrchedd gwasanaethau rhaglenni ar-alw.  Mae Ofcom wedi gwneud set o argymhellion i gyfrannu at y rheoliadau, ac mae’n paratoi ail ymgynghoriad ar hyn o bryd er mwyn darparu gwybodaeth bellach i Lywodraeth y DU.

Rydym wedi darparu'r adroddiad hwn mewn ffurf rhyngweithiol fel gall defnyddwyr gymharu hygyrchedd y gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau. Yn ogystal â'r adroddiad, rydyn ni wedi darparu taflenni excel yn cynnwys yr holl setiau data.

Os oes gennych anghenion hygyrchedd nad ydynt yn cael eu cyflawni gan y cyhoeddiadau hyn ac eisiau'r wybodaeth mewn fformat amgen, gallwch ebostio accessibility@ofcom.org.uk neu ffoniwch ein llinell Gymraeg o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 sef 0300 123 2023 neu 029 7981 3042 neu ein Tîm Cynghori ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os oes gennych chi nam clywedol neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef  020 7981 3043 neu 0300 123 2024.

Adroddiad rhyngweithiol llawn

I gael y profiad gorau, defnyddiwch y sgrin llawn (cliciwch ar y botwm ar waelod yr ochr dde.) Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Setiau data

Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Broadcast – all data (CSV, 51.8 KB)

ODPS – all data (CSV, 258.7 KB)