12 Mawrth 2020

Ofcom yn rhoi dirwy o £245,000 i BT am godi gormod ar gwsmeriaid EE am alwadau 118

Mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £245,000 i BT ar ôl i’r cwmni godi gormod ar gwsmeriaid ffonau symudol EE am wneud galwadau i wasanaethau ymholiadau rhifau ffôn 118.

Er bod y defnydd o ymholiadau rhifau ffôn wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o bobl yn dal i ddibynnu arnynt i gael y rhif sydd ei angen arnynt. Mae pobl hŷn a’r rheini heb fynediad at y rhyngrwyd yn fwy tebygol o wneud galwadau 118.

Er mwyn diogelu pobl agored i niwed a sicrhau prisiau tecach, fe wnaethom gyflwyno cap prisiau ar rifau ffôn 118 ym mis Ebrill 2019. Fodd bynnag, fe wnaethon ni ganfod nad oedd BT wedi rhoi hyn ar waith ar unwaith ar gyfer cwsmeriaid EE.

O ganlyniad, rhwng mis Ebrill a mis Mehefin y llynedd, codwyd tua £42,000 yn ormod ar bron i 6,000 o gwsmeriaid EE am wneud galwadau i rifau 118. Fodd bynnag, llwyddodd BT i gywiro’r rhan fwyaf o’r biliau cyn i gwsmeriaid EE eu talu. Roedd hyn yn golygu mai cwsmeriaid EE dalodd am tua £10,000 o’r cyfanswm a or-dalwyd. Mae’r holl gwsmeriaid wedi cael eu had-dalu ers hynny.

Roedd methiant BT i roi’r cap prisiau ar waith ar gyfer rhifau 118 yn enghraifft ddifrifol o dorri ein rheolau, yn enwedig o ystyried bod pobl agored i niwed o bosibl yn defnyddio gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn. Felly rydyn ni wedi rhoi dirwy o £245,000 i BT heddiw.

Mae’r ddirwy yn cynnwys gostyngiad o 30% i gydnabod bod BT wedi cyfaddef ei fethiannau drwy gytuno i setlo’r achos.

Bydd yr arian o’r ddirwy yn gael ei drosglwyddo i Drysorlys ei Mawrhydi. Mae’n rhaid ei thalu i  Ofcom cyn pen 20 diwrnod gwaith.

See also...