Mae sicrhau bod pobl sydd mewn dyled neu sy'n cael trafferth talu yn cael eu trin yn deg gan eu darparwr cyfathrebu'n flaenoriaeth i Ofcom.
Er bod cyfran gymharol fach o gwsmeriaid band eang a symudol yn tueddu i fynd i ôl-ddyledion, gall dyled fod yn straen a gall gael effaith arwyddocaol ar iechyd meddwl unigolyn. Rydym hefyd yn ymwybodol y gallai mwy o bobl fod ar ei hôl hi o ran eu biliau yn 2022 oherwydd prisiau manwerthu cynyddol a phwysau ehangach ar gostau byw. Felly, rydym wedi cynnal adolygiad i ystyried a yw'r mesurau diogelu ar gyfer pobl sydd mewn dyled neu sy'n ei chael hi'n anodd talu yn parhau'n briodol, neu a oes achos dros eu cryfhau.
Rydym yn cynnig diwygio ein canllaw Trin Cwsmeriaid Agored i Niwed yn Deg i nodi argymhellion arfer gorau i ddarparwyr ynghylch mesurau ymarferol pellach gallant eu mabwysiadu i drin cwsmeriaid sy'n agored i niwed yn ariannol yn deg.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA