Rydym yn gwahodd pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) i roi eu barn i ni am y defnydd o BSL ar y teledu ac ar wasanaethau fideo ar-alw. Bydd yr arolwg hwn yn helpu siapio dyfodol iaith arwyddion ar y teledu ac ar wasanaethau ar-alw.
Rydyn ni eisiau darganfod pa mor aml y mae defnyddwyr BSL yn gwylio rhaglenni sy'n cynnwys arwyddo, y mathau o raglenni y maent yn eu gwylio a beth yw eu barn am ansawdd ac argaeledd rhaglenni sydd wedi'u harwyddo.
Bydd yr adborth a gawn yn hollbwysig wrth helpu cyfeirio ein canllawiau ar arwyddo ar gyfer sianeli teledu a gwasanaethau ar-alw - gan gynnwys pa fathau o raglenni y dylid eu blaenoriaethu i'w harwyddo.
Hoffen ni glywed gan bobl sydd:
- dros 16 oed ac yn defnyddio BSL i gyfathrebu;
- yn byw gyda rhywun dros 16 oed sy'n defnyddio BSL i gyfathrebu; neu
- sydd â phlentyn o dan 16 oed sy'n defnyddio BSL i gyfathrebu.
Gall pobl sydd â mwy nag un defnyddiwr BSL yn eu haelwyd gwblhau un arolwg ar gyfer pob defnyddiwr BSL.
Gallwch chi ymateb trwy arolwg ar-lein a ddehonglir trwy BSL, neu drwy anfon fideo ohonoch chi'n arwyddo eich ymateb atom.
Mae'r arolwg ar agor tan ddydd Iau 1 Gorffennaf, a byddwn yn cyhoeddi adroddiad o'r canlyniadau ar ein gwefan.
Rydyn ni'n bwriadu gwneud mwy o waith ymchwil gyda defnyddwyr BSL yn y dyfodol - os hoffech chi gymryd rhan, gyrrwch e-bost i accessibility@ofcom.org.uk. Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith hygyrchedd ar ein gwefan.
Rydym yn falch bod Ofcom wedi gofyn i'r gymuned BSL rannu eu barn o ran eu dymuniadau ar gyfer y math o deledu a ddarperir, y cyfaddawd sy'n bodoli mewn rheoleiddio rhwng darlledwyr yn gwneud darpariaeth brif-ffrwd yn hygyrch mewn BSL, ac ariannu a chreu cynnwys a grëir ac a gyflwynir mewn BSL a anelir yn uniongyrchol at y gymuned. Rydym yn annog yr holl ddefnyddwyr BSL i gymryd rhan wrth siapio dyfodol BSL ar y teledu a rhannu'r arolwg hwn yn eang ymysg y gymuned.
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID)