1 Hydref 2020

Trwyddedau sbectrwm newydd i ysgogi arloesedd yn y DU

Gall pobl yn y DU edrych ymlaen at dechnolegau newydd di-wifr yn y dyfodol diolch i newidiadau a wnaed heddiw gan Ofcom.

Erbyn hyn, gall sefydliadau yn y DU sicrhau mynediad syml a hyblyg at fwy nag 18 GHz o sbectrwm amledd uchel (EHF) y gellid eu defnyddio ar gyfer technoleg ddi-wifr newydd. Mae’r sectorau a allai ddefnyddio’r tonnau awyr hyn yn cynnwys gofal iechyd, roboteg, cyfathrebu a diogelwch.

Ar hyn o bryd, mae’r bandiau hyn yn cael eu defnyddio gan wasanaethau lloeren sy’n archwilio’r ddaear i gasglu data pwysig am yr hinsawdd a’r tywydd. Felly rydyn ni wedi rhoi mesurau yn eu lle fydd yn amddiffyn y defnyddwyr lloeren hyn tra’n galluogi defnyddwyr newydd i ddatblygu a defnyddio technolegau arloesol.

Bydd rhyddhau mwy o’r sbectrwm hwn yn creu cyfleoedd newydd i ddatblygu gwasanaethau di-wifr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn y dyfodol. Mae’r amleddau hyn yn addas iawn ar gyfer gwasanaethau di-wifr cyflym dros belleroedd byr sydd angen capasiti data mawr i weithio, yn ogystal â rhaglenni synhwyro a lleoli.

Dyma’r gwasanaethau newydd posibl:

  • Ceisiadau sgrinio iechyd – i helpu i ganfod cyflyrau fel canser y croen yn gynt;
  • Cysylltiadau data cyflymder uchel iawn dros bellteroedd byr – i gefnogi’r defnydd o ddelweddau 3D a rhaglenni ar y Rhyngrwyd Pethau yn y dyfodol;
  • Cydosod cynnyrch â manylder uchel a sicrwydd ansawdd – er enghraifft i wirio am ddiffygion mewn cynhyrchion fferyllol.

Gallai’r defnyddiau newydd hyn ddod yn weithredol dros y ddegawd nesaf.

Gall pobl a sefydliadau fynd i wefan Ofcom o heddiw ymlaen i wneud cais am drwydded newydd.

Mae hyn yn rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi arloesi di-wifr, drwy sicrhau bod pobl a sefydliadau’n gallu cael gafael yn rhwydd ar y sbectrwm sydd ei angen arnynt.

Beth yw sbectrwm

Mae sbectrwm, neu donnau awyr yn seilwaith na allwch ei weld sy'n cefnogi'r holl ddyfeisiau sydd angen cyfathrebu'n ddi-wifr -fel setiau teledu, ffobiau car, monitorau babanod, microffonau di-wifr a lloerennau. Mae'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau fel ffonau symudol, sy'n defnyddio sbectrwm i gysylltu i fast lleol er mwyn i bobl allu wneud galwadau a chael mynediad i'r rhyngrwyd.

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Ofcom sy'n gyfrifol am reoli sbectrwm yn y DU i fanteisio'n llawn ar y buddion i ddefnyddwyr y DU.

See also...