14 Ionawr 2021

Sbotolau ar y technolegau sy'n siapio cyfathrebiadau ar gyfer y dyfodol – Simon Saunders

Ddydd Iau 14 Ionawr 2020 fe gyhoeddom adroddiad ar y technolegau datblygol a allai lywio'r diwydiant cyfathrebu yn y dyfodol. Daw'r rhagair a ganlyn gan yr Athro Simon Saunders, Cyfarwyddwr Technoleg Ddatblygol Ofcom, o'r adroddiad hwnnw.

Mae ysbryd arloesedd a degawdau o wthio ffiniau technolegol wedi arwain at greu pob un o'r gwasanaethau cyfathrebu a gymerwn yn ganiataol heddiw.

Ni waeth p'un a yw'n cysylltu pobl â band eang cyflym a dibynadwy fel y gallant weithio, siopa a chymdeithasu gartref ac wrth deithio – neu'r ystod gynyddol amrywiol o ffyrdd y gallwn yn awr wylio cynnwys darlledu o ansawdd uchel – mae datblygiadau technoleg wedi gwneud yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn anghredadwy ddegawdau'n ôl yn realiti bob dydd.

Ond mae gwreiddiau hanesyddol dwfn i'r technolegau hyn. Mae'r rhwydweithiau di-wifr a ffeibr a ddefnyddiwn heddiw yn dibynnu ar egwyddorion ffisegol a sefydlwyd gyntaf gan James Clark Maxwell ym 1861, ac ar derfynau mathemategol a ddatblygwyd gan Claude Shannon ym 1948. A chymerodd 48 mlynedd arall i Claude Berrou ddangos sut y gallai peirianwyr gyrraedd y terfynau hynny gan ddefnyddio codio tyrbo.

Rydym wedi gweld y patrwm hwn o egwyddorion ffisegol a mathemategol cynnar yn arwain at ddegawdau o waith peirianyddol mewn cyfrifiadura hefyd. Sefydlwyd hanfodion yr hyn y gellir ei gyfrifiannu gan Alan Turing yng Nghaergrawnt ym 1936, ac yna fe'i troswyd yn bensaernïaeth gyfrifiadurol ymarferol gan John von Neumann ym 1945. Arweiniodd cyfrifiaduron wedi'u rhwydweithio drwy'r protocolau a sefydlwyd gan Vint Cerf a Robert Kahn ym 1974 at greu'r Rhyngrwyd, a dyfeisiad y We Fyd-eang gan y peiriannydd Prydeinig Tim Berners-Lee ym 1989.

A chyda chapasiti di-wifr a gwifredig yn dyblu bob 18 mis o'r 1970au i'r 21ain ganrif, a phŵer cyfrifiannu’n tyfu ar gyfradd debyg, mae gennym dwf aruthrol yn y data a ddefnyddir ar systemau symudol, sefydlog a darlledu. Heb y datblygiadau hyn, ni fyddai'r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt heddiw i gyfathrebu a chael ein newyddion a'n hadloniant, wedi bod yn bosibl.

Fel rheoleiddiwr cyfathrebu annibynnol y DU, mae'n hanfodol bod Ofcom yn ymwybodol yn barhaus o newidiadau mewn technoleg. Mae hyn yn ein galluogi i ystyried sut gall y newidiadau hyn effeithio ar y sectorau rydym yn eu rheoleiddio nawr, ac yn y dyfodol. Ac mae'n llywio'r camau a gymerwn i sicrhau bod pobl a busnesau yn y DU yn parhau i fwynhau gwasanaethau cyfathrebu o ansawdd uchel a'u bod yn cael eu diogelu yn erbyn unrhyw risgiau y mae'r technolegau newydd hyn yn eu hachosi. Rydym yn monitro'r diwydiant cyfathrebu'n ofalus ac mae llawer o dechnolegau datblygol eisoes yn adnabyddus i ni. Ond rydym yn cydnabod y bydd eraill nad ydym yn gwybod amdanynt, y gallent gael effaith fawr ar ddefnyddwyr yn y dyfodol.

Felly, yng ngwanwyn 2020, fe benderfynom ofyn yn uniongyrchol i dechnolegwyr mwyaf blaenllaw'r byd am eu barn ar beth allai'r technolegau trawsnewidiol nesaf fod. Cynhaliwyd dwsinau o gyfweliadau a gwahoddwyd unrhyw un gyda mewnwelediadau a thystiolaeth ar dechnolegau newydd i gyfrannu at ein hymchwil.

Drwy'r broses hon, darganfuom amrywiaeth enfawr o dechnolegau cyffrous. Bydd rhai yn arwain at brofiadau cyfathrebu newydd a chyfoethocach, gan gynnwys technoleg ymdrwythol sy'n ein galluogi i gyffwrdd, symud - ac efallai hyd yn oed arogli - o bell. Gallai eraill, megis clystyrau o loerennau a phensaernïaeth rhwydwaith newydd, ehangu cyrhaeddiad, argaeledd, cyflymder a chysondeb rhwydweithiau di-wifr a gwifrau yn aruthrol. A gallai rhai datblygiadau ganiatáu i ffeibr optegol – y mae signalau eisoes yn teithio trwyddynt ar gyflymder y golau - gario signalau hyd yn oed yn gyflymach!

Gallai deunyddiau a dyfeisiau newydd a ffiseg cwantwm danio'r gwn cychwyn ar gyfer ton newydd o ddatblygiadau peirianyddol. Ac er y gallai rhai o'r datblygiadau hyn gymryd degawdau i ddwyn ffrwyth, gallai eraill newid y ffordd yr ydym yn cyfathrebu yn y dyfodol agos.

Efallai mai'r adroddiad hwn a'r cynnwys fideo cysylltiedig yr ydym wedi’i gynhyrchu yw allbwn cyntaf y gwaith hwn, ond nid dyma'r diwedd o bell ffordd – ac ni ddylid ei ystyried yn rhestr gynhwysfawr o bob technoleg arloesol sy'n cael ei datblygu.   Ni all ond fod sampl, ac ni ddylid cymryd bod hepgor neu gynnwys unrhyw dechnoleg yn arwydd o'n barn am ei phwysigrwydd. Nid ein rhagfynegiadau ar gyfer y dyfodol mo'r rhain ychwaith: crynodeb yw hwn o'r technolegau sydd wedi'u hamlygu i ni gan arbenigwyr byd-eang.

Ond credwn fod ein canfyddiadau'n cynnig cipolwg unigryw ar sut y gall arloesi sicrhau dyfodol disglair i gyfathrebiadau'r DU. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwaith yn y maes hwn, gan adael dim carreg heb ei turio wrth i ni ymgysylltu â phobl a busnesau ar draws y byd cyfathrebu i nodi technolegau yfory – a'r hyn y gallent ei olygu i chi a fi fel defnyddwyr.

Felly, rydym am barhau â'r sgwrs hon a chwarae ein rhan i helpu'r diwydiant cyfathrebu i esblygu ac arloesi barhaus.

Yn olaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r arbenigwyr llu ledled y byd sydd wedi rhannu eu hamser a'u meddyliau ysbrydoledig gyda ni

Related content