30 Ebrill 2020

Ofcom yn cyhoeddi cynllun gwaith ar gyfer 2020/2021

Rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith 2020/21 Ofcom heddiw – sy’n nodi ein blaenoriaethau a’n gwaith ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

Ers i ni ymgynghori ynghylch ein cynllun drafft ym mis Ionawr, mae’r pandemig coronafeirws wedi golygu heriau sylweddol i’r sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Mae llawer o'r DU yn gweithio, yn dysgu ac yn cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau gan ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebiadau o gartref. Felly mae gwasanaethau ffôn a band eang, gwasanaethau danfon post a pharseli a rhaglenni teledu a radio o ansawdd uchel yn bwysicach nag erioed o'r blaen.

Drwy gydol y cyfnod hwn, rydym wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau cyfathrebu i sicrhau bod pobl yn cadw'r cysylltiad ac yn parhau i gael gwybodaeth ac adloniant. Rydyn ni’n croesawu ymateb cwmnïau i’r heriau hyn – gan gynnwys gwarchod mynediad at wasanaethau hanfodol fel 999 a 111 a blaenoriaethu cwsmeriaid agored i niwed.

Rydyn ni hefyd wedi addasu ein cynllun gwaith i adlewyrchu yr amgylchiadau eithriadol sydd wedi dod i’r fei ers ein hymgynghoriad. Yn ogystal â chefnogi pobl a busnesau drwy’r heriau presennol, mae gennym raglen waith bwysig ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd ein gwaith yn cael ei arwain gan y themâu strategol canlynol:

  • Darpariaeth band eang a symudol gwell – lle bynnag fyddwch chi;
  • Tegwch i Gwsmeriaid;
  • Cefnogi darlledu yn y DU;
  • Sicrhau bod cyfathrebiadau ar-lein yn gweithio i bobl ac i fusnesau;
  • Galluogi rhwydweithiau cadarn a diogel;
  • Cynnal y gwasanaeth post cyffredinol;
  • Parhau i arloesi o ran rheoleiddio a data i helpu pobl a busnesau;
  • Cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant; a
  • Cefnogaeth drwy gyfnod pontio’r broses o ymadael â’r UE, a chysylltiadau rhyngwladol parhaol.

Rydyn ni hefyd yn canolbwyntio ar gyflawni’r gwaith rydym wedi’i gynllunio’n llawn yn ystod y flwyddyn. Ond byddwn yn monitro’r sefyllfa sy’n esblygu o ran y coronafeirws yn agos ac yn cadw ein cynlluniau’n hyblyg. Byddwn yn cyhoeddi cynllun gwaith wedi’i ddiweddaru ym mis Medi, yn ogystal â diweddariadau chwarterol ar ein cynnydd yn erbyn y cynllun.

See also...