Profiad defnyddwyr o ffonau symudol

05 Hydref 2023

I gael gwybodaeth am brofiad defnyddwyr o ddefnyddio ffonau symudol, fe sefydlon ni banel o ddefnyddwyr ffonau symudol a lwythodd ap i lawr i'w ffôn symudol Android. Mae’r ap yn casglu gwybodaeth am y ffordd y maent yn defnyddio’u dyfais, yn mesur perfformiad gwasanaethau’r ap a ddefnyddir, ac yn gofyn i’r defnyddiwr am eu barn am ansawdd y cysylltiad. Mae hyn yn ein galluogi i gael gwybod rhagor am brofiad defnyddwyr o ddefnyddio ffonau symudol a sut mae hyn yn amrywio yn ôl nifer o ffactorau gan gynnwys lleoliad daearyddol, technoleg y rhwydwaith, yr amser o'r dydd, y rhaglenni a’r rhwydwaith symudol a ddefnyddir.

Mae'r ymchwil hwn yn rhan o raglen waith ehangach gan Ofcom i ymchwilio ac i ddarparu gwybodaeth am ansawdd ffonau symudol. Mae'r data yn yr adroddiad hwn, sydd ar gael yn Gymraeg, yn berthnasol i berfformiad pan mae'r darpariaeth rhwydwaith ar gael wrth ddarparwr. Fodd bynnag, y penderfynwr pwysicaf o brofiad y defnyddiwr yw argaeledd y signal symudol a'i ansawdd. Mae gwiriwr band eang a symudol Ofcom, sydd ar gael yn Gymraeg, yn darparu gwybodaeth fanwl am ddarpariaeth symudol o'r 4 gweithredwr symudol mwyaf ar draws y DU.

Adroddiad 2018

Profiad defnyddwyr o ffonau symudol: Mesur profiad y defnyddiwr o ddefnyddio gwasanaethau symudol Android (PDF, 1.8 MB)

Y profiad defnyddwyr symudol: Methodoleg Technegol yn Saesneg (PDF, 250.5 KB)

Y profiad defnyddwyr symudol: Methodoleg Ystadegol yn Saesneg (PDF, 205.9 KB)

Data rhyngweithiol