Mae Bwrdd Ofcom yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer y sefydliad.
Mae ganddo Gadeirydd Anweithredol, Cyfarwyddwyr Gweithredol (gan gynnwys y Prif Weithredwr) a Chyfarwyddwyr Anweithredol
Mae'r Weithrediaeth yn rhedeg y sefydliad ac maent yn atebol i’r Bwrdd.
Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf deng waith y flwyddyn. Caiff agendâu, nodiadau cryno a chofnodion eu cyhoeddi ar wefan Ofcom yn rheolaidd.
Aelodau'r Bwrdd
Arglwydd Grade o Yarmouth
Cadeirydd
Mae Michael Grade wedi cael gyrfa hir ym maes darlledu, gan gynnwys gyda London Weekend Television, y BBC, ITV a Channel 4. Mae wedi bod yn gadeirydd ar Stiwdios Ffilm Shepperton/Pinewood, y BBC ac ITV. Mae’n gyd-sylfaenydd y cwmni GradeLinnit, sy’n cynhyrchu ar gyfer y theatr.
Mae’n Gadeirydd ar Fwrdd Cynghori Grŵp Arora ar Ehangu Heathrow, ac mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd ar Ocado, First Leisure Corporation, Camelot, y Rheolydd Codi Arian Elusennol ac Amgueddfa Cyfryngau Bradford, yn ogystal â bod yn aelod o gyn-Gomisiwn Cwynion y Wasg ac yn un o ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Wyddoniaeth.
Mae Michael Grade yn eistedd yn Nhŷ’r Arglwyddi fel Arglwydd nad yw’n perthyn i unrhyw grŵp seneddol. Cafodd ei gyfnod fel arglwydd ei greu ym mis Ionawr 2011.
Ymunodd Michael Grade â Bwrdd Ofcom ar 1 Mai 2022. Mae ei benodiad yn parhau tan 30 Ebrill 2026.
Aelodaeth : Y Pwyllgor Pobl
Tamara Ingram
Dirprwy Gadeirydd
Mae Tamara Ingram wedi cael gyrfa helaeth ym maes hysbysebu, marchnata a chyfathrebu digidol yn ymestyn dros 35 mlynedd. Mae wedi dal sawl swydd arweiniol yn y diwydiannau creadigol ac roedd yn Gadeirydd Byd-eang Wunderman Thompson hyd 2020. Mae hi hefyd wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Byd-eang J. Walter Thompson, Cadeirydd a Phrif Weithredwr Grey, a Phrif Weithredwr McCann Worldgroup a Saatchi a Saatchi yn Llundain.
Ar hyn o bryd, mae’n Gyfarwyddwr Anweithredol Marks and Spencer Group plc ac yn Gadeirydd yr elusen iechyd, Asthma + Lung UK. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Intertek Group plc, Reckitt Benckiser Group plc, a Chwmnïau Marsh & McLennan.
Mae Tamara hefyd yn hyfforddwr busnes sy’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth. Arferai fod yn Gadeirydd pwyllgor codi arian y Royal Court, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Sage Group plc a Serco Group plc. Dyfarnwyd OBE iddi am ei chyfraniad i dwristiaeth fel Cadeirydd Visit London yn 2012.
Ymunodd Tamara Ingram â Bwrdd Ofcom ar 2 Rhagfyr 2024. Mae ei phenodiad yn para tan 1 Rhagfyr 2028.
Aelodaeth : Y Pwyllgor Pobl
Melanie Dawes
Prif Weithredwr
Ymunodd y Fonesig Melanie Dawes fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd a Phrif Weithredwr ym mis Mawrth 2020.
Cyn ymuno ag Ofcom, roedd Melanie yn Ysgrifennydd Parhaol yn y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o 2015 ymlaen. Mae wedi dal amrywiaeth o swyddi uwch ar draws y Gwasanaeth Sifil, gan weithio mewn partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys fel Hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiad y Gwasanaeth Sifil.
Dechreuodd ar ei gyrfa fel economegydd, a threuliodd 15 mlynedd yn y Trysorlys, lle bu'n Gyfarwyddwr Materion Ewropeaidd rhwng 2002 a 2006. Roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig yn Swyddfa’r Cabinet rhwng 2011 a 2015, a chyn hynny bu’n aelod o Fwrdd CThEF. Fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Treth Busnes, roedd yn gyfrifol am yr holl drethi a thollau busnes ochr yn ochr ag arwain perthynas yr adran â’r cwmnïau mwyaf.
Mae Melanie wedi ysgwyddo amryw o rolau anweithredol, gan gynnwys gyda’r corff defnyddwyr Which?, ac mae’n un o ymddiriedolwyr y Patchwork Foundation sy’n helpu pobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i fod yn rhan o ddemocratiaeth.
Lindsey Fussell
Aelod Gweithredol
Ymunodd Lindsey Fussell ag Ofcom yn 2016 ac mae’n Gyfarwyddwr Grŵp ar gyfer Rhwydweithiau a Chyfathrebu. Mae’n arwain gwaith Ofcom yn y sectorau telegyfathrebiadau a phost, lle rydym yn ceisio diogelu buddiannau defnyddwyr, hyrwyddo cystadleuaeth a sicrhau bod rhwydweithiau8’n ddiogel ac yn gadarn. Fe’i penodwyd i Fwrdd Ofcom ym mis Rhagfyr 2020.
Cyn ymuno ag Ofcom, bu Lindsey yn gweithio mewn amrywiaeth o uwch swyddi arweinyddiaeth yn y gwasanaeth sifil. Roedd yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus yn Nhrysorlys EM, lle bu’n arwain ar ddatganoli, addysg a diwylliant, amddiffyn a chyfiawnder troseddol, ac roedd yn gyfrifol am gyflawni agweddau allweddol ar Adolygiadau Gwariant 2013 a 2015. Mae hi’n gyfarwyddwr anweithredol (Cyfarwyddwr sy’n Ddigon Annibynnol) ar gyfer NGED, rhwydwaith dosbarthu trydan National Grid ar gyfer Cymru, de-orllewin Lloegr a chanolbarth Lloegr.
Ben Verwaayen
Aelod Anweithredol
Ar hyn o bryd mae Ben yn Bartner Cyffredinol gyda chronfa fuddsoddi Keen Venture Partners, ac mae’n aelod o sawl Bwrdd, gan gynnwys Akami yn yr Unol Daleithiau a Renewi Ltd, cwmni blaenllaw yn yr economi gylchol yn y BeNeLux ac yn y DU. Mae’n gyn-Brif Weithredwr BT, KPN yn yr Iseldiroedd ac Alcatel Lucent. Mae hefyd wedi bod yn Gadeirydd Endemol ac yn Aelod o Fwrdd AkzoNobel yn yr Iseldiroedd a Bharti Airtel, gweithredwr gwasanaethau symudol, yn India.
Ymunodd Ben Verwaayen â Bwrdd Ofcom ar 1 Ionawr 2016. Bydd ei benodiad yn parhau tan 31 Rhagfyr 2025.
Aelodaeth : Y Pwyllgor Pobl
Bob Downes
Aelod Anweithredol (Aelod Bwrdd ar ran yr Alban)
Cafodd Bob Downes ei benodi’n aelod o Fwrdd Ofcom o 1 Chwefror 2018 ymlaen. Mae’n aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom a’r Pwyllgor Pobl. Bob oedd cadeirydd Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr
Alban hyd at 2023. Mae’n cadeirio Corff Goruchwylio Annibynnol y Comisiwn ar gyfer Rheoleiddio Cyfathrebiadau, sy’n goruchwylio'r gwaith o weithredu gwell Model Llywodraeth Rheoleiddio yn Iwerddon gan Eir. Mae Bob yn gynghorydd i nifer o fusnesau technoleg bach, gan gynnwys Kube Networks yn Glasgow. Mae ganddo gefndir mewn telegyfathrebiadau, sefydliadau celfyddydol a diwylliannol a gyda phrifysgolion busnes a thechnoleg.
Ymunodd Ben Downes â Bwrdd Ofcom ar 1 Chwefror 2018. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Ionawr 2026.
Aelodaeth : Bwrdd Cynnwys; Y Pwyllgor Pobl
Syr Clive Jones
Aelod Anweithredol (Aelod Bwrdd ar ran Cymru)
Cafodd Clive Jones ei eni a’i fagu yng nghymoedd de Cymru, a threuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd gwaith yn ITV fel newyddiadurwr, cynhyrchydd a golygydd gyda YTV a TV-AM ac yn ddiweddarach fel Prif Swyddog Gweithredol Central Television a Grŵp Teledu Carlton. Bu hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Network ac ef oedd Prif Swyddog Gweithredol cyntaf ITV News and Regions, ar ôl creu ITV plc.
Hyfforddodd fel newyddiadurwr gyda Yorkshire Post ar ôl graddio o’r LSE.
Mae Clive hefyd yn gadeirydd Sightsavers, elusen yn y DU ar gyfer pobl sy’n colli golwg, ac Ymddiriedolaeth Runnymede, sef prif felin drafod cydraddoldeb hiliol y DU, ac ef yw Ombwdsmon y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr. Cadeiriodd y Pwyllgor Argyfyngau Brys, roedd ar fwrdd S4C a’i gangen fasnachol S4C Masnachol am chwe blynedd, ac mae’n gyn-gadeirydd Cronfa Eiddo Deallusol Cymru a National Theatre Wales.
Ymunodd Clive Jones â Bwrdd Ofcom ar 12 Chwefror 2024. Mae ei benodiad yn parhau tan 11 Chwefror 2028.
Aelodaeth : Bwrdd Cynnwys
Karen Baxter
Aelod Anweithredol (Aelod Bwrdd ar ran Gogledd Iwerddon)
Mae gan Karen yrfa nodedig dros 30 mlynedd ym maes plismona, gan ymddeol fel Comander yn Heddlu Dinas Llundain yn 2020. Dechreuodd ei gwasanaeth fel swyddog yng Ngogledd Iwerddon, ac mae ganddi brofiad helaeth mewn ystod eang o ymchwiliadau cymhleth gan gynnwys diogelu, lladdiad, gwrthderfysgaeth, troseddau difrifol a chyfundrefnol. O ganlyniad, mae ganddi ddealltwriaeth gadarn o anghenion unigryw cymunedau sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon.
Yn fwy diweddar, fel Comander a’r Cydlynydd Cenedlaethol ar gyfer Troseddau Economaidd, bu’n goruchwylio’r ymchwiliadau ariannol mwyaf difrifol yn y Deyrnas Unedig. Karen hefyd oedd arweinydd gweithredol yr Heddlu ar gyfer Atal Seiberdroseddau, a bu’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a’r trydydd sector i fynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg yn y byd ar-lein.
Yn 2020 ymunodd Karen ag UK Finance fel Rheolwr Gyfarwyddwr y Strategaeth Wybodaeth, gan weithio ar draws y sector bancio i adolygu a rheoli’r defnydd o wybodaeth. Yn fwy cyffredinol, roedd ei rôl yn golygu cydweithio â nifer o sectorau mewn perthynas â’r bygythiad o niwed ar-lein a newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Camodd Karen i lawr o’r rôl hon ym mis Tachwedd 2021.
Ym mis Medi 2022, ymunodd Karen â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, fel Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi, Rhyngwladol a Gwybodaeth yn y Tîm Gorfodi. Yn y rôl hon, mae Karen yn arwain y swyddogaethau arbenigol sy’n cefnogi ehangder gweithgareddau gorfodi a goruchwylio’r farchnad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, gan helpu i sicrhau bod ganddo’r adnoddau sydd arno ei angen i wneud ei gwaith yn effeithiol.
Ymunodd Karen Baxter â Bwrdd Ofcom ar 28 Mawrth 2022. Mae ei phenodiad yn parhau tan 27 Mawrth 2026.
Aelodaeth : Y Pwyllgor Risg ac Archwilio
Angela Dean
Aelod anweithredol (Aelod o’r Bwrdd Archwilio a Risg)
Ar hyn o bryd, mae Angela yn un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog ac yn Gadeirydd ei Bwrdd Prosiectau Cyfalaf. Mae’n Uwch Aelod Annibynnol o’r Panel Penodiadau Cyhoeddus. Mae wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol ar nifer o sefydliadau nid-er-elw gan gynnwys Cadeirydd International House Trust, Is-gadeirydd Coleg King Llundain, ymddiriedolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac aelod o’r Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Roedd gyrfa weithredol Angela ym maes cyllid rhyngwladol, yn bennaf fel Rheolwr Gyfarwyddwr Morgan Stanley lle bu’n arwain tîm ymchwil technoleg byd-eang. Roedd yn aelod o Weithgor Cytundeb Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar gyfer materion yng nghyswllt cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ym maes buddsoddi.
Ymunodd Angela Dean â Bwrdd Ofcom ar 30 Medi 2018. Mae ei phenodiad yn parhau tan 29 Medi 2026.
Aelodaeth : Y Pwyllgor Pobl, Y Pwyllgor Risg ac Archwilio
Will Harding
Aelod Anweithredol
Mae gan Will bron i 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cyfryngau. Dechreuodd ei yrfa fel ymgynghorydd rheoli gyda KPMG, cyn treulio pum mlynedd yn BBC Worldwide (BBC Studios erbyn hyn) lle bu’n gweithio ar draws gweithrediadau masnachol a rhyngwladol y BBC.
Yn ddiweddarach, helpodd i lansio ask.com yn y DU cyn symud i Sky, lle daeth yn Gyfarwyddwr Masnachol a Gweithrediadau ei fusnes cyfryngau newydd. Ymunodd â GCap Media plc yn 2006 fel Cyfarwyddwr Strategaeth Grŵp.
Ar ôl i Global Media ac Entertainment Ltd brynu GCap Media yn 2008, cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Strategaeth Global ac ymunodd â phrif fwrdd Global. Yn ystod ei gyfnod yn Global, roedd Will yn gyfrifol am sefydlu'r Global Academy, sef ysgol y wladwriaeth ar gyfer pobl ifanc o bob cefndir sydd eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Fe wnaeth roi’r gorau i’w ddyletswyddau ar Fwrdd Global ac Entertainment Ltd ym mis Rhagfyr 2020.
Ers 2021 mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Primedia, y grŵp cyfryngau a hysbysebu blaenllaw sy’n canolbwyntio ar Affrica, ac roedd yn Ymddiriedolwr Baker Dearing Educational Trust rhwng 2021 a 2024. Daeth yn ymddiriedolwr yr elusen Education and Employers yn 2024.
Ymunodd Will Harding â Bwrdd Ofcom ar 3 Hydref 2022. Mae ei benodiad yn parhau tan 2 Hydref 2026.
Aelodaeth : Y Pwyllgor Risg ac Archwilio, Bwrdd Cynnwys
Yr Arglwydd Allan o Hallam
Aelod Anweithredol
Mae gan Richard bron i 30 mlynedd o brofiad ym maes datblygu polisi cyfathrebu a thechnoleg. Ers 2010, mae wedi bod yn Aelod anetholedig o Dŷ’r Arglwyddi, ar ôl iddo gael ei wneud yn arglwydd am oes sef Barwn Allan o Hallam, o Ecclesall yn sir De Swydd Efrog. Mae wedi bod yn aelod nad yw’n perthyn i unrhyw grŵp ers 2 Hydref 2024 ac arferai fod yn gysylltiedig â phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol.
Dechreuodd ei yrfa broffesiynol gyda’r GIG, fel Datblygwr Systemau, gan adeiladu rhwydweithiau cyfrifiadurol a systemau gwybodaeth ar gyfer Avon FHSA. Rhwng 1997 a 2005 roedd yn Aelod Seneddol dros Sheffield Hallam, a bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Wybodaeth tan 2001. Ymunodd â Cisco Systems yn 2005, gan ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus tan 2009, lle bu’n arwain gwaith y cwmni ar yr holl faterion polisi telathrebu gyda gwleidyddion a rheoleiddwyr. Yna, rhwng 2009 a 2019 bu’n gweithio yn Facebook (Meta bellach) fel Is-lywydd Polisi Cyhoeddus; gan arwain tîm o fwy na 70 o arbenigwyr polisi ar draws EMEA, gan weithredu fel uwch wneuthurwr penderfyniadau ar gwestiynau polisi sensitif.
Ar hyn o bryd mae ganddo rolau Bwrdd Anweithredol gyda Chwmnïau Buddiannau Cymunedol New Automotive a’r Ganolfan Data Cyhoeddus. Mae ei rolau Anweithredol blaenorol yn cynnwys bod yn Aelod o Fwrdd Arsyllfa Cyfryngau Digidol Ewrop, Cadeirydd Tasglu Pŵer y Cyfryngau ac Aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Dinas Sheffield.
Ymunodd Richard Allan â Bwrdd Ofcom ar 1 Tachwedd 2024. Mae ei benodiad yn parhau tan 31 Hydref 2028
Yn hanesyddol mae’r trefniadau rheoleiddio ar gyfer darlledu, telathrebu a rheoli sbectrwm wedi cynnwys amrywiaeth eang o fodelau llywodraethu.
Mae’r rhain wedi cynnwys goruchwyliaeth gan Gomisiwn a benodir gan y Llywodraeth, gan Gyfarwyddwr Cyffredinol a gan Asiantaeth o’r Llywodraeth.
Mae strwythur llywodraethu Ofcom yn wahanol. Mae’n seiliedig ar fodel sy’n gyfarwydd i’r sector masnachol ond sy’n wahanol i’r gorffennol.
Mae gan Ofcom Fwrdd gyda Chadeirydd ac aelodau gweithredol ac anweithredol. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn rhedeg y sefydliad ac yn atebol i’r Bwrdd, ac mae nifer o gyrff cynghori yn cyfrannu at waith y Bwrdd a’r Pwyllgor Gwaith.
Bwrdd Ofcom sy’n rhoi cyfeiriad strategol i Ofcom. Dyma’r prif offeryn rheoleiddio statudol sydd â swyddogaeth hollbwysig o ran gweithredu Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn effeithiol.
Mae aelodaeth Bwrdd Ofcom yn cael ei gyhoeddi a gall gynnwys hyd at ddeuddeg aelod. Mae'r nifer hwn yn cynnwys Prif Weithredwr Ofcom a hyd at dri aelod o'r Tîm Gweithredol.
Mae Bwrdd Ofcom yn cwrdd o leiaf unwaith y mis (ar wahân i fis Awst). Bydd agendâu a nodiadau cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi’n rheolaidd ar wefan Ofcom.
Mae gan y Bwrdd swyddogaeth lywodraethu ganolog, sy’n golygu ei fod yn goruchwylio dyletswyddau cyffredinol Ofcom a’i gyfrifoldebau statudol penodol ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni, yn ogystal â sicrhau ei fod yn glynu wrth ethos sefydliad gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r Bwrdd hefyd yn goruchwylio cyllid a gwariant y Bwrdd yn gyffredinol.
Mae’r Bwrdd yn gweithio ar y cyd. Fel y corff sy’n gyfrifol am reoli cyfeiriad strategol Ofcom, mae’r Bwrdd wedi cytuno y bydd ei aelodau’n dilyn yr egwyddorion canlynol:
- Bydd y Bwrdd yn gweithredu ar sail egwyddorion cydgyfrifoldeb, cydgefnogaeth a pharch..
- Dylai aelodau’r Bwrdd allu cael gafael ar yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau y ceir dadleuon cadarn ac y gwneir penderfyniadau effeithiol.
- Ym mhob sefyllfa, pennir y bydd holl aelodau’r Bwrdd wedi cytuno â phob penderfyniad.
- Ni fydd pwysau allanol yn newid prosesau’r Bwrdd ac eithrio ar gyfer amserlenni posibl.
- Mae disgwyl i ymddygiad aelodau’r Bwrdd mewn ymateb i benderfyniadau fod yr un fath y tu mewn a’r tu allan i Ofcom.
- Ni fydd safbwyntiau lleiafrif yn cael eu gwneud yn gyhoeddus yn fewnol nac yn allanol.
- Efallai y bydd gofyn i aelodau’r Bwrdd a enwebir (ar wahân i’r rheini a oedd yn anghytuno â phenderfyniad) egluro a mynegi penderfyniadau penodol.
- Os bydd aelod o’r Bwrdd yn ymddiswyddo, caiff ddatgan y rheswm dros yr anghytuno, ond ni chaiff ailadrodd dadleuon aelodau eraill y Bwrdd yn gyhoeddus.
The Board provides strategic direction for the performance of Ofcom’s regulatory functions by reference to its statutory duties and has overall responsibility for financial and operational matters.
The Board may take any decision it considers it is appropriate to be taken by the Board notwithstanding the delegations approved by the Board. The Board may also ask the Chair alone, or with other individual members, to take responsibility for specific matters. The delegations in this document are also subject to the reservation of the following matters to the Board
- approval of Ofcom's annual budget;
- approval of Ofcom's annual report and accounts;
- approval of any contract value in excess of £5,000,000;
- approval of Ofcom’s Financial Authorities Framework and other financial matters reserved to the Board in accordance with the Financial Authorities Framework;
- approval of Ofcom's annual plan, long term objectives and overall strategic policy framework;
- Ofcom’s Risk Policy and definition of Ofcom’s Risk Appetite;
- decisions on major changes to the structure of Ofcom;
- The Board, Board Committees and Board Members’ performance evaluation process;
- approval of terms of reference, membership and Chairs of Board committees, including the proposed creation of additional Board Committees and/or the elimination of, or changes to, existing Board Committees;
- approval of appointments of Non-Executive Board Members to Board Committees;
- Directors’ and Officers’ Liability Insurance and the indemnification of Board Members and Officers;
- Codes of Conduct (and any changes proposed) for the Ofcom Board, Content Board and Advisory bodies;
- Corporate governance arrangements of Ofcom, including this schedule of matters reserved for the Board;
- Division of responsibilities between the Chair and Chief Executive;
- appointment or removal of the Corporation Secretary;
- approval of appointments of non-executive members of the Channel Four Board (subject to the formal approval of the Secretary of State for DCMS) and decisions as to the number of members of the Channel Four Board; and
- approval of appointments of non-executive members of MG Alba (the Gaelic Media Service) subject to the formal approval of the Scottish Ministers; and
- approval of Ofcom Values and review of Ofcom’s culture ensuring alignment with the strategy
Approved by the Ofcom Board, 15 March 2023
Bydd y Bwrdd yn cwrdd ar y dyddiadau canlynol:
7 Chwefror 2024
13 Mawrth 2024
17 Ebrill 2024
22 Mai 2024
19 Mehefin 2024
17 Gorffennaf 2024
25 Medi 2024
16 Hydref 2024
13 Tachwedd 2024
11 Tachwedd 2024
Agendâu ar gyfer cyfarfodydd y Bwrd
Ein polisi ni yw i gadw cofnodion y bwrdd a phwyllgor ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gallwch ddod o hyd i gofnodion hŷn ar wefan yr Archif Genedlaethol.
Cofnodion a nodiadau cyfarfodydd y Bwrdd
Ein polisi ni yw i gadw cofnodion y bwrdd a phwyllgor ar ein gwefan am ddwy flynedd yn unig. Gallwch ddod o hyd i gofnodion hŷn ar wefan yr Archif Genedlaethol.