Neidio i'r cynnwys
Global Search

Dolenni cyflym



English

Cod Darlledu Ofcom (gyda’r Cod Traws-hyrwyddo a’r Rheolau Gwasanaeth Rhaglenni Ar-Alw)

Cyhoeddwyd: 31 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd diwethaf: 12 Mehefin 2023

Mae Cod Darlledu Ofcom (“y Cod”)  yn cwmpasu pob rhaglen a ddarlledir ar neu ar ôl 23:00 ar 31 Rhagfyr 2020.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi Canllawiau i ddarlledwyr ar God Darlledu Ofcom y gallwch ei ddarllen ymhob adran o'r Cod isod.

Ymdrinnir â rhaglenni a ddarlledwyd cyn 1 Ionawr 2019 gan y fersiwn o'r Cod a oedd mewn grym ar ddyddiad y darllediad. Darllenwch ein Codau Etifeddol ar gyfer fersiynau blaenorol y Cod Darlledu.

O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (fel y’i diwygiwyd) (“y Ddeddf”) a Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd) (“Deddf 1996”) mae’n ofynnol i Ofcom lunio cod ar gyfer teledu a radio sy'n ymdrin â safonau mewn rhaglenni, nawdd, gosod cynnyrch mewn rhaglenni teledu, tegwch a phreifatrwydd. Mae’r Cod hwn i’w alw’n God Darlledu Ofcom (“y Cod”).

Mwy o wybodaeth am Gefndir Deddfwriaethol y Cod

Mae’r Cod wedi’i osod ar ffurf egwyddorion, ystyron a rheolau ac, yn achos Adrannau saith (Tegwch) ac wyth (Preifatrwydd), mae hefyd yn cynnwys cyfres o "arferion i'w dilyn" ar gyfer darlledwyr. Mae’r egwyddorion wedi’u cynnwys er mwyn helpu darllenwyr i ddeall amcanion y safonau ac i gymhwyso’r rheolau. Rhaid i ddarlledwyr sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau fel y maent wedi’u disgrifio yn y Cod. Mae’r ystyron yn helpu i egluro beth y mae Ofcom yn ei olygu wrth rai o’r geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Cod. Mae’r ddeddfwriaeth ar ddarlledu sy’n fwyaf perthnasol wedi’i nodi dan bennawd pob adran fel y gall darllenwyr droi at y ddeddfwriaeth os dymunant.

Mwy o wybodaeth am Sut i defnyddio’r Cod hwn

Cyfrifoldeb y darlledwr yw cydymffurfio â’r Cod. Os oes ar wneuthurwyr rhaglenni angen cyngor pellach ynghylch cymhwyso’r Cod hwn, dylent siarad, yn y lle cyntaf, â’r rhai sydd â chyfrifoldeb golygyddol dros y rhaglen a swyddogion cyfreithiol a chydymffurfio’r darlledwr.

Gweler mwy o arweiniad cyffredinol.

Y Cod Darlledu, fesul adran

Mae'r adran hon yn amlinellu'r rheolau ynglŷn ag amserlennu a gwybodaeth am gynnwys rhaglenni mewn perthynas â diogelu plant o dan 18 oed.

Gweler adran un

Mae'r adran hon yn amlinellu safonau ar gyfer cynnwys darlledu er mwyn diogelu'r cyhoedd yn ddigonol rhag deunydd niweidiol a/neu dramgwyddus.

Gweler adran dau

Mae adran hon y Cod yn ymdrin â deunydd sy’n debygol o annog neu gymell trosedd neu anhrefn, gan adlewyrchu dyletswydd Ofcom i wahardd darlledu'r mathau hyn o raglenni.

Gweler adran tri

Mae'r adran hon yn ymwneud â chyfrifoldeb darlledwyr mewn perthynas â chynnwys rhaglenni crefyddol.

Gweler adran pedwar

Sicrhau y bydd newyddion, ar ba bynnag ffurf, yn cael eu hadrodd gyda chywirdeb dyladwy a’u cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.

Sicrhau y cydymffurfir â gofynion arbennig y Ddeddf o ran didueddrwydd.

Gweler adran pump

Mae'r adran hon yn ymdrin â'r gofynion arbennig o ran didueddrwydd a deddfwriaeth arall y mae'n rhaid eu cymhwyso ar adeg etholiadau a refferenda.

Gweler adran chwech

Mae'r adran hon yn sicrhau bod darlledwyr yn osgoi trin unigolion neu gyrff yn anghyfiawn neu’n annheg mewn rhaglenni.

Gweler adran saith

Mae'r adran hon yn sicrhau bod darlledwyr yn osgoi unrhyw dresmasu ar breifatrwydd heb gyfiawnhad mewn rhaglenni ac mewn perthynas â dod o hyd i ddeunydd sydd wedi’i gynnwys mewn rhaglenni.

Gweler adran wyth

Mae'r adran hon yn ymwneud ag annibyniaeth olygyddol darlledwyr a rheolaeth dros raglennu gyda gwahaniaeth rhwng cynnwys golygyddol a hysbysebu

Gweler adran naw

Mae'r adran hon yn ymwneud â darlledu ar radio yn unig ac â sicrhau tryloywder cyfathrebiadau masnachol fel ffordd o sicrhau diogelwch defnyddwyr.

Gweler adran deg

O dan amodau’r Cod Trawshyrwyddo hwn, gall darlledwyr teledu hyrwyddo rhaglenni, sianeli a gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â darlledu heb i hyrwyddiadau o'r fath gael eu hystyried yn hysbysebu a'u cynnwys wrth gyfrifo munudau hysbysebu.

Gweler y Cod Trawshyrwyddo

Mae’r Rheolau Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw yn sicrhau bod traws-hyrwyddiadau ar y teledu'n wahanol i hysbysebu a'u bod yn hysbysu gwylwyr am wasanaethau sy'n debygol o fod o ddiddordeb iddynt fel gwylwyr; a chan sicrhau nad yw hyrwyddiadau ar y teledu y tu allan i raglenni'n rhagfarnu cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Gweler y Rheolau ac arweiniad, gweithdrefnau a hysbysiadau

Yn ôl i'r brig