CN 24 NC_Wales web

Band eang ffeibr llawn yn cyrraedd miliwn o gartrefi yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr 2024
  • Band eang ffeibr llawn yn cyrraedd miliwn o gartrefi yng Nghymru - y cyrhaeddiad uchaf erioed - ar ôl ei gyflwyno’n gyflym.
  • Y nifer sy’n defnyddio gwasanaethau ar rwydweithiau ffeibr llawn wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Darpariaeth symudol 4G wedi cynyddu’n sylweddol.

Mae miliwn o gartrefi yng Nghymru, sef y ffigur uchaf erioed, yn gallu cael band eang ffeibr llawn erbyn hyn, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf Ofcom ar rwydweithiau band eang a symudol y wlad.

Mae adroddiad Cysylltu’r Gwledydd Cymru gan Ofcom wedi canfod bod 68% o gartrefi Cymru nawr yn gallu cael gafael ar fand eang ffeibr llawn, wedi codi o 55% (730,000 o gartrefi) ers mis Medi 2023 ac yn unol â chyfartaledd y DU o 69%. Mae cartrefi mewn ardaloedd trefol yng Nghymru yn fwy tebygol o fod yn gallu cael gafael ar rwydweithiau ffeibr llawn (74%), ond bu cynnydd nodedig o saith pwynt canran o ran argaeledd ffeibr llawn yng nghefn gwlad Cymru, gan gyrraedd bron i hanner y cartrefi yng Nghymru (48%).

Drwy ddefnyddio ceblau ffeibr optig yr holl ffordd i’r cartref yn hytrach na llinellau copr, mae band eang ffeibr llawn yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy. Gall rhwydweithiau ffeibr llawn, yn ogystal â chebl, ddarparu cyflymderau o un gigabit yr eiliad (Gbit yr eiliad) neu uwch, sy’n golygu profiad gwell wrth wneud gweithgareddau fel ffrydio, chwarae gemau a gwneud galwadau fideo.

Wrth edrych ar rwydweithiau ffeibr llawn a chebl gyda’i gilydd, mae mwy na miliwn o gartrefi yng Nghymru (74%) nawr yn gallu cael gafael ar gysylltiad band eang sy’n gallu delio â gigabits.

CN 24 Wales coverage

Defnydd ffeibr llawn yn parhau i gynyddu

Mae nifer y cartrefi sydd wedi cofrestru ar gyfer gwasanaethau band eang ffeibr llawn, lle bo hynny’n bosibl, wedi codi o 31% i 39% rhwng mis Mai 2023 a mis Gorffennaf 2024.

Mae’r nifer sy’n defnyddio ffeibr llawn yn sylweddol uwch mewn ardaloedd gwledig nag mewn ardaloedd trefol, gyda 55% o gartrefi yng nghefn gwlad Cymru sy’n gallu cael gafael ar ffeibr llawn wedi cofrestru, o’i gymharu ag ychydig dros draean (36%) mewn trefi a dinasoedd.

Mae’r ffaith bod band eang ffeibr llawn bellach ar gael mewn miliwn o gartrefi yng Nghymru yn newyddion da iawn. Mae’r garreg filltir arwyddocaol hon wedi cael ei chyrraedd drwy gyfuniad o fuddsoddiad masnachol ac ymyrraeth gyhoeddus wedi’i thargedu, ac edrychwn ymlaen at weld cynnydd pellach er mwyn cysylltu’r cartrefi hynny sy’n parhau i fod heb gysylltiad band eang teilwng..

- Elinor Williams, Pennaeth, Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru

Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd gwasanaethau band eang a symudol ledled Cymru, gan gynnwys cyflwyno rhwydweithiau symudol 5G a mynediad di-wifr sefydlog, ffeibr llawn. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys canfyddiadau allweddol eraill ar gyfer Cymru, gan gynnwys:

Argaeledd band eang cyflym iawn a ffeibr llawn yn gwella’n aruthrol ar draws etholaethau newydd San Steffan yng Nghymru, ond mae amrywiadau sylweddol yn dal i fodoli

Yr etholaethau San Steffan sydd â’r lefelau uchaf o argaeledd ffeibr llawn yw Alyn a Glannau Dyfrdwy (92%), Pen-y-bont ar Ogwr (91%) a Gogledd Clwyd (88%); a’r etholaethau sydd â’r lefel isaf o argaeledd ffeibr llawn yw Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe (41%), Caerfyrddin (45%), Ceredigion Preseli (48%), Rhondda ac Ogwr (36%) ac Ynys Môn (45%).

Mae darpariaeth band eang cyflym iawn mewn 29 o’r 32 etholaeth seneddol bellach yn o leiaf 90%, gyda sawl un ohonynt â darpariaeth o 99% neu fwy. Ceir y lefelau isaf o ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin (85%), Ceredigion Preseli (86%) a Brycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe (88%).

Cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio band eang lloeren

Mae’r nifer sy’n defnyddio band eang lloeren yn cynyddu a gall gynnig dewis arall mewn ardaloedd sy’n cael eu gwasanaethu’n wael yng Nghymru. Yn 2024, cyrhaeddodd band eang lloeren Starlink 5,000 o gysylltiadau yng Nghymru – y rhan fwyaf mewn ardaloedd gwledig – wedi codi o 3,000 y llynedd.

Darpariaeth ehangdir 4G wedi cynyddu’n sylweddol

Mae darpariaeth ehangdir 4G, lle bo hynny ar gael gan y pedwar gweithredwr, wedi cynyddu o 62% i 75%, ac mae wedi’i sbarduno’n bennaf gan y rhaglen Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Mae’r ddarpariaeth yn rhannau mwyaf gwledig Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf o 13 pwynt canran i 72% o 59% ym mis Medi 2023.

Mae ardaloedd trefol yng Nghymru yn dal i gael eu gwasanaethu’n dda gan rwydweithiau 4G, sef 94% o’r ddarpariaeth.

Eto, mae gwahaniaethau o ran darpariaeth ehangdir 4G ar draws yr etholaethau San Steffan newydd. Gan mai Ynys Môn yw’r unig etholaeth yng Nghymru i beidio â chael ei heffeithio gan y newidiadau i’r ffiniau, mae’n bosibl cymharu’r ddarpariaeth o’r llynedd – gan gynyddu o 75% i 90% yn 2024.

Yr etholaethau sydd â’r lefelau uchaf o ddarpariaeth gan y pedwar gweithredwr yw Dwyrain Caerdydd (99%+), Gorllewin Abertawe (99%+) a Dwyrain Casnewydd (99%), gyda’r ddarpariaeth isaf yn etholaethau mwy gwledig Dwyfor Meirionnydd (63%), Bangor Aberconwy (66%), Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe (66%) a Cheredigion Preseli (69%).

Mae argaeledd 5G symudol yn ehangu’n raddol yng Nghymru, ond mae’n amrywio’n sylweddol yn ôl gweithredwr.

Mae darpariaeth 5G gweithredwyr rhwydweithiau symudol y tu allan i safleoedd yn amrywio rhwng 16% ac 80% yr un. Roedd y ddarpariaeth 5G y tu allan i safleoedd lle mae ar gael gan o leiaf un gweithredwr wedi cynyddu i 86% – i fyny o 83% y llynedd.[4] Fodd bynnag, rydym yn parhau i weld gwahaniaethau sylweddol ar draws y DU, gyda darpariaeth 5G yn cael ei defnyddio gan o leiaf un gweithredwr mewn 91% o safleoedd mewn ardaloedd trefol, o’i gymharu â 68% o safleoedd mewn ardaloedd gwledig.

Mae hen rwydweithiau 3G yn cael eu dileu, gyda dau weithredwr rhwydwaith symudol eisoes wedi cwblhau’r broses, a disgwylir i 2G gael ei ddileu erbyn 2033.

Gwella ein gwaith adrodd ar ddarpariaeth symudol

Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau ar yr adroddiadau presennol ar ddarpariaeth yn seiliedig ar y rhagfynegiadau presennol o gryfder signal gan weithredwyr rhwydwaith symudol, ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu profiad uniongyrchol cwsmeriaid.

Mae gwella ein darpariaeth ac adrodd ar berfformiad ac edrych ar ffyrdd newydd o gasglu’r data hwn yn brif flaenoriaeth i Ofcom yn y flwyddyn i ddod. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys ailwampio ein hadnodd gwirio darpariaeth symudol a band eang. 

Nodiadau i olygyddion:

  1. Ochr yn ochr â’r adroddiad ar Gymru, rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiadau ar wahân ar argaeledd band eang a symudol yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol a phob un o’i gwledydd eraill. Mae ein dangosfwrdd rhyngweithiol yn galluogi pobl i gael gafael ar y data diweddaraf yn hawdd ar gyfer gwahanol ardaloedd o Gymru a’r DU ac mewn perthynas â gwasanaethau penodol.
  2. Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 8,000 o safleoedd yng Nghymru yn dal i gael trafferth cael gafael ar fand eang teilwng o rwydweithiau llinell sefydlog neu ddi-wifr sefydlog. Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 1,000 o’r safleoedd hyn yn cael eu cysylltu drwy gynlluniau sy’n cael arian cyhoeddus erbyn mis Rhagfyr 2025, gan adael 7,000 o safleoedd heb ddarpariaeth band eang boddhaol, ac o bosibl yn gymwys ar gyfer y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol (USO).
  3. Os na allwch chi gael cyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad o leiaf a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr eiliad o leiaf (diffinnir hyn fel ‘cysylltiad teilwng’), mae gennych chi hawl gyfreithiol i ofyn am uwchraddio eich cysylltiad. Gallwch chi wneud y cais hwn i BT, neu i KCOM os ydych chi’n byw yn ardal Hull. Does dim rhaid i chi fod yn gwsmer presennol i wneud cais.
Yn ôl i'r brig