Adroddiad: Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad mewn teledu a radio

15 Rhagfyr 2023

Bob blwyddyn, mae Ofcom yn cywain data gan ddarlledwyr teledu a radio ar gyfansoddiad eu gweithluoedd. Mae'r adroddiadau hyn yn nodi ein canfyddiadau ynghylch cynnydd y diwydiant.

Adroddiad 2022-23

Mae adroddiad eleni yn nodi carreg filltir yn ein hymgyrch i hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiad ("EDI") ym maes darlledu. Am y tro cyntaf, rydym yn adrodd ar amrywiaeth darlledwyr yn ôl ardal ddaearyddol o'n harolwg gweithlu meintiol wedi'i ddiweddaru. Rydym hefyd wedi gallu deall yn well y camau y mae darlledwyr yn eu cymryd ar draws gwahanol feysydd o EDI yn dilyn lansio ein teclyn hunanasesu ansoddol  newydd.

Dyma ddatblygiad pwysig i ni, wrth i ni ddechrau dadansoddi ac olrhain y ddwy set ddata newydd, gan adeiladu ar ein hadroddiadau blaenorol, i roi darlun gwell o bwy sy'n gweithio ym maes darlledu ac ategu hyn gyda chipolwg newydd ar sut mae darlledwyr yn datblygu eu dull o ymdrin ag EDI.

Tegwch Amrywiaeth a Chynhwysiad ar y Teledu ar Radio 2022-23 (PDF, 2.9 MB)

Mae'r dogfennau isod yn Saesneg.

Equity, Diversity and Inclusion in Broadcasting 2022-23 (PDF, 3.3 MB)

Methodology report (PDF, 396.9 KB)

Data rhyngweithiol

Equity, Diversity and Inclusion in Broadcasting, Workforce Survey 2023 - Interactive Data Report

Holiaduron

Quantitative workforce survey (PDF, 821.7 KB)

Qualitative self-assessment tool  (PDF, 505.0 KB)

Amserlen o'n gwaith EDI ym maes darlledu

 Ffigur 15: Amserlen ein gwaith TegACh mewn gwaith darlledu  2017: Dechreuodd Ofcom ei raglen waith bresennol ar amrywiaeth ym maes darlledu, gan fynnu bod darlledwyr teledu yn darparu data amrywiaeth i ni ar gyfer y bobl maen nhw’n eu cyflogi. Roeddem wedi cyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ym mis Medi 2017.  2018: Aethom ati i ymestyn ein rhaglen fonitro i ddarlledwyr radio, gan ein galluogi ni i gyhoeddi adroddiadau   ar amrywiaeth a chyfle cyfartal ym maes darlledu ar y teledu a’r radio.  2019: Dechreuom gasglu data economaidd-gymdeithasol.  2020: Am y tro cyntaf, fe wnaethom gyfuno ein canfyddiadau teledu a radio, a chyhoeddi data mewn adnodd rhyngweithiol. Fe wnaethom hefyd lansio ein hyb amrywiaeth ar-lein newydd, sy’n adnodd canolog ar gyfer rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth.  2021: Fe wnaethom gynnal ein hadolygiad 5 mlynedd, gan bwyso a mesur y cynnydd a wnaed, a nodi ein   gweledigaeth ar gyfer sector darlledu cynhwysol. Cyhoeddom hefyd adolygiad i adnewyddu ein proses casglu data.  2022: O ran mewnbwn rhanddeiliaid, fe wnaethom ailwampio ein hadnoddau casglu data. Aethom ati i ddiweddaru ein   harolwg o ddata’r gweithlu a chreu adnodd hunanasesu TegACh ansoddol newydd ar gyfer darlledwyr/  2023: Fe wnaethom lansio ein hadnoddau data newydd a dechrau casglu data ar leoliad daearyddol a chyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â data trawstoriadol i’n helpu i ddeall sut mae anfantais yn dwysáu pan fo nodweddion penodol yn cael eu cyfuno. Mae adroddiad eleni wedi dod â chanfyddiadau’r ddau arolwg at ei gilydd i ddechrau set newydd o ddata a dealltwriaeth uwch.

Adroddiadau blaenorol