10 Mawrth 2021

Araith gan Y Fonesig Melanie Dawes i Gynhadledd 'Cyfryngau a Thelathrebu 2021 a'r tu hwnt' Enders Analysis/Deloitte

Y Fonesig Melanie Dawes yn traddodi araith i Gynhadledd Enders, 10 Mawrth 2021.

Bore da.

Diolch i Claire a phawb yn Enders am gynnal y gynhadledd yr wythnos hon. Bu'r digwyddiad y llynedd yn fy wythnos gyntaf yn Ofcom ac roedd yn gyflwyniad anhygoel i'r diwydiant. Rhoddodd fy unig gyfle i mi gwrdd â llawer ohonoch yn bersonol.

A pha flwyddyn y mae wedi bod ers hynny.

Mae wedi dangos mor glir beth yw diben y diwydiannau cyfathrebu, a'r rhan hanfodol y maent yn ei chwarae yn ein heconomi a'n cymdeithas.

Diolch

Rwyf eisiau dechrau drwy ddiolch i bawb ar draws ein sectorau am y cyfan rydych wedi'i wneud – ac yn dal i'w wneud – i helpu'r wlad i gadw mewn cysylltiad yn ystod y pandemig.

Mae ein darparwyr telathrebu a rhwydwaith wedi dangos bod anadl einioes y DU nid yn unig yn de, ond hefyd yn wasanaethau band eang a ffôn cryf a gwydn.

Mae ein gweithredwyr post wedi rheoli cynnydd enfawr yn y galw am gludiadau cartref wrth i ni newid ein siopa ar-lein.

Mae ein darlledwyr – o'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus drwodd i fusnesau fel Sky, Discovery a Netflix – wedi sicrhau bod pobl yn parhau i gael eu haddysgu a'u diddanu yn ystod yr oriau hir gartref.

Fe'n hatgoffwyd yn benodol faint y mae arnom angen gwasanaethau newyddion cywir o ansawdd uchel, gan ddarparu angor ymddiriedaeth yng nghanol môr o wybodaeth anghywir.

Mae'r llwyfannau ar-lein wrth gwrs wedi bod yn ganolog i'n bywydau yn ystod y cyfnod clo. Roeddent yn cynnal cysylltiadau rhwng ffrindiau, teuluoedd a busnesau. Ceisiodd Twitter, Facebook a Google fynd i'r afael â llif enfawr o wybodaeth anghywir am y feirws, a hyrwyddo ffynonellau newyddion dibynadwy. Mae ganddynt fwy i'w wneud, ond yr oedd y camau hyn yn angenrheidiol ac yn cael eu croesawu.

Mae'r hyn yr ydych wedi'i gyflawni wedi bod yn benigamp. Fe wnaethoch chi hynny yn wyneb ansicrwydd masnachol enfawr, gyda chyfyngiadau gweithredol digynsail a thrwy'r amser yn arwain eich sefydliadau o'ch cartrefi.

Dyfodol ein diwydiannau

Mewn argyfwng rydych chi'n dysgu am yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ac rydych chi'n dysgu beth sydd gennych.

Mae fy mlwyddyn gyntaf yn Ofcom wedi dangos i mi y gwydnwch, a'r ymrwymiad i gwsmeriaid, ar draws y diwydiannau a reoleiddir gennym.

Mae wedi cadarnhau bod telathrebu, darlledu a chyfryngau ar-lein yn fwy canolog byth i'n heconomi a'n cymdeithas.

Mae wedi dangos hefyd bod cyflymder y newid yn cynyddu ar gyfradd ryfeddol.

Ystyriwch delathrebu. Yn 2020, roedd yr aelwyd gyfartalog yn defnyddio dros 14 gwaith cymaint o ddata band eang a 7 gwaith cymaint o ddata symudol ag yn 2013. Roedd cyflymderau 4 gwaith yn uwch. Ac eto roedd pobl yn cael hyn i gyd tra'n gwario llai: tua £5 y mis yn llai ar fand eang ac £16 y mis yn llai ar ffonau symudol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae'r defnydd o ddata band eang ar rwydwaith Openreach wedi mwy na dyblu. Bydd defnydd symudol yn codi eto eleni wrth i ni i gyd fynd allan, ac wrth i fwy o gynhyrchion 5G gael eu lansio.

Ac mae'r ffordd rydym yn defnyddio ein gwasanaethau cyfathrebu wedi newid cymaint hefyd. Pwy fyddai wedi meddwl y gallem gynnal cynadleddau fel hyn dros ffrwd fideo. Mae cynifer o bobl bellach yn defnyddio WhatsApp bob dydd â'r rhai sy'n defnyddio negeseuon testun traddodiadol.

Newidiadau yn y ffordd rydym yn gwylio'r teledu'n cyflymu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ar gyfartaledd fe dreuliom awr y dydd yn gwylio gwasanaethau tanysgrifio fel Netflix neu DisneyPlus yn 2020, o'i gymharu â tua hanner hynny yn 2019.

Mae bron i hanner yr holl oedolion ar-lein bellach yn gweld gwasanaethau ffrydio fel eu prif ffordd o wylio'r teledu, ac mae hynny'n codi i ddwy ran o dair ymhlith oedolion iau.

Yn y byd ar-lein dros y flwyddyn ddiwethaf mae cwmnïau fel Zoom wedi ymddangos yn sydyn, a hyd yn oed ymhlith y cewri fel Microsoft, rydym wedi gweld blynyddoedd o drawsnewid digidol ymhen ychydig fisoedd.

Ymagwedd Ofcom at y dyfodol

Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu i Ofcom wrth i ni edrych ymlaen?

Mae ein cenhadaeth – sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb – wedi ein harwain ni ers i ni ddechrau bron i ugain mlynedd yn ôl. Nid yw erioed wedi teimlo'n bwysicach.

Mae wedi bod yn bleser mawr dod i nabod fy nghydweithwyr yn Ofcom dros y flwyddyn ddiwethaf – rwy'n teimlo'n lwcus iawn i weithio gyda phobl sydd mor ymroddedig, arbenigol a dawnus.

Yn y blynyddoedd i ddod byddwn yn llywio ein ffordd drwy'r newidiadau sy'n wynebu ein diwydiannau drwy ddilyn yr un egwyddorion clir, fel yr ydym wedi'i wneud erioed.

Byddwn bob amser yn rhoi buddiannau'r defnyddiwr a'r dinesydd wrth wraidd yr hyn a wnawn, gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae ar y genedl ei angen ar draws ein pedair gwlad.

Byddwn yn grymuso ein sectorau i gyflawni. Mae rheoleiddio da yn golygu creu cae chwarae gwastad, gyda chystadleuaeth deg yn gyrru bargen deg i'r defnyddiwr. Lle gall marchnadoedd ddod o hyd i'r ateb, dyna'r hyn y byddwn yn ei gefnogi.

A byddwn bob amser yn gwneud ein penderfyniadau'n annibynnol, heb ofn na ffafriaeth, ac ar sail tystiolaeth ac ymchwil glir a thryloyw. Dros y blynyddoedd nesaf rydym yn disgwyl canolbwyntio ar y tri maes mawr a ganlyn.

Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau

Yn gyntaf, ar yr ochr delathrebu, yr ydym am i ddefnyddwyr a busnesau ledled y DU elwa o rwydweithiau cyflym newydd; bod yn hyderus bod y rhain yn ddiogel ac yn wydn; ac i gael eu trin yn deg gan eu darparwyr.

Mae ein rhwydweithiau band eang a symudol wedi gwrthsefyll her y flwyddyn ddiwethaf yn dda, ond ni fydd y galw arnynt ond yn cyflymu fel na allwn sefyll yn yr unlle.

Fel gwlad, mae arnom angen cynnydd mawr mewn band eang ffeibr llawn a rhwydweithiau cyflymder gigadid eraill. Mae ffeibr i'r cartref bellach ar gael i bron i un o bob pump o gartrefi, ac mae'r rhai sy'n ddigon ffodus i'w gael yn gwybod nad yw'n ymwneud â chyflymder uwch yn unig, mae hefyd yn llawer mwy dibynadwy.

Ymhen ychydig wythnosau byddwn yn cyhoeddi ein Hadolygiad Mynediad, gan osod y fframwaith ar gyfer buddsoddiad cyfanwerthol dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt. Rwyf wedi fy nghalonogi gan gynlluniau uchelgeisiol ar draws y diwydiant, gan ddarparwyr presennol a rhai newydd. Ein nod yw cefnogi a thyfu cystadleuaeth yn y gwaith o adeiladu'r rhwydwaith, er mwyn i ddefnyddwyr gael dewis o rwydweithiau cyflym a dibynadwy sy'n cynnig gwerth da am arian.

Byddwn hefyd yn cefnogi buddsoddi ac arloesi yn y seilwaith symudol. Y DU oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i weld pob un o'n pedwar rhwydwaith yn cynnig 5G i'w defnyddwyr. Bydd arwerthiant sbectrwm presennol Ofcom yn rhyddhau hyd yn oed mwy o donnau awyr sy'n barod i 5G ledled y DU.

Gyda chymaint o'n bywydau bellach wedi'u treulio ar-lein, rydym yn dibynnu ar ein rhwydweithiau i fod yn wydn, yn enwedig yn wyneb bygythiadau diogelwch. Bydd Ofcom yn cael pwerau cryfach yn ddiweddarach eleni i sicrhau bod gweithredwyr yn parhau i fuddsoddi yn niogelwch ein rhwydweithiau.

Yn y bôn, credwn mai cystadleuaeth yw'r ffordd orau o roi'r cysylltiadau sydd eu hangen ar ddefnyddwyr. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar rymuso cwsmeriaid i fanteisio ar y dewisiadau sydd ar gael, a byddwn yn barod i gamu i'r adwy pan fydd angen, i ddiogelu eu buddiannau.

Darlledu a radio

Gan droi at ddarlledu a radio, ein hail faes gwaith mawr yw cefnogi'r newid i wasanaethau digidol.

Mae gennym economi greadigol hynod fywiog yn y DU, a rhai o'r brandiau newyddion ac adloniant cryfaf a mwyaf dibynadwy yn y byd.

Mae cryfder ein system yn dibynnu ar gyfuniad unigryw Brydeinig o ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus ochr yn ochr â'r sector masnachol. Mae hyn yn dod ag amrywiaeth a gwydnwch gyda lluosogrwydd modelau busnes, a brandiau sydd â hanesion ac etifeddiaethau gwahanol. Mae'r cyfan yn ychwanegu at gynnig gwych i'r cyhoedd.

Ond fel y nodwyd yn ein hadroddiad ar Gyfryngau Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2020, mae tarfu ar y diwydiant drwy drawsnewid digidol, ac ar yr un pryd yn cynnig dewisiadau newydd anhygoel i'r gwyliwr a'r gwrandäwr, yn peryglu colli rhai pethau rydym yn poeni amdanynt mewn gwirionedd.

Am y cyfan yr ydym yn gwerthfawrogi'r chwaraewyr byd-eang fel Netflix a Disney, rydym wrth ein bodd â theledu a radio sydd wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, ac sy'n adlewyrchu bywyd Prydain yn ei holl amrywiaeth wych.

Mae ein hymchwil yn dangos yn glir bod y cyhoedd yn rhoi gwerth uchel ar wasanaethau newyddion radio a theledu yr ymddiriedir ynddynt nawr yn fwy nag erioed o'r blaen.

Mewn cyfnod o bolareiddio, diwylliant canslo a ffynonellau newyddion lluosog – rhai ohonynt yn annibynadwy, a rhai wedi'u cyplysu â chamwybodaeth fwriadol – mae newyddion cywir, diduedd a dibynadwy, wedi'i ategu gan reoliadau sy'n rhoi gwerth uchel ar ryddid lleferydd, yn bwysicach nag erioed fel un o bileri craidd bywyd y DU.

Diogelwch ar-lein

Blaenoriaeth derfynol Ofcom yn y blynyddoedd i ddod wrth gwrs fydd ymgymryd â chyfrifoldebau newydd am reoleiddio diogelwch ar-lein, yn dilyn deddfwriaeth y Llywodraeth yn ddiweddarach eleni.

Bydd ein dull gweithredu fel rheoleiddiwr yn dibynnu ar ddwy egwyddor bwysig.

Y cyntaf yw gwybod beth mae defnyddwyr yn ei feddwl a'i angen. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi dod â manteision enfawr i'r economi a chymdeithas. Ond mae ymchwil Ofcom yn dangos bod traean o bobl bellach yn credu bod y risgiau o fod ar-lein – naill ai iddyn nhw neu eu plant – yn drech na'r manteision. Mae chwech o bob deg o oedolion ar-lein – ac wyth o bob deg o blant hŷn – yn dweud eu bod wedi cael o leiaf un profiad niweidiol ar-lein yn ystod y 12 mis diwethaf. Felly mae'r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi rheolau llymach, fel y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig.

Yr ail egwyddor yw'r angen i gadw rhyddid mynegiant ac ar yr un pryd mynd i'r afael â chynnwys niweidiol.

Rhyddid lleferydd yw anadl einioes y rhyngrwyd ac mae'n rhan annatod o'n democratiaeth, ein gwerthoedd a chymdeithas fodern.

Mae Ofcom yn dod â blynyddoedd o brofiad o daro'r cydbwysedd hwn yn ein rôl yn rheoleiddio teledu a radio, a dyma fydd sylfaen ein dull o ymdrin â diogelwch ar-lein hefyd.

Wrth i'n rôl ehangu, bydd angen i ni fuddsoddi mewn sgiliau newydd. Rydym eisoes yn rheoleiddiwr ar lwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU ac rydym wedi meithrin gallu ac arbenigedd, y byddwn yn eu tyfu yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn dyfnhau ein partneriaeth â'n cyd-reoleiddwyr. Rwyf wrth fy modd bod Andrea Coscelli yn siarad â chi yn ddiweddarach y bore yma am waith yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. Wrth i Ofcom, y CMA a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynllunio ar gyfer cyfrifoldebau newydd yn y maes digidol, mae angen i ni gydweithio'n agosach fyth ar ran y defnyddiwr i sicrhau bod y llwyfannau'n cystadlu'n deg, yn defnyddio data pobl yn briodol ac yn diogelu rhag niwed.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi cynllun gwaith newydd ar y cyd (PDF, 466.2 KB), fel y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol, ar gyfer y flwyddyn i ddod, sy'n nodi newid sylweddol yn ein gwaith ar y cyd fel tri chorff rheoleiddio annibynnol.

Casgliad

Edrychaf ymlaen at gydweithio â chi i gyd dros y blynyddoedd i ddod – i sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb.

Wrth i gyflymder y newid barhau i herio ac ail-lunio ein sectorau, bydd Ofcom yn anelu at ddatgloi pŵer cystadleuol y sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Byddwn bob amser yn gweithredu'n annibynnol ac ar sail ymchwil a thystiolaeth o safon. A bydd anghenion a phrofiadau'r defnyddiwr wrth wraidd popeth a wnawn.

Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo, edrychaf ymlaen at gwrdd â chi i gyd, yn bersonol, yn fuan iawn.

Diolch.

Related content