Materion symudol

20 Gorffennaf 2023

Mae ffonau clyfar a chysylltedd symudol yn rhan hanfodol o fywyd bob dydd i'r mwyafrif o bobl yn y DU. Er mwyn deall yn well y profiad a gânt, mae Ofcom wedi dadansoddi data torfol a gasglwyd rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023 o ddyfeisiau symudol ar draws y DU.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn canolbwyntio ar:

  • y gyfran o gysylltiadau ar draws technolegau rhwydwaith di-wifr (2G, 3G, 4G, 5G a Wi-Fi);
  • cyfradd lwyddiant y cysylltiadau data symudol;
  • amserau ymateb gwahanol dechnolegau symudol;
  • amserau lawrlwytho ac uwchlwytho ffeiliau o wahanol feintiau; a
  • chyflymderau lawrlwytho ac uwchlwytho.

Rydym hefyd yn edrych ar sut mae'r rhain yn amrywio yn ôl gweithredwr a lleoliad y rhwydwaith.

Adroddiad 2023

Adroddiad Materion Symudol 2023 - Trosolwg (PDF, 342.8 KB)

Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg:

Mobile Matters 2023: Chart data (CSV, 25.5 KB)

Interactive report

Adroddiadau blaenorol