2 Gorffennaf 2020

Cymorth i gwsmeriaid sy'n cael trafferth talu eu biliau ffôn neu fand eang yn ystod y pandemig

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich biliau ffôn neu fand eang yn ystod pandemig y coronafeirws (Covid-19), mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch darparwr cyn gynted â phosibl i weld sut y gallant helpu.

Mae'r pandemig wedi newid ein ffordd o fyw, gyda phobl yn fwy dibynnol nag erioed ar ffonau cartref, gwasanaethau symudol neu fand eang.

Felly, rydyn ni'n gweithio gyda darparwyr telathrebu i sicrhau eu bod yn trin cwsmeriaid sy'n cael trafferth talu eu biliau yn deg i'w helpu i gadw mewn cysylltiad. Mae darparwyr eisoes wedi gwneud hyn hyd yma yn ystod y pandemig, gan roi mesurau ar waith i amddiffyn cwsmeriaid sy'n agored i niwed a sicrhau mynediad i wasanaethau telathrebu pwysig.

Rydyn ni bellach wedi galw ar ddarparwyr telathrebu i barhau i gefnogi defnyddwyr yn ystod y cyfnod hwn, gan gydnabod y gallai pobl wynebu anawsterau ariannol ac felly'n llai abl i dalu eu biliau telathrebu. Rydyn ni'n disgwyl i ddarparwyr weithio gyda chwsmeriaid sy'n eu cael eu hunain yn y sefyllfa hon ac egluro sut y gallant eu helpu.

Mae'r camau rydym wedi gofyn iddynt eu cymryd yn cynnwys:

  • blaenoriaethu cymorth i gwsmeriaid a allai fod yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau telathrebu, cynnig cyngor ar reoli dyledion telathrebu a chryfhau eu gwaith gyda chyrff defnyddwyr a sefydliadau eraill a allai helpu'r cwsmeriaid hyn;
  • cynnig opsiynau i gwsmeriaid sy'n cael trafferth, megis cynllun talu, tariff rhatach, neu oedi cyn eu talu;
  • sicrhau bod cwsmeriaid yn dal i gael y lefel o wasanaeth telathrebu y maent yn gyfarwydd â hi os ydynt wedi gofyn am gymorth, gan osgoi taliadau cosb megis ffioedd talu hwyr; ac
  • osgoi datgysylltu'r cwsmeriaid hyn a bod hynny'n ddewis olaf yn unig.

Yn holl bwysig, rydyn ni hefyd am eich atgoffa i gysylltu â'ch darparwr cyn gynted ag y bo modd os ydych eisoes mewn anhawster ariannol neu os ydych yn credu eich bod yn mynd i gael trafferth i dalu eich biliau. Gall eich darparwr siarad â chi am yr opsiynau sydd ganddynt yn eu lle i'ch helpu i reoli eich sefyllfa.

See also...