4 Mai 2020

Pobl yn cael llai o alwadau niwsans, ond mae mwy o waith i’w wneud

Mae cwsmeriaid ffonau cartref a symudol yn cael llawer llai o alwadau niwsans nag oedden nhw dair blynedd yn ôl, yn ôl ymchwil diweddar gan Ofcom.

Mae’r canfyddiadau i'w gweld mewn diweddariad i'r cynllun gweithredu ar y cyd a gyhoeddwyd fel rhan o’n gwaith gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) i fynd i'r afael â galwadau a negeseuon niwsans.

Tracio galwadau niwsans

Ym mis Ionawr 2020, roedd dau o bob pump o gwsmeriaid yn nodi eu bod wedi cael galwad niwsans ar eu ffôn yn y cartref– i lawr o dri ymhob pump ym mis Mai 2017. Fe wnaeth y nifer o bobl a gafodd alwad niwsans hefyd ostwng o 47% i 37% yn ystod yr un cyfnod.

Cwynion am alwadau niwsans

Cafodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth tua 37,000 yn llai o gwynion am alwadau a negeseuon niwsans na phum mlynedd yn ôl, gostyngiad o ryw 22%. Yn yr un modd, gwnaethon ni dderbyn hanner y nifer o gwynion am alwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael yn 2019, nag yn 2015, pan gafwyd y nifer mwyaf o gwynion.

Mwy o waith i’w wneud

Mae galwadau niwsans yn tarfu’n ddieisiau ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Maen nhw hefyd yn gallu achosi pryder a gofid, neu arwain at bobl yn cael eu sgamio gan dwyllwyr. Er ei fod yn galonogol bod cynnydd yn cael ei wneud, mae llawer mwy i’w wneud er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag niwed.

Mae’r cynllun gweithredu heddiw’n crynhoi’r gwaith parhaus rydyn ni’n ei wneud i fynd i'r afael â’r broblem. Mae hyn yn cynnwys atal galwadau niwsans yn y ffynhonnell, yn ogystal ag ymdrech gydlynus y diwydiannau bancio a thelegyfathrebiadau i fynd i’r afael â sgamiau, dan arweiniad Stop Scams UK. Mae’r diweddariad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar y cyd Ofcom a Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Sgamiau Covid-19

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac Ofcom hefyd yn ymwybodol o sgamiau sy’n ymwneud â Covid-19 ac yn gweithio i amddiffyn cwsmeriaid rhag y rhain.

Rydyn ni wedi cyhoeddi cyngor i ddefnyddwyr ar sut mae adnabod galwadau a negeseuon testun sy’n ymwneud â Covid-19, a sut i ddelio â nhw. Mae rhagor o gyngor mwy cyffredinol ar sut y gallwch chi ddiogelu eich hunan rhag galwadau a negeseuon dieisiau ar gael.

See also...