Cysylltu'r Gwledydd 2018: Prif Adroddiad

18 Rhagfyr 2018

Mae pobl bellach yn dibynnu ar gysylltiadau da ar gyfer galwadau a gwasanaethau ar-lein nawr mwy nag erioed, adre neu wrth deithio. Felly mae'n bwysig bod ganddynt fynediad i fand eang a chysylltiadau symudol o safon, i'w helpu i gadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau, i siopa a thalu biliau neu i ffrydio rhaglenni teledu poblogaidd.

Mae adroddiad Cysylltu'r Gwledydd yn dilyn cynnydd yng ngwasanaethau sefydlog a symudol y DU ac yn rhoi crynodeb am y rhan mae Ofcom yn chwarae i'w gwella nhw. Mae'r adroddiad yn dangos y gwaith mae Ofcom yn ei wneud ochr yn ochr â llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig a'r cwmnïau cyfathrebu, i wella argaeledd gwasanaethau sefydlog a symudol ar draws y DU.

Darllenwch adroddiad Cysylltu'r Gwledydd Cymru

Methodoleg (PDF, 253.8 KB)