Amlygrwydd Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig: Adroddiad ar hwylustod canfod gwasanaethau PSB a theledu lleol

27 Hydref 2020

Roedd Deddf Economi Ddigidol 2017 yn ychwanegu dyletswydd at Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 a oedd yn mynnu bod Ofcom, o bryd i'w gilydd, yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiad yn delio â'r wybodaeth sy’n cael ei darparu gan gyfeiryddion rhaglenni electronig am sianeli gwasnaethau cyhoeddus a chynnwys fideo ar-alwad gan y darlledwyr hyn a mynediad at y cynnwys hwnnw.

Yr adroddiad hwn yw'r un cyntaf lle rydyn ni'n cyflawni ein dyletswydd newydd yn unol â'r Ddeddf Economi Ddigidol ac yn darparu asesiad o argaeledd a hwylustod canfod cynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) a theledu lleol. Mae'n ystyried yr amrywiaeth o lwyfannau teledu a dyfeisiau sydd ar gael, sut mae pobl yn gwylio teledu, a sut mae modd dod o hyd i gynnwys PSB -yn cynnwys drwy sianeli, chwaraewyr fideo ar alw, (fel BBC iPlayer neu All 3) a thrwy darnau unigol o gynnwys sydd ar gael ar alw -fel argymhellion neu'r 'dewisiadau gorau.'

Ochr yn ochr â'r adroddiad hwn, gwnaethon ni lansio ymgynghoriad ar ein newidiadau arfaethedig i'r Cod EPG a dewisiadau ynghylch rheoleiddio pellach ar gyfer amlygrwydd fideo gwasanaethau ar alw.

Darllenwch yr adroddiad

Amlygrwydd Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig: Adroddiad ar hwylustod canfod gwasanaethau iaith Gymraeg a gwasanaethau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a theledu lleol eraill (PDF, 514.7 KB)