28 Ionawr 2021

Gwerth cyfryngau rhydd a theg yn y DU

Gan Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, Darlledu a Chynnwys Ar-lein

Mae urddo’r Arlywydd Biden yn rhoi diwedd ar bennod ddramatig yn hanes yr UDA, lle roedd y cyfryngau nid yn unig yn adrodd straeon ond hefyd yn rhan o’r stori.  Fe gymerodd gwasanaeth newyddion teledu’r UDA safbwynt cadarn ar y digwyddiadau yn Washington yn nechrau mis Ionawr.  Hefyd, fe wnaeth llwyfannau cyfryngau cymdeithasol wahardd y cyn Arlywydd o’u sianeli, gan gyfyngu ar ei allu i gyfathrebu â’i ddilynwyr a’i wrthwynebwyr.

Mae’r digwyddiadau hyn o ddiddordeb sylweddol i Ofcom, sydd â’r cyfrifoldeb dros osod a sicrhau’r safonau ar gyfer newyddion teledu yn y DU.  Mae nawr yn amser da i fyfyrio ar y dirwedd newyddion yma yn y DU, a rôl Ofcom ynddo.

Heblaw am y cyfryngau cymdeithasol, gwasanaethau newyddion ar y teledu yw prif ffynhonnell newyddion a gwybodaeth i Americanwyr, ac ers diwedd y 1980au mae’r gwasanaethau hyn wedi polareiddio fwyfwy. Bryd hynny, peidiodd yr Athrawiaeth Tegwch â bod yn berthnasol i deledu yn yr UDA a bellach doedd dim rheolau oedd yn gofyn am gydbwysedd a didueddrwydd.

Y dirwedd newyddion yn y DU

Mae cynulleidfaoedd ym Mhrydain dros ddwywaith yn fwy tebygol o sgorio gwasanaethau newyddion ar y teledu yn uchel o ran ymddiriedolaeth, cywirdeb a didueddrwydd nag y maen nhw i sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae’r rhain yn ofynion sylfaenol sy’n sail i’n Cod Darlledu, ac sy’n helpu i sicrhau bod ein cymdeithas a’n democratiaeth yn gweithio.

Dydy’r achos dros newyddiaduriaeth drwyadl a theilwng erioed wedi bod yn fwy clir. Er enghraifft, yn nyddiau cynnar y pandemig, fe wnaeth ymchwil gan Ofcom ddarganfod bod tua hanner y boblogaeth yn dod ar draws honiadau iechyd ffug. Mae tua naw o bob deg yn parhau i gael newyddion am Covid-19 o leiaf unwaith y dydd ac fe wnaeth cynulleidfaoedd droi at y BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 a Sky mewn niferoedd mwy nag erioed o’r blaen.

Mae’r galw cynyddol am farn a syniadau amrywiol wedi arwain at sianeli a gorsafoedd newyddion newydd - sydd, o fewn ein rheolau ddidueddrwydd, yn ceisio rhoi eu stamp golygyddol ar dirwedd newyddion y DU. Lansiodd Times Radio’r haf diwethaf, tra bo disgwyl i GB News lansio yn y gwanwyn a bydd News UK TV yn rhyddhau rhaglen o gynnwys fideo wedi’i ffrydio newydd yn ystod y flwyddyn.

Mae ein rheolau yn gadael i sianeli darlledu newyddion archwilio materion o’u safbwynt eu hunain cyn belled â’u bod nhw’n cydymffurfio a rhai egwyddorion allweddol: ni chaiff gohebwyr a chyflwynwyr newyddion roi eu barn eu hunain ar faterion gwleidyddol dadleuol (a rhaid i sianeli newyddion adrodd y ffeithiau’n gywir); ond mewn rhaglenni sydd ddim yn newyddion, fe gaiff gohebwyr a chyflwynwyr ddatgelu eu barn eu hunain. Ond, ar bob rhaglen, rhaid i’r sianeli hyn adlewyrchu safbwyntiau amgen. Eu penderfyniad nhw yw sut maen nhw am wneud hynny.

Rhyddid mynegiant a’r cod darlledu

Mae rhyddid mynegiant hefyd yn hanfodol i’n democratiaeth. Mae’n cyfrannu at bob penderfyniad rydyn ni’n ei gymryd o ran cynnwys ac mae’n un o’r prif gyfrifoldebau a roddir i ni gan Senedd y DU. Mae ein rheolau’n hollol glir bod darlledwyr yn rhydd i gyflwyno cynnwys dadleuol, dychrynllyd, radical neu dramgwyddus yn eu rhaglenni. Er enghraifft, efallai y bydd darlledwyr yn dymuno cyfweld pobl sydd â safbwyntiau eithafol neu heriol mewn eitemau newyddion a materion cyfoes, sydd yn amlwg er budd y cyhoedd.

Dydy'r achos dros newyddiaduriaeth drwyadl a theilwng erioed wedi bod yn fwy clir

Yr hyn mae ein rheolau yn ei ddweud yw bod yn rhaid iddyn nhw roi’r math yma o gynnwys mewn cyd-destun - i liniaru'r niwed a’r tramgwydd posib i gynulleidfaoedd. Mae yna amrywiaeth o adnoddau golygyddol y gall darlledwyr eu defnyddio i gyd-destunoli hyd yn oed y syniadau a’r iaith fwyaf heriol. Dim ond mewn achosion lle nad yw darlledwr yn diogelu cynulleidfaoedd rhag niwed a thramgwydd posib y byddwn ni’n gweithredu.

Y tu hwnt i ddarlledu, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i fynd i’r afael â'r mater o niwed ar-lein. Er bod y ddeddfwriaeth newydd yn dal i gael ei drafftio, mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir y bydd yn diogelu rhyddid mynegiant ac yn cynnal rhyddid y wasg, a bydd hyn yn sail i rôl Ofcom fel rheoleiddiwr yn y dyfodol.

Gwnaeth fersiwn gryno o'r erthygl hwn ymddangos yng ngholofn The Times Thunderer yn Saesneg ar 28 Ionawr 2021.

See also...