16 Mawrth 2020

Gweithio adref – sicrhau bod eich band eang yn barod

Mae disgwyl y bydd angen i lawer mwy o bobl weithio o gartref, neu o bell, yn y misoedd i ddod oherwydd yr achosion o coronafeirws (COVID-19).

Os ydych chi'n un ohonynt, nawr yw’r amser i sicrhau bod eich gwasanaeth band eang a'ch ffôn symudol yn gweithio mor effeithiol â phosibl.

Mae gennym ganllawiau sy'n cynnwys camau syml, ymarferol y gallwch eu cymryd eich hun, i sicrhau bod eich gwasanaeth band eang a'ch ffôn symudol yn gweithio'n dda gartref.

Rydyn ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad â darparwyr band eang ynghylch y camau maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â galw cynyddol.

Mae Prif Swyddog Technoleg Grŵp BT wedi creu fideo byr i siarad am wytnwch y rhwydwaith os oes angen i lawer mwy o bobl weithio o bell.  Mae’r Gymdeithas Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPA), yn dweud bod darparwyr band eang “yn barod i ymdrin ag unrhyw led band ychwanegol posibl ac yn asesu'n gyson y gofynion ar eu rhwydweithiau.“

Mae’r ISPA hefyd wedi cynghori cwmnïau i sicrhau bod eu systemau a’u gweinyddion TG yn barod i gefnogi cynnydd sylweddol posibl mewn cysylltiadau o bell gan eu gweithwyr.

See also...