Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i Ofcom.org.uk
Mae nifer o deithiau a fydd yn arwain defnyddwyr at raglenni trydydd parti nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y datganiad hwn.
- Salesforce – ar gyfer cyflwyno cwynion ac ymholiadau i Ofcom
- SPECTRAsc – gwneud cais am drwydded
- Gwefan gyrfaoedd - i wneud cais am swydd
Ofcom sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 200% heb golli'r testun oddi ar y sgrin
- gweld y porwr mewn fformat un golofn (lled porwr 1280px a Chwyddo hyd at 400%)
- llywio drwy ran o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
- llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)
- gwylio fideos gydag isdeitlau
- cael strwythur penawdau pwrpasol ar y rhan fwyaf o dudalennau
- mwynhau safonau AA ar gyfer Cyferbyniad 1.4.3
- gwneud cais rhesymol am fformatau eraill, y bydd Ofcom yn eu hystyried
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall gan gyhoeddi erthyglau defnyddwyr yng nghyswllt cyhoeddiadau mawr
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw rhai dogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- Mae’n anoddach llywio drwy rai elfennau a thempledi neu gyrchu atynt drwy raglen darllen sgrin a bysellfwrdd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- ffurflenni sy’n dechrau Ofcom.org.uk
- Nid yw Power BI a datrysiadau mapio'n hygyrch. Mae’r naill a’r llall yn ffyrdd o ddangos data lle mae modd chwyddo i mewn ac allan o rannau o ddiddordeb. Ni fydd ymwelwyr sy’n defnyddio meddalwedd darllen sgrin neu fysellfwrdd yn gallu rhyngweithio â nhw yn yr un ffordd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â thîm y we.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu'n ôl â chi o fewn 21 diwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n meddwl nad ydyn ni’n cyflawni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â'r tîm digidol.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Cysylltu â ni
Os oes angen gwybodaeth arnoch am y wefan hon mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, darllen hawdd, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r tîm digidol.
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu drwy anfon e-bost i accessibilityrequests@ofcom.org.uk. Gallwch hefyd wneud cwyn drwy ein hyb.
Mae manylion am hyn a sut i gysylltu â ni drwy gyfrwng BSL, Cymraeg neu ffôn testun ar gael ar ein tudalen cysylltu â ni.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Cynnwys nad yw'n hygyrch
Nid yw’r cynnwys sydd wedi’i restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
- Rydym yn defnyddio PowerBI a mapiau i ddangos data. Fodd bynnag, rydym yn disgrifio tueddiadau mewn adroddiadau ymchwil cysylltiedig neu’n ystyried ceisiadau am fformatau amgen.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
Chwilio
Nid yw’r tudalennau chwilio'n gwbl hygyrch:
- Ar ôl gwneud dewis drwy'r hidlydd chwilio, mae'r canlyniadau'n ail-lwytho'n awtomatig. Mae'r dudalen yn diweddaru’n awtomatig i ddefnyddiwr llygoden ond pan fydd y blychau ticio’n cael eu dewis drwy’r bysellfwrdd/rhaglen darllen sgrin, nid ydynt yn cyflawni unrhyw swyddogaeth. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â maen prawf llwyddiant 3.2.2 Wrth Fewnbynnu WCAG 2.1 (Lefel A). Rydym yn bwriadu datrys hyn ym mis Awst 2023.
Cynnwys arall
- Mae'r cod a gynhyrchir yn awtomatig ar gyfer tablau yn cynnwys IDs diangen gyda chynnwys dyblyg. Mae hyn yn methu o ran cydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A) a 4.1.1. Dosrannu (Lefel A) WCAG 2.1. Rydym yn bwriadu datrys hyn ym mis Awst 2023.
Cynnwys nad yw'n dod o dan gwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDF a dogfennau eraill
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu cywiro dogfennau ymgynghoriad ac ymchwil ar ffurf PDF na’r rhai sydd y tu allan i’r cwmpas.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn yn wreiddiol ar 17 Medi 2020 ac fe'i diweddarwyd ar 19 Mehefin 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Medi 2019. Gwnaed y prawf gan Squiz. Wrth lunio’r datganiad cafodd y problemau a gododd o’r wefan eu hailbrofi gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol ar 27 Awst 2020.
Bu i ni benderfynu samplu 15 o dudalennau sy'n cynnwys elfennau a thempledi’r prif dudalennau a ddefnyddir ar y safle. Dyma’r dull mwyaf effeithiol o ganolbwyntio ar fanylder nifer fach o dudalennau cynrychioladol.
Profwyd y tudalennau hyn a’u rhannau yn erbyn WCAG 2.1 ar bob lefel.
Y porwyr a ddefnyddiwyd
Chrome, Firefox, Safari, Internet Explorer 11
Adnoddau eraill
Offer Dadansoddi Cyferbyniad Lliw, Bar Offer WAVE, Map Penawdau, Hygyrchedd AXE, HTML
Code Sniffer ac eraill
Profion Datrysiad Cynorthwyol
3 x darllenydd sgrin - NVDA a JAWS ar gyfer Windows, VoiceOver ar gyfer Apple MacOS
Profion Datrysiadau Cynorthwyol Symudol
2 x darllenydd sgrin symudol - Talk Back ar gyfer Android, VoiceOver ar gyfer iOS
Profion Technoleg Gynorthwyol Ychwanegol
ZoomText, Dragon NaturallySpeaking