Newyddion a gwybodaeth am Covid-19: defnydd ac agweddau

17 Rhagfyr 2021

Mewn ymateb i Covid-19, mae Ofcom yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynghylch sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am yr argyfwng.

Ar ddiwedd mis Mawrth gwnaethon ni gomisiynu arolwg ar-lein wythnosol o oddeutu 2,000 o bobl yn wythnosol. Rydyn ni hefyd yn darparu canfyddiadau allweddol o setiau data eraill fel BARB a ComScore.

Rydyn ni'n cyhoeddi hwn fel rhan o'n dyletswyddau llythrennedd y cyfryngau a'n rhaglen Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau .  Mae'r gwaith hwn yn ehangu ein dealltwriaeth ynghylch mynediad, defnydd ac ymgysylltiad beirniadol gyda'r newyddion yn ystod y cyfnod hwn, gan adnabod y gall tueddiadau ddwysau neu newid oherwydd natur yr argyfwng. Am ddefnydd o'r newyddion ac agweddau cyn Covid-19, darllenwch Arolwg Defnydd o'r Newyddion Ofcom

Oherwydd y pryderon cynyddol ynghylch camwybodaeth yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni hefyd yn cynnig gwybodaeth ynghylch gwefannau ac offer gwirio ffeithiau a'r gwir a'r gau .

Canfyddiadau o wythnos 76

Canlyniadau blaenorol

Wythnos 72

Week 72

Wythnos 67

Wythnos 67

Wythnos 59

Wythnos 55

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi'r dadansoddiad canlynol sydd ar gael yn Saesneg yn unig.

Effects of Covid-19 on TV viewing (April 2021) (PDF, 238.1 KB)

Arolwg defnydd plant o'r newyddion: Prif Ganfyddiadau Covid-19 Mawrth 2021 

Fel rhan o'n hastudiaeth Defnydd Newyddion yn y DU yn 2021, gwnaethon ni holi tua 500 o bobl ifanc 12-15 oed am eu defnydd o gynnwys newyddion ar draws gwahanol lwyfannau yn ystod pandemig Covid-19 rhwng 24 Tachwedd a 7 Rhagfyr 2020. Gwnaethon ni holi tua 500 o bobl ifanc 12-15 oed arall am eu defnydd o gynnwys newyddion rhwng 27 Chwefror a 24 Mawrth 2021 wrth i bandemig Covid-19 barhau.

  • Ym mis Mawrth 2021, fel ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, dywedodd 93% o bobl 12-15 oed eu bod wedi cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws 'yn ystod yr wythnos ddiwethaf'.
  • Ym mis Mawrth 2021, fel ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, dywedodd 93% o bobl 12-15 oed eu bod wedi cael gafael ar newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws 'yn ystod yr wythnos ddiwethaf'.
  • Ar gyfartaledd, roedd pobl ifanc 12-15 oed yn defnyddio 4.6 ffynhonnell ar gyfer newyddion am y coronafeirws ym mis Mawrth 2021.Teulu (55%), Teledu’r BBC (35%), ffrindiau (32%) ac 'ysgol neu athro' (32%) yw'r ffynonellau mwyaf poblogaidd o hyd ar gyfer newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws ymhlith pobl ifanc 12-15 oed.
  • O'i gymharu â mis Tachwedd/Rhagfyr 2020, ym mis Mawrth 2021, cafwyd cynnydd yn y defnydd o deledu'r BBC (35% o gymharu â 27% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020), cyrff swyddogol fel Sefydliad Iechyd y Byd neu'r GIG (16% o gymharu â 9% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020) a ffynonellau cyfryngau cymdeithasol (53% o gymharu â 39% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020) ar gyfer dod o hyd i newyddion a gwybodaeth am y coronafeirws.
  • Roedd 63% o bobl ifanc 12-15 oed yn cytuno bod gormod yn y newyddion am coronafeirws ym mis Mawrth 2021, i fyny o 54% ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020.
  • Roedd 66% o bobl ifanc 12-15 oed yn cytuno eu bod yn ei chael hi'n anodd gwybod beth oedd yn wir a beth oedd yn ffug am coronafeirws, yn gyson â Thachwedd/Rhagfyr 2020 (62%). Roedd y rhai sy'n dibynnu'n bennaf neu'n llwyr ar bobl y maent yn eu hadnabod am newyddion am coronafeirws, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, yn fwy tebygol o gytuno â hyn (76% yn cytuno) na'r rhai sy'n dibynnu'n bennaf neu'n llwyr ar y cyfryngau neu ffynonellau swyddogol (62% yn cytuno).
  • Ym mis Mawrth 2021 gofynnwyd i bobl ifanc 12-15 oed a oeddent yn dibynnu ar y cyfryngau a ffynonellau swyddogol neu bobl y maent yn eu hadnabod (fel ffrindiau neu deulu), gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, am newyddion am coronafeirws. Dywedodd 45% eu bod yn dibynnu'n llwyr/yn bennaf ar y cyfryngau neu ffynonellau swyddogol. Roedd 28% yn dibynnu'n gyfartal ar y cyfryngau a ffynonellau swyddogol, a phobl y maent yn eu hadnabod. Yn olaf, roedd 27% yn dibynnu'n llwyr/yn bennaf ar bobl yr oeddent yn eu hadnabod - oll yn gyson â'r canfyddiadau ym mis Tachwedd/Rhagfyr 2020.

Wythnos 51

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi'r dadansoddiad canlynol sydd ar gael yn Saesneg yn unig.

Effects of Covid-19 on TV viewing (March 2021) (PDF, 398.8 KB)

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?