Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC

30 Tachwedd 2023

Dyma chweched Adroddiad Blynyddol Ofcom ar y BBC lle rydym yn asesu perfformiad y BBC yn erbyn pob maes o'n rheoleiddio ac yn amlinellu sut rydyn ni wedi cyflawni ein rôl.

Rydym yn gyfrifol am ddwyn y BBC i gyfrif ar ran cynulleidfaoedd drwy ddarparu rheoleiddio teg, cadarn ac annibynnol. Y tair prif agwedd ar ein rôl yw: goruchwylio perfformiad y BBC o ran cyflawni ei Chenhadaeth a'i Dibenion Cyhoeddus; diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol; a sicrhau safonau cynnwys yn rhaglennu'r BBC.

Bob blwyddyn mae'n ofynnol i ni gyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaeth fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac asesu cydymffurfiaeth y BBC â gofynion ein Fframwaith Gweithredu a'n dogfennau cysylltiedig. Bob blwyddyn o leiaf, rhaid hefyd i ni adrodd ar sut mae'r BBC wedi perfformio yn erbyn y mesurau perfformiad yr ydym wedi'u gosod. Mae data a thystiolaeth sylfaenol sy'n cefnogi ein hasesiad wedi'u cynnwys yn yr adroddiad rhyngweithiol (Saesneg yn unig) sy'n cyd-fynd ag ef.

Darllen yr adroddiad llawn

Chweched adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 7.3 MB)

Mae'r ddogfen isod yn Saesneg.

Atodiad: Chweched adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC (PDF, 1.1 MB)

Adroddiadau blaenorol