Dyma’r cyntaf o bedwar ymgynghoriad mawr y bydd Ofcom, fel rheoleiddiwr y Ddeddf Diogelwch Ar-lein newydd, yn eu cyhoeddi fel rhan o’n gwaith i sefydlu’r rheoliadau newydd dros y 18 mis nesaf.
Mae'n canolbwyntio ar ein cynigion ar gyfer sut y dylai gwasanaethau rhyngrwyd sy'n galluogi rhannu cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr ('gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr') a gwasanaethau chwilio ymdrin â'u dyletswyddau newydd yn ymwneud â chynnwys anghyfreithlon.
Rydym yn ymdrin ag:
- achosion ac effeithiau niwed anghyfreithlon;
- sut y dylai gwasanaethau asesu a lliniaru'r risgiau o niwed anghyfreithlon;
- sut y gall gwasanaethau nodi cynnwys anghyfreithlon; a'n
- dull gweithredu ar gyfer gorfodi.
Mae ein cynigion yn adlewyrchu ymchwil yr ydym wedi'i gwneud dros y tair blynedd diwethaf, yn ogystal â thystiolaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu'n helaeth â diwydiant ac arbenigwyr eraill.
Sut i ddarllen yr ymgynghoriad hwn
- Dechreuwch gyda chrynodeb o'n cynigion (PDF, 463.4 KB) a chrynodeb o bob pennod (PDF, 479.6 KB) Mae'r rhain yn dweud popeth wrthych am y cynigion sy'n effeithio arnoch chi.
- Os ydych eisiau mwy o fanylder, mae'r chwe chyfrol yn esbonio ein cynigion yn llawn.
- Yn yr atodiadau, rydym wedi cyhoeddi drafftiau cyntaf o'n codau ymarfer, asesiad risg a chanllawiau eraill.
Daeth ein hymgynghoriad i ben ar 23 Chwefror 2024. Ysgrifennodd Gill Whitehead, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom dros Ddiogelwch Ar-lein, y nodyn canlynol at ymatebwyr:
Roeddwn eisiau ymateb i gydnabod derbyn eich ymateb i’n hymgynghoriad, ond hefyd i ddiolch yn ddiffuant i chi am neilltuo amser ac ystyriaeth i’ch atebion.
Mae cymaint o’r gwaith a wneir gan Ofcom yn cael ei wireddu drwy’r adborth adeiladol ac agored iawn a dderbyniwn gan ein rhanddeiliaid. Yn yr achos hwn, gwyddwn ichi wynebu tasg fawr wrth ymateb i ymgynghoriad mor hanfodol bwysig a chymhleth.
Rwy’n ymwybodol o gyfraniad y rhanddeiliaid sydd â llai o adnoddau wrth law, megis gwasanaethau llai a grwpiau cymdeithas sifil. Nid wyf am un eiliad yn cymryd yn ganiataol faint o amser ac ymdrech y mae'n rhaid bod hyn wedi'i gymryd. Gallaf eich sicrhau y bydd eich cyflwyniad, a’r holl gyfraniadau rydym wedi’u derbyn, yn cael eu hadolygu’n agos gan ein tîm polisi wrth inni geisio cryfhau ein gwaith yn y maes yma.
Yn olaf, dyma eich atgoffa o’r camau nesaf. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl ymatebion a thystiolaeth a dderbyniwyd, ac yna'n anelu at gyhoeddi ein datganiad rheoleiddio a'n casgliadau tua diwedd y flwyddyn hon. Yna, bydd angen i wasanaethau gwblhau asesiad risg o niwed anghyfreithlon, a byddwn yn cyflwyno ein codau i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, i’w gosod gerbron Senedd y DU. Bydd Ofcom yn cyhoeddi’r rhain oni bai bod Senedd y DU yn penderfynu peidio â’u cymeradwyo. Byddwn, wrth gwrs, yn eich diweddaru wrth i’n gwaith fynd rhagddo.
Unwaith eto, diolch i chi am ein helpu gyda’r gwaith pwysig hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio mwy gyda chi yn y blynyddoedd i ddod.
Gill Whitehead, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom dros Ddiogelwch Ar-lein
Prif ddogfennau
Crynodeb o bob pennod (PDF File, 479.6 KB)
Consultation at a glance: our proposals and who they apply to (PDF File, 463.4 KB)
Volume 2: The causes and impacts of online harm (PDF File, 3.2 MB)
Volume 3: How should services assess the risk of online harms? (PDF File, 1.2 MB)
Annexes 1–4: Responding to this consultation (PDF File, 267.7 KB)
Annex 5: Draft service risk assessment guidance (PDF File, 764.8 KB)
Annex 6: Draft guidance on record keeping and review (PDF File, 231.2 KB)
Annex 7: Draft illegal content codes of practice for user-to-user services (PDF File, 658.5 KB)
Annex 8: Draft illegal content codes of practice for search services (PDF File, 489.1 KB)
Annex 10: Draft guidance on judgement for illegal content (PDF File, 2.8 MB)
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA