Rhan o waith Ofcom yw cynnal ymchwil mewn cysylltiad â’n dyletswyddau sy’n ymwneud â llwyfannau rhannu fideos yn y DU, ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, a’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Fel y nodir yn Natganiad Preifatrwydd Cyffredinol Ofcom, o bryd i’w gilydd bydd Ofcom neu ein hasiantaethau ymchwil allanol yn creu cyfrifon ar lwyfannau rhannu fideos a chyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio “personau ffuglennol” er mwyn gallu rhyngweithio rhwng defnyddwyr (gan gynnwys Facebook, Instagram, Snapchat, TikTok, X ac YouTube).
Bydd hyn yn golygu, er enghraifft, cofrestru ar gyfer llwyfan a mynd ar hyd taith defnyddiwr i arsylwi proses gofrestru’r llwyfan neu greu cyfrifon gan ddefnyddio persona ffuglennol, sy’n dynwared ymddygiad defnyddiwr, er mwyn deall profiad y defnyddiwr. Rydym ni’n rhagweld y bydd hon yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth y gallwn ei chyfuno â data arall er mwyn deall profiadau pobl ar-lein.
Gyda chymorth asiantaeth ymchwil, gwnaethom gynnal cynllun ymchwil peilot ar raddfa fach ym mis Chwefror/Mawrth 2023 gan ddefnyddio cyfrifon a sefydlwyd gan ymchwilwyr ar wahanol lwyfannau. Defnyddiodd y cyfrifon bersonau ffuglennol yn seiliedig ar blant ifanc (rhwng tair a 12 oed) i’n helpu ni i ddeall pa gynnwys mae’r cyfrifon hyn yn ei weld ar bob llwyfan ac, yn benodol, a ydynt yn gweld cynnwys a allai fod yn anghyfreithlon neu’n niweidiol.
Ym mis Rhagfyr 2024/Ionawr 2025, yn dilyn cynllun peilot byr, rydym yn bwriadu cynnal gwaith ymchwil gyda chymorth asiantaeth ymchwil gan ddefnyddio cyfrifon a sefydlwyd gan ymchwilwyr ar wahanol lwyfannau. Bydd y cyfrifon yn defnyddio ‘personau ffuglennol’ yn seiliedig ar brofiad ar-lein gwahanol ddefnyddwyr, gan gynnwys cyfrifon plant, i’n helpu i ddeall pa mor gyffredin yw nodweddion dylunio penodol a sut gallai dyluniad rhyngwynebau a swyddogaethau’r llwyfannau siapio ymddygiad defnyddwyr a’r canlyniadau a welant. Mewn rhai achosion, gall rhedeg y cyfrifon hyn gynnwys rhyngweithio syml (megis dilyn/cyfeillio ayb) â chyfrifon eraill ar y llwyfan lle bo angen. Fodd bynnag, ein bwriad yw sicrhau cyn lleied â phosibl o ryngweithio â defnyddwyr eraill ar y llwyfan. Yn benodol, ni fyddwn yn rhyngweithio ag unrhyw gyfrifon plant, cyfrifon oedolion preifat neu gyfrifon oedolion gyda llai na 1000 o ddilynwyr/cysylltiadau.
Yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith ymchwil hwn, efallai y byddwn yn cynnal rhagor o ymchwil tebyg yn y dyfodol hefyd. Pan fydd prosiectau ymchwil o’r fath yn cael eu cynnal, byddwn yn darparu hysbysiadau tryloywder ar ein gwefan i roi gwybod i’r cyhoedd amdanynt.