23 Gorffennaf 2020

Rhaid i delathrebu ddysgu gwersi Covid-19 a chyflwyno newidiadau

Y Fonesig Melanie Dawes

Pan ddaeth ffliw Sbaen i’r DU yn 1918, nid oedd gweithio neu ddysgu gartref yn opsiwn. Dal ati i agor wnaeth ysgolion a ffatrïoedd llawn mwg Prydain i raddau helaeth, ac roedd yn rhaid i deuluoedd a oedd ar wasgar gadw mewn cysylltiad drwy’r post neu delegram.

Ond heddiw, wrth i’n gweithwyr iechyd weithio i achub bywydau rhag y coronafeirws, mae ein cwmnïau telegyfathrebiadau a’u gweithwyr allweddol wedi bod yn helpu i gyfyngu ar ei effaith ar fywydau a bywoliaeth.

Mae ffrydio fideos a rhith-gyfarfodydd wedi galluogi pobl i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfyngiadau symud, ac roedd y rhain yn hanfodol i helpu nifer o gwmnïau i aros mewn busnes. Mae cydweithwyr ac ystafelloedd dosbarth wedi aros gyda’i gilydd dros y we, hyd yn oed pan oeddent yn cadw pellter yn gymdeithasol.

Gwnaeth cwmnïau band eang wynebu’r her o gadw pobl a busnesau mewn cysylltiad, wrth i’w rhwydweithiau ymdopi â'r galw ychwanegol. Dydyn nhw erioed wedi bod mor bwysig i’n cymdeithas a’n heconomi.

Ond gyda’r statws hwnnw daw dyletswydd arbennig i drin cwsmeriaid yn deg – yn enwedig y rhai sy’n ei chael hi'n anodd mewn cyfnod o heriau aruthrol i lawer o bobl.

Mae un o bob pedwar yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n bryderus wrth gysylltu â darparwr gwasanaeth hanfodol. I’r bobl sy’n dioddef problemau ariannol, emosiynol neu iechyd, gall y pryder hwnnw gael ei ddwysáu. Mae rhai yn dibynnu ar fand eang i reoli eu harian neu i chwilio am waith, i redeg busnes bach neu i gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Ac i’r bobl heb fand eang sy'n hen ac yn hunanynysu – neu wedi’u hynysu – mae’r llinell dir syml yn hanfodol.

Felly mae Ofcom, gyda Llywodraeth y DU, yn gweithio i sicrhau bod darparwyr ffôn, band eang a theledu drwy dalu yn trin cwsmeriaid yn deg yn ystod y coronafeirws. Ym mis Mawrth ymrwymodd y prif gwmnïau i gynnig cymorth i gwsmeriaid sydd o dan bwysau, a chroesawyd y cam hwnnw.

Mae gan Ofcom hefyd reolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr cyfathrebiadau ddefnyddio gofal ychwanegol wrth drin cwsmeriaid sy'n agored i niwed. Felly heddiw rydym yn cyhoeddi camau ymarferol manwl y gallant eu cymryd.

Gall unrhyw un fod mewn sefyllfa heriol, ac weithiau bydd hynny’n digwydd dros nos. Yn ogystal â phobl sydd ar ei hôl hi gyda’u biliau, mae ein mesurau’n berthnasol i bobl sy'n dioddef problemau iechyd meddwl neu gorfforol, gan gynnwys Covid-19, neu bobl sydd wedi colli eu hanwyliaid yn ddiweddar.

Gall fod yn anodd pennu’r bobl sydd angen cymorth ychwanegol, felly rydyn ni’n galw ar gwmnïau i ddarparu hyfforddiant arbenigol i staff rheng flaen. Rydym hefyd yn gwybod pa mor rhwystredig mae’n gallu bod pan fydd yn rhaid i chi esbonio’r un broblem i wahanol bobl. Felly, dylai cwmnïau gadw gwybodaeth am anghenion cwsmeriaid a chaniatáu i staff cyswllt weld yr wybodaeth yn gyfrinachol.

Dylai cwmnïau gynnig amrywiaeth eang o ffyrdd o gysylltu – nid dim ond ffurflenni gwe, ond hefyd y ffôn, post a sianeli arbenigol i bobl ag anableddau.

Rydym hefyd yn galw am bolisïau clir, diweddar i gwsmeriaid mewn sefyllfaoedd anodd – sy’n seiliedig ar gyngor gan arbenigwyr, elusennau a grwpiau defnyddwyr – gydag uwch swyddogion gweithredol yn atebol am eu gwreiddio yn niwylliant eu cwmni.

Gall hyn i gyd wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl sy’n cael y trafferthion mwyaf, a’r rhai sy'n dibynnu'n fawr ar eu ffôn, band eang neu deledu. Gall olygu cynnig gwyliau talu i deuluoedd ar incwm isel, neu ddioddefwyr troseddau gofidus ddim yn gorfod talu am gontract ffôn symudol tra bydd eu ffonau symudol gan yr heddlu.

Wrth edrych ymlaen ymhellach i’r dyfodol, mae'r coronafeirws hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i fuddsoddi i sicrhau bod ein rhwydweithiau telegyfathrebiadau yn barod at y dyfodol. Mae'r gwifrau, y pibellau a’r polion hyn yn sail i’r economi a’n bywydau bob dydd. Mae’n bwysig eu bod yn datblygu gyda nhw.

Rydym yn cefnogi cynlluniau’r Llywodraeth am fand eang â chyflymder gigabit, wrth i fwy o bobl weithio, gwylio, dysgu a chwarae ar-lein. Mae Ofcom yn bwriadu buddsoddi mwy mewn cysylltiadau ‘ffeibr llawn’ gwibgyswllt dibynadwy, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.

Mae ffeibr llawn yn cyrraedd 12% o gartrefi heddiw ac yn tyfu’n gyflym, ond rydym am ei weld yn cyrraedd llawer iawn mwy o bobl. Felly, rydym yn datblygu rheolau prisio sy'n sicrhau elw i fuddsoddwyr yn y dyfodol, gan sicrhau bod pobl yn gallu fforddio gwasanaeth band eang da yn y cyfamser.

Y rhain yw ein blaenoriaethau wrth i’r sector telegyfathrebiadau adeiladu ar wersi’r pandemig hwn: tegwch i gwsmeriaid heddiw, yn enwedig y rhai sy'n ei chael hi’n anodd; a buddsoddi yn rhwydweithiau yfory.

Nid oes modd i ni ragweld a fydd y DU yn dyst i bandemig arall mor drasig â Ffliw Sbaen, neu Covid-19 heddiw, na pha bryd y bydd hynny'n digwydd. Ni allwn ychwaith ragweld pa dechnolegau telegyfathrebiadau yn y dyfodol a allai helpu i reoli ei effaith. Ond gallwn wneud yn siŵr bod cymorth ychwanegol ar gael nawr i'r rhai sydd ei angen fwyaf, gan gynllunio ar gyfer y rhwydweithiau a fydd yn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cadw mewn cysylltiad.

DIWEDD

Gwnaeth y darn barn hwn gan Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom, ymddangos am y tro cyntaf yn The Telegraph, Gorffennaf 23 2020

Cynnwys cysylltiedig