Adolygiad Blynyddol o'r Farchnad ar gyfer Gwasanaethau y telir amdanynt drwy’r ffôn 2024–2025

Cyhoeddwyd: 4 Medi 2025

Gwasanaethau a dalir amdanynt drwy’r ffôn neu gyfradd premiwm (PRS) yw unrhyw wasanaethau y codir tâl amdanynt drwy fil ffôn y cwsmer neu gredyd symudol rhagdaledig. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau fel mynediad at blatfformau ffrydio cerddoriaeth a fideo, rhoddion elusennol trwy neges destun, pleidleisio ar sioeau talent teledu, cystadlaethau darlledu, ymholiadau cyfeiriadur a phrynu drwy siop ap gan gynnwys cynnwys mewn-ap fel ychwanegiadau ar gyfer gemau.

Cymerodd Ofcom gyfrifoldeb am reoleiddio gwasanaethau y telir amdanynt drwy’r ffôn ym mis Chwefror 2025, gan gymryd yr awenau o'r Awdurdod Gwasanaethu Talu dros y Ffôn (PSA). Mae’r adolygiad blynyddol hwn yn parhau â'r gyfres o adroddiadau mewnwelediad marchnad flynyddol a gyhoeddwyd yn flaenorol gan y PSA, ac mae wedi'i gynhyrchu ar gyfer Ofcom gan Analysys Mason.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein penderfyniadau rheoleiddio yn cael eu hysbysu gan dystiolaeth o ansawdd uchel. Mae adroddiadau fel hyn yn ein helpu i ddeall tueddiadau'r farchnad, ymddygiad defnyddwyr, a materion sy'n dod i'r amlwg yn y sector PRS.

Mae Ofcom yn adolygu sut y bydd yn parhau i adrodd ar y sector PRS ac yn croesawu adborth ar y cyhoeddiad hwn i helpu i lywio ei benderfyniadau. Anfonwch unrhyw sylwadau at MID@ofcom.org.uk.

Adroddiad

Adolygiad Blynyddol o'r Farchnad ar gyfer Gwasanaethau y telir amdanynt drwy’r ffôn 2024–2025 (PDF, 1.86 MB)