27 Chwefror 2023

Llai o bobl yn cael newyddion gan gyfryngau cymdeithasol

Yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom ar sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion, mae llai o bobl yn dweud eu bod yn cael newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol na blwyddyn yn ôl.

Er bod teledu’n parhau fel y ffordd mwyaf poblogaidd i bobl ddilyn y newyddion (gyda 75% o bobl yn ei ddefnyddio), mae’r gyfran sy'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gael y storiau diweddaraf wedi gostwng o 49% yn 2019 i 45% yn 2020.

O'i gymharu â blwyddyn yn ôl, mae’r bobl sy’n defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gael gafael ar newyddion hefyd yn rhoi sgôr llai ffafriol iddynt ar ystod o fesurau gan gynnwys ymddiriedaeth (i lawr  o 38% i 35%), didueddrwydd (i lawr o 37% i 34%) a chywirdeb (i lawr o 39% i 36%). Mae pobl sy'n cael eu newyddion o Facebook, Instagram a Twitter hefyd yn llai tueddol o rannu neu ail-drydar erthyglau neu fideos poblogaidd nag yr oeddent yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ein hastudiaeth, Cael gafael ar newyddion yn y DU 2019/20, yn edrych ar sut mae oedolion a phlant hŷn (12 i 15 oed) yn y DU yn cael gafael ar newyddion ar draws y teledu, radio, papurau newydd wedi’u hargraffu, cyfryngau cymdeithasol, podlediadau, ffynonellau eraill ar y rhyngrwyd a chylchgronau. Nid yw’r adroddiad hwn yn edrych ar sut mae pobl yn cael gafael ar newyddion yn ystod cyfyngiadau symud Covid-19; mae ymchwil ar y cyfnod hwn ar gael ar ein gwefan

Canfyddiadau eraill yr ymchwil:

  • Yn dilyn y teledu (75%), y rhyngrwyd yw'r llwyfan mwyaf poblogaidd nesaf ar gyfer newyddion (yn cael ei ddefnyddio gan 65% o bobl), yna’r radio (42%). Mae dros draean o oedolion (35%) yn cael newyddion o bapurau newydd wedi’u hargraffu. Ond, wrth gyfuno argraffu traddodiadol â gwefannau ac apiau papurau newydd, mae’r defnydd hwn yn cynyddu i 47%;
  • Roedd yr oedolyn cyffredin wedi gwylio 98 awr o newyddion ar y teledu yn 2019 (ffynhonnell BARB). Ond roedd gwahaniaeth mawr rhwng oed gyda phobl dros 65 oed yn treulio 12 gwaith yn hwy na phobl ifanc 16 i 24 oed yn gwylio’r newyddion.
  • BBC One yw’r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd (yn cael ei ddefnyddio gan 56% o bobl), ac fe’i dilynir gan ITV (41%) a Facebook (34%).
  • Ymhlith y bobl sy’n cael eu newyddion o’r teledu, mae llai o oedolion yn defnyddio sianeli’r BBC (83%, i lawr o 85% yn 2019), ac mae'r defnydd o Sky News wedi cynyddu (33%, i fyny o 30% yn 2019).
  • Mae ychydig dros un o bob 20 oedolyn yn cael gafael ar eu newyddion drwy bodlediadau. O’r rhain, mae traean yn defnyddio YouTube, tua chwarter yn defnyddio BBC Sounds a Spotify, ac mae un o bob pump yn defnyddio podlediadau Apple.
  • Mae chwe phlentyn hŷn o bob 10 sydd rhwng 12 a 15 oed yn dweud bod ganddynt ddiddordeb mewn newyddion. Dywedodd tri chwarter ohonynt (77%) eu bod yn darllen, yn gwylio neu’n gwrando ar y newyddion o leiaf un waith yr wythnos.
  • Mae newyddion am gerddoriaeth yn denu’r lefelau uchaf o ddiddordeb ymysg plant hŷn (57%), a ddilynir gan newyddion am enwogion (45%), newyddion am ddigwyddiadau yn y DU, ac anifeiliaid a’r amgylchedd (43%).
  • Mae naw o bob deg o blant hŷn yn ymwybodol o ‘newyddion ffug’, ond mae mwy na hanner y rhai sy'n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gael gafael ar newyddion yn ei chael hi’n anodd penderfynu a yw storiau ar y llwyfannau hyn yn gywir ai peidio.

Canfyddiadau ymchwil allweddol: teledu yw'r llwyfan mwyaf poblogaidd o hyd ar gyfer newyddion. Mae llai o bobl bellach yn cael newyddion o'r cyfryngau cymdeithasol wrth i ffigurau ddychwelyd i lefelau 2018. Mae'r niferoedd wedi gostwng o 49% yn 2019 i 45% yn 2020. Mae lefelau ymddiriedaeth, didueddrwydd a chywirdeb o ran newyddion o'r cyfryngau cymdeithasol wedi gostwng eleni. Mae llai o bobl yn debygol o rannu ac ymgysylltu â chynnwys sy'n gysylltiedig â newyddion o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook eleni.

See also...