Diogelu blychau ffôn hanfodol

Cyhoeddwyd: 8 Awst 2023

Gall blychau ffôn cyhoeddus ddarparu rhwyd ddiogelwch i bobl heb fynediad at linell dir neu ffôn symudol sy'n gweithio. Mewn ardaloedd sydd â darpariaeth symudol wael, mae'n bosib mai blwch ffôn cyhoeddus fydd yr unig ddewis ar gyfer gwneud galwadau, gan gynnwys i'r gwasanaethau brys.

Mae'n ofynnol i BT (ar draws y DU, heblaw ardal Hull) a KCOM (yn ardal Hull) ddarparu blychau ffôn cyhoeddus i ddiwallu anghenion rhesymol y cyhoedd.

Ym Mehefin 2022, bu i ni ddiweddaru ein rheolau ar flychau ffôn cyhoeddus. Erbyn hyn, ni all BT a KCOM ddileu blwch bellach os mai dyma'r olaf sy'n weddill mewn ardal (h.y. mwy na 400 metr o bellter cerdded o'r blwch ffôn cyhoeddus nesaf) ac mae'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf hyn:

  • mae mewn ardal nad oes ganddi ddarpariaeth gan bob un o'r pedwar darparwr rhwydwaith symudol;
  • mae wedi'i leoli mewn ardal sydd â nifer uchel o ddamweiniau neu achosion o hunanladdiad;
  • mae 52 o alwadau neu fwy wedi'u gwneud ohono yn y 12 mis diwethaf; neu
  • mae tystiolaeth arall bod angen rhesymol am y blwch ar y safle – er enghraifft os yw'n debygol y dibynnir arno yn achos argyfwng lleol, megis llifogydd, neu os caiff ei ddefnyddio i ffonio llinellau cymorth.

Os nad yw blwch ffôn sydd yr un olaf yn ei ardal yn bodloni unrhyw un o'r meini prawf hyn, gall BT neu KCOM ymgynghori â'r awdurdod lleol perthnasol ynghylch ei ddileu. Mae'n rhaid i BT a KCOM ystyried unrhyw farn a thystiolaeth a dderbynnir o'r ymgynghoriad hwn cyn penderfynu a ddylid dileu'r blwch ai beidio.

Gall blwch ffôn cyhoeddus nad yw'r un olaf ar safle gael eu ddileu gan BT a KCOM heb ymgynghoriad.

payphone-removal-process-cym

Mae ein harweiniad ar flychau ffôn cyhoeddus (PDF, 195.0 KB) yn cynnwys mwy o fanylder ar sut yr ydym yn disgwyl i BT a KCOM gymhwyso'r broses hon..

Dim ond blychau ffôn talu ar dir cyhoeddus sy'n dod o dan ein rheolau

Mae ein rheolau ond yn berthnasol i ffonau talu ar dir cyhoeddus y mae gan y cyhoedd fynediad iddo trwy'r amser. Golyga hyn nad yw ffonau talu ar dir preifat, fel y rhai mewn gorsafoedd trên a meysydd awyr er enghraifft, yn dod o dan ein rheolau ac y gellir eu dileu heb ymgynghoriad.

Mae'n bosib y bydd modd i gymunedau lleol fabwysiadu ciosgau coch yn eu hardal

Mae BT yn cynnig cynllun sy'n caniatáu mabwysiadu ei giosgau coch 'treftadaeth' os nad oes angen y ffôn mwyach. Gall cyrff lleol fel cynghorau dosbarth neu blwyf ac elusennau fabwysiadu ciosg am £1. Yna bydd BT yn tynnu'r offer ffôn a gellir defnyddio'r ciosg at ddibenion eraill, megis peiriant diffibrilio neu lyfrgell fach. Mae gan wefan BT fwy o wybodaeth am y cynllun.

Hysbysu BT/KCOM am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i ddifrodi

Mae ein rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i BT a KCOM sicrhau eu bod yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio eu blychau ffôn cyhoeddus yn ddigonol. I roi gwybod am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i ddifrodi i BT, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: customer.serv.payphones@bt.com. Gweler gwefan BT am fwy o fanylion.

I roi gwybod am flwch sy'n ddiffygiol neu wedi'i difrodi yn ardal Hull, cysylltwch â KCOM yn: payphones@kcom.com.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig