20 Mawrth 2020

Gwasanaeth band eang cyffredinol i gartrefi a busnesau yn dechrau heddiw -cyngor i gwsmeriaid

Mae rheolau newydd sy’n rhoi’r hawl i chi i ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy, yn dod i rym heddiw (20 Mawrth).

Mae gwasanaeth band eang cyffredinol y DU, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, yn rhoi hawl gyfreithiol i gartrefi a busnesau cymwys ofyn am uwchraddiad i’w cysylltiad os nad ydynt yn gallu cael y cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad a chyfymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad.

BT sy’n gyfrifol am gysylltu eiddo, heblaw am ardal Hull lle mae KCOM yn ddarparwr dynodedig.

Mae adnoddau cwmnïau band eang ar hyn o bryd o dan bwysau sylweddol oherwydd y Coronafeirws (Covid-19). Felly cyn cysylltu â BT neu KCOM gyda’ch cais, rydyn ni’n argymell eich bod yn ymweld â gwefannau BT neu KCOM os gallwch chi, yn hytrach na ffonio’r cwmnïau. Yma, gallwch chi wirio os ydych chi’n gymwys a dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i wneud cais.

Efallai gwnewch chi ddarganfod y gallwch chi uwchraddio i gysylltiad cyflymach drwy wasanaeth sefydlog neu ddiwifr. Mae argaeledd cynyddol gwasanaethau band eang diwifr wedi lleihau’r nifer o eiddo sy’n methu cael band eang digonol yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Rydyn ni hefyd yn eich cynghori chi i sicrhau bod eich gwasanaeth band eang presennol yn gweithio yn effeithiol. Mae ein canllaw yn cynnwys camau ymarferol a syml gallwch chi gymryd eich hunan i geisio gwella eich cyflymderau band eang yn eich cartref.

Pwy sy’n gymwys?

Mae cartref neu fusnes yn gymwys os:

  • nad oes ganddo fynediad at fand eang teilwng; ac
  • ni fydd yn cael ei gysylltu fel rhan o gynllun arian cyhoeddus yn ystod y 12 mis nesaf.

Hefyd os ydych chi’n gallu cael gwasanaeth teilwng yn barod, ond yn gorfod talu dros £46.10 y mis am hynny ar hyn o bryd, bydd gennych hawl i ofyn am gysylltiad gwasanaeth cyffredinol. Cafodd y trothwy ei osod ar £45 llynedd, i’w ddiweddaru’n flynyddol yn unol â chwyddiant CPI.

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Os yw’n costio £3,400 neu lai i gysylltu eiddo, bydd BT neu KCOM yn talu am y gwaith hwn. Os bydd y gwaith gofynnol yn costio mwy, gallwch ddewis talu’r costau ychwanegol. Efallai y bydd datrysiadau amgen ar gael, fel band eang lloeren, neu gysylltiad wedi’i adeiladu drwy gynllun arian cyhoeddus.

Os ydych yn cael eich cysylltu drwy’r gwasanaeth cyffredinol newydd, byddwch yn talu’r un pris ag unrhyw un arall yn y DU sydd ar yr un pecyn.

See also...