Cwmnïau mwyaf Prydain ar gyfer band eang a ffonau yn rhoi tegwch yn gyntaf

03 Mehefin 2019

Mae cwmnïau mwyaf y DU ar gyfer band eang, ffôn a theledu-drwy-dalu wedi ymrwymo i sicrhau bod tegwch yn ganolog i'w busnesau, ar ôl cytuno i gyflawni ymrwymiadau newydd Ofcom ar gyfer Tegwch i Gwsmeriaid.

Mae Ofcom wedi datblygu'r ymrwymiadau er mwyn cryfhau’r modd mae cwmnïau’n trin eu cwsmeriaid. Maen nhw’n ceisio sicrhau bod pobl bob amser yn cael eu trin yn deg gan eu darparwr – p’un ai a ydyn nhw’n cofrestru ar gyfer cytundeb newydd, yn ceisio datrys problem neu’n symud at gwmni newydd.

Mae pob un o ddarparwyr mwyaf y DU wedi cytuno i gyflawni’r ymrwymiadau, gan gynnwys: BT; EE; Giffgaff; O2; Plusnet; Swyddfa'r Post; Sky; TalkTalk; Tesco Mobile; Three; Virgin Media a Vodafone. Y cwmnïau hyn yw darparwyr y rhan fwyaf o gwsmeriaid band eang, ffonau symudol, teledu-drwy-dalu a ffonau cartref.

Tegwch i gwsmeriaidYr holl ymrwymiadau

  1. Cwsmeriaid yn cael bargen sy'n deg, ac sy'n addas ar gyfer eu hanghenion. Darparwyr yn cynnig pecynnau i gwsmeriaid sy'n addas ar gyfer eu hanghenion ac yn cynnig dull prisio sy'n deg. Prisiau'n glir ac yn hawdd i'w deall;
  2. Cwsmeriaid yn cael eu cefnogi pan fo eu hamgylchiadau'n golygu eu bod yn agored i niwed. Darparwyr yn deall ac yn nodi nodweddion, anghenion ac amgylchiadau cwsmeriaid sy'n agored i niwed - e.e. oherwydd anabledd, oedran, salwch meddwl neu’r bobl wedi cael profedigaeth - a gweithredu er mwyn rhoi triniaeth deg iddynt a mynediad cyfartal at wasanaethau;
  3. Cwsmeriaid yn cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus gyda gwybodaeth glir am eu hopsiynau cyn, yn ystod, ac ar ddiwedd eu cytundeb. Darparwyr yn dylunio ac yn anfon cyfathrebiadau mewn ffordd sy’n adlewyrchu dealltwriaeth o sut mae cwsmeriaid yn gyffredinol yn ymateb i wybodaeth, er mwyn iddynt allu deall ac ymgysylltu â’r farchnad;
  4. Gwasanaethau cwsmeriaid yn gweithio fel y maent i fod, ac yn ddibynadwy dros amser. Os bydd pethau'n mynd o chwith, bydd darparwyr yn cynnig ateb i drwsio problemau yn sydyn, ac yn cymryd camau priodol i helpu eu cwsmeriaid, a allai gynnwys talu iawndal pan fo hynny'n berthnasol. Os nad yw darparwyr, o fewn cyfnod rhesymol, yn gallu datrys problemau gyda gwasanaethau craidd y maen nhw wedi'i addo i gwsmeriaid, gall cwsmeriaid adael eu cytundeb heb gosb;
  5. Cwsmeriaid yn gallu cofrestru, newid a gadael eu gwasanaethau'n gyflym ac yn ddidrafferth. Darparwyr yn sicrhau nad yw cwsmeriaid sy'n gadael yn wynebu rhwystrau neu drafferth ychwanegol, o'i gymharu â'r rheini sy'n cofrestru ar gyfer gwasanaethau newydd;
  6. Cwsmeriaid yn gallu bod yn hyderus bod triniaeth deg yn rhan ganolog o ddiwylliant eu darparwyr. Cwmnïau'n gallu dangos bod ganddynt y gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn dda. Byddant yn sicrhau bod y gweithdrefnau hyn yn effeithiol ac yn gyfoes.

Mae'r ymrwymiadau yn rhan hanfodol o waith Ofcom i helpu i sicrhau bod cwmnïau yn trin eu cwsmeriaid yn deg. Mae cyfraith defnyddwyr a rheolau Ofcom eisoes yn sail i lawer o’r ymrwymiadau hyn. Byddwn yn monitro cwmnïau yn ofalus, a byddwn yn camu i mewn pan fyddwn yn gweld nad yw cwmnïau'n cyrraedd y nod.