3 Chwefror 2020

Helpu i annog mwy o fenywod i ddilyn gyrfaoedd ym maes technoleg

Yn ddiweddar, aeth cynrychiolwyr o Ofcom i gynhadledd a drefnwyd gan Women Driven Development (WDD), sefydliad di-elw sydd â’r nod o sicrhau cynrychiolaeth gyfartal mewn sectorau technolegol.

Mae WDD wedi trefnu hacathons i ferched cyn hyn, ond y gynhadledd hon oedd y digwyddiad WDD cyntaf i gynrychiolwyr o Ofcom fynd iddo, sef Clare Cowie a Farhiya Mohamud.

Mae Ofcom wedi ymrwymo i helpu i gynyddu nifer y menywod a merched sy’n gweithio ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), ac mae digwyddiadau fel hyn yn gyfle i rannu gwybodaeth a chlywed am yr arferion gorau yn y maes.

Mae Clare yn uwch wyddonydd data yn Ofcom.

“Roedd cyflwyniadau’r diwrnod yn gymysgedd o straeon, a’r cyfan wedi’i gyflwyno gan grŵp amrywiol o ferched eithriadol a phobl anneuaidd ym maes technoleg. Cawsom glywed am deithiau personol pobl, a sut aethon nhw ati i newid gyrfa, yn ogystal â sgyrsiau technegol. Roedd pob cyflwyniad yn ddiddorol ac roeddem yn llawn ysbrydoliaeth erbyn diwedd y dydd.

“Fy uchafbwynt personol i oedd cyflwyniad gan Dr Rebecca Pope o KPMG am Ddeallusrwydd Artiffisial ym maes gofal iechyd. Fel gwyddonydd data, roedd gen i ddiddordeb arbennig yn ei barn ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial mewn modd moesegol, a’i dulliau o egluro modelau dysgu peirianyddol (ac roeddwn i eisiau gwybod o ble cafodd ei chrys t gyda logo NASA arno, ond y testun 'Women in STEM'!) Yn aml caiff Deallusrwydd Artiffisial ei weld fel ‘blwch du’, ac mae gen i ddiddordeb penodol mewn technegau delweddu algorithmau/modelau dysgu dwfn er mwyn ein helpu ni i ddeall sut mae’r algorithm yn gweithio. Mae eglurder a thryloywder modelau yn allweddol er mwyn sicrhau bod Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei ddefnyddio’n foesegol.

Mae'r trydariad isod ar gael yn Saesneg yn unig.

“Er mwyn ystyried moeseg yn drylwyr, mae angen i ni sicrhau bod ein timau yn amrywiol. Dim ond drwy brofiadau a safbwyntiau gwahanol y gallwn ni ystyried goblygiadau polisi. Mae hyn yn heriol ym maes technoleg yn enwedig, oherwydd mae diffyg cynrychiolaeth gan fenywod mewn pynciau STEM. Yn Ofcom rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau amrywiaeth yn ein timau, gan gynnwys rhaglen sy’n cael ei rhedeg gan Farhiya i gael mwy o fenywod i ymuno â grwpiau llywio.

“Yn y digwyddiad WDD, roedd panelwyr a siaradwyr yn rhannu eu straeon am anawsterau gyda'r diffyg hyder mae merched i'w gweld yn ei wynebu. Cafwyd cyfoeth o gyngor y byddaf yn ei gadw mewn cof wrth ystyried fy mywyd proffesiynol. Un thema gyffredin oedd ofn gwneud camgymeriadau, ac roedd tipyn o sôn am 'syndrom amheuwr' (impostor syndrom) – rhywbeth rydw i'n sicr wedi delio ag ef yn ystod fy ngyrfa.

“Un o fy hoff gyflwyniadau eraill oedd cyflwyniad Jean Jimbo o'r BBC, o’r enw ‘No one is born an X’. Roedd yn ein hannog i ystyried nad oes neb yn arbenigwr llwyr yn eu maes o’r diwrnod cyntaf. Peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau, gofynnwch gwestiynau a pheidiwch â theimlo bod rhaid i chi wybod popeth yn eich maes. Rwy’n teimlo’n ffodus yn Ofcom fy mod yn cael fy nghefnogi i ddatblygu; mae unrhyw gamgymeriadau rwyf wedi’u gwneud wedi cael eu trin fel cyfle i dyfu a dysgu.”

Mae Farhiya yn gynghorydd technoleg yn Ofcom.

“Roeddwn i wrth fy modd â’r amrywiaeth eang o ddisgyblaethau technoleg a amlygwyd yn y digwyddiad. Roedd y rhain yn cynnwys peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a datblygu cynnyrch. Roedd y digwyddiad hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd sgiliau meddal – cafodd hyn ei bwysleisio gan Natasha Zayce-Salim, pennaeth technoleg Sky, a siaradodd am yr angen i ddatblygu ein sgiliau dynol a’n sgiliau craidd.

“Roedd yn ddiddorol nodi teithiau'r menywod ar y llwyfan tuag at yrfaoedd mewn technoleg. Roedd llawer ohonynt wedi cymryd rhan mewn rhaglenni dwys gan fudiadau fel Flatiron school a Makers Academy i ddysgu sut i godio. Roeddwn wrth fy modd â’r pwyslais ar beidio ag aros nes eich bod yn berffaith ym mhob iaith codio i wneud cais am swydd, oherwydd fydd neb byth yn gwbl rugl ym mhob iaith. Roedd llawer o sôn am Codebar hefyd, sef menter gymunedol sy'n cynnal gweithdai rhaglennu yn rheolaidd, lle gall unrhyw un fynd i gael help gyda’u cod neu i helpu pobl eraill.

“Fe wnes i wir fwynhau sgwrs Sonya Moisett ar sut gall sefydliadau eu hamddiffyn eu hunain yn erbyn ymosodiadau seiber. Sonya yw prif beiriannydd diogelwch Grŵp Photo Box, ac fe soniodd am ddiffyg amrywiaeth yn y diwydiant seiberddiogelwch. Mae’n cadw rhestr o'r ferched ym maes seiberddiogelwch ar Medium, sy’n adnodd gwych ac yn dangos y gwahanol lwybrau sydd ar gael i fenywod yn y maes.  Uchafbwynt arall i mi oedd sgwrs Ira Ktena, gwyddonydd ymchwil Twitter, oedd yn trafod cynrychioliadau graff mewn dysgu dwfn. Mae ei gwaith yn ddiddorol iawn ac mae’n dangos sut mae modd defnyddio theori graff (cangen o fathemateg) mewn amrywiaeth helaeth o feysydd, sy'n amrywio o adnabod newyddion ffug i fynd i’r afael â phroblemau ym maes priodoli clefydau a niwrowyddoniaeth.

“Pwynt arall a grybwyllwyd gan lawer o’r panelwyr oedd dod o hyd i fentoriaid i’ch tywys chi drwy’ch gyrfa, ac fe gafodd hyn ei grynhoi gan Ira ar ddiwedd ei chyflwyniad, drwy restru pob person wnaeth ei helpu hi i ddatblygu ei gyrfa a sut dylem ni wneud yr un peth ar gyfer y bobl sy’n dod ar ein holau ni.”

Yn gyffredinol, roedd y gynhadledd yn brofiad anhygoel i'r ddwy ohonom ni. Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn bwnc pwysig i Ofcom ac mae’r pynciau a drafodwyd drwy gydol y dydd yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn.

Woman on stage presenting to an audience at a conference organised by Women Driven Development (WDD)

See also...