Pobl sy'n agored i niwed


Gall unrhyw un wynebu amgylchiadau a all arwain iddynt fynd yn agored i niwed - dros dro neu'n barhaol. Gall hyn gynnwys problemau iechyd corfforol neu feddyliol, nodweddion penodol fel oedran neu sgiliau llythrennedd, neu newidiadau mewn amgylchiadau personol megis profedigaeth, colli swydd, neu newidiadau yn incwm yr aelwyd.

Gwaith Ofcom i bobl sy'n agored i niwed

Rydyn ni’n awyddus i bobl, yn enwedig pobl sy'n agored i niwed, dderbyn gofal cwsmer da pan fyddant yn delio â darparwyr cyfathrebu. Rydyn ni hefyd am iddynt gael y cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Rydyn ni’n gwneud gwaith i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu a’u bod yn gallu cymryd rhan mewn marchnadoedd cyfathrebu.

Tegwch i Gwsmeriaid

Rydyn ni’n credu y dylai cwsmeriaid allu gwneud dewisiadau gwybodus am eu gwasanaethau cyfathrebu, ac un o’n blaenoriaethau yw gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg. Hanfod ein rhaglen ‘Tegwch i Gwsmeriaid’ yw helpu i sicrhau bod pobl, yn enwedig pobl a allai fod mewn sefyllfa fregus, yn cael eu trin yn deg gan y cwmnïau sy’n darparu eu gwasanaethau ffôn, band eang, symudol a theledu drwy dalu yn y cartref.  Mae’r rhaglen hon yn dylanwadu ar lawer o’n prif feysydd gwaith, fel newid darparwr, prisiau, a defnyddio data defnyddwyr.

Mae gennym reolau ar waith sy’n mynnu bod gan yr holl ddarparwyr cyfathrebu yn y DU bolisïau a gweithdrefnau clir ar gyfer nodi cwsmeriaid sydd mewn sefyllfa fregus, er mwyn sicrhau eu bod yn trin y cwsmeriaid hynny’n deg ac yn briodol.   Ar ben hynny, mae gennym reolau sy’n mynnu bod darparwyr yn cynnig gwasanaethau penodol i’w cwsmeriaid anabl, fel rhoi blaenoriaeth i drwsio diffygion, gwasanaeth cyfnewid testun, ac ymholiadau di-dâl am rifau ffôn. Maen nhw hefyd yn cynnwys gofynion mewn cysylltiad â gwasanaethau rheoli biliau trydydd parti, a bodloni anghenion cwsmeriaid sydd ag anableddau penodol.

Mae enghreifftiau o’n gwaith yn y maes hwn yn cynnwys:

  • cyflwyno mynediad ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) at wasanaeth cyfnewid fideo am ddim er mwyn cysylltu â’r gwasanaethau brys, a fyddai’n fuddiol i bobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig ac i’r gwasanaethau brys, gan y byddai galwadau yn gyflymach ac yn fwy cywir;
  • ymestyn y rheolau presennol o fis Rhagfyr 2021 er mwyn i unrhyw gwsmer sydd angen, o ganlyniad i anabledd, ag angen eu cyfathrebiadau mewn fformat hygyrch (fel braille neu brint bras) allu cael yr holl wybodaeth am eu gwasanaeth cyfathrebu yn y modd hwnnw;
  • cyhoeddi canllaw i fesurau y gall darparwyr eu mabwysiadu er mwyn helpu i wneud yn siŵr eu bod yn trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg a’u bod yn darparu’r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt; a
  • nodi arferion a allai roi cwsmeriaid agored i niwed o dan anfantais, a gweithio gyda darparwyr ar ymrwymiadau newydd i helpu cwsmeriaid i gael bargen deg.

Fframwaith cyfreithiol

Mae'n ddyletswydd benodol arnom o dan y Ddeddf Cyfathrebiadau i ystyried grwpiau penodol o bobl a allai fod yn agored i niwed.   Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ystyried anghenion a buddiannau pobl anabl, yr henoed, pobl ar incwm isel, pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, a phobl y mae angen gwarchodaeth benodol arnynt o bosib oherwydd eu bod mewn sefyllfa fregus.

Adnoddau defnyddiol

Gwybodaeth arall

Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â sefydliadau gan gynnwys llywodraethau, grwpiau defnyddwyr a rheoleiddwyr eraill i rannu a gwella ein gwybodaeth am gwsmeriaid agored i niwed. Rydyn ni’n gweithio gyda Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU ar gyhoeddiadau sy’n ymwneud ag atwrneiaeth, derbyn cymorth ychwanegol gyda gwasanaethau hanfodol, a chardiau sgorio perfformiad.

Mae Ofcom yn aelod cysylltiol y Rhwydwaith Mynediad i Wasanaethau Hanfodol (ESAN). Pwrpas ESAN yw gwneud yn siŵr bod gwasanaethau hanfodol yn bodloni anghenion pobl, yn enwedig pobl sy'n agored i niwed.