Sicrhau bod cyfathrebiadau yn gweithio i bawb
Ofcom yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer y gwasanaethau cyfathrebu yr ydym yn eu defnyddio ac yn dibynnu arnynt bob dydd. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod cyfathrebu yn gweithio i bawb.
Mae defnyddwyr a busnesau'r DU yn dibynnu ar ddefnyddio gwasanaethau cyfathrebu bob dydd. Ni fu erioed yn bwysicach cael cyfathrebu dibynadwy a chadarn ar draws y DU ac mae'n chwarae rôl hanfodol yn ymateb y DU i'r coronafeirws.
Mae'r gwaith a wnawn o fudd i ddefnyddwyr a busnesau yn y DU i gael y gorau o wasanaethau cyfathrebu ac mae'n sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau lle bynnag y bônt yn y DU. Rydym yn sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu hamddiffyn rhag arferion amheus ac rydym yn cefnogi cystadleuaeth lle bo'n briodol i gyflawni canlyniadau da.
Cliciwch neu bwyswch i ddarllen mwy am ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf:
Ofcom sy’n gyfrifol am weithredu'r USO. Ers mis Mawrth 2020, mae defnyddwyr wedi gallu gwneud cais am gysylltiad band eang teilwng.
Eleni, rydym wedi amlinellu ein fframwaith rheoleiddio arfaethedig i gefnogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr llawn (Adolygiad o’r Farchnad Telegyfathrebiadau Sefydlog Gyfanwerthol). O dan gynlluniau presennol darparwyr, mae’n bosib y byddai o leiaf 50% o’r DU yn gallu cael darpariaeth ffeibr llawn o fewn pum mlynedd.
Roeddem wedi rhoi cyngor technegol i'r Llywodraeth ynghylch cynigion gweithredwyr rhwydweithiau symudol ar gyfer ‘rhwydwaith gwledig a rennir’ (SRN), a fydd yn helpu i gynyddu'r ddarpariaeth 4G ar draws y DU.
Rroeddem wedi cadarnhau cynlluniau i ganiatáu rhannu mynediad mewn nifer o fandiau sbectrwm, ac wedi bwrw ymlaen â’n rhaglen waith i ryddhau mwy o sbectrwm er mwyn gallu lansio gwasanaethau symudol newydd, fel 5G.
O dan ein rhaglen Tegwch i Gwsmeriaid, roeddem wedi cyhoeddi fframwaith yn amlinellu sut byddwn ni'n barnu a yw cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg gan gwmnïau telegyfathrebiadau a theledu drwy dalu.
Y llynedd, roedd pob un o ddarparwyr mwyaf y DU wedi gwneud ymrwymiad pwysig i roi tegwch yn gyntaf.
Newid darparwr – rydym wedi’i gwneud yn haws i gwsmeriaid adael eu cwmni gwasanaethau symudol presennol, ac wedi cyflymu’r broses honno, drwy adael iddyn nhw newid drwy anfon neges destun syml. Rydym hefyd wedi’i gwneud yn haws i newid darparwr band eang a chael sicrwydd o gyflymder penodol.
Erbyn hyn, mae'n rhaid i gwmnïau band eang, ffôn a theledu drwy dalu ddweud wrthych chi pan fydd eich contract yn dod i ben, a rhoi gwybod i chi am y cynigion gorau sydd ar gael ganddyn nhw.
Roeddem wedi cyhoeddi adolygiad pum mlynedd o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (2014-18), i sbarduno sgwrs genedlaethol ynghylch sut gellid diogelu manteision darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar gyfer y dyfodol.
Roeddem wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer darlledu yn y sector cyhoeddus sy’n gysylltiedig â’r gwaith o wneud rhaglenni y tu allan i Lundain, a’r meini prawf sy’n diffinio cynhyrchiad rhanbarthol.
Roeddem wedi cyhoeddi datganiad gyda diwygiadau i’r Cod cyfeiryddion rhaglenni electronig, i wneud yn siŵr ei bod hi’n dal yn hawdd dod o hyd i'r prif sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Disgwylir y bydd y diwygiadau’n dod i rym yn 2021.
Roeddem wedi gweithio gyda darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw, grwpiau defnyddwyr a’r Llywodraeth ynghylch sut dylai rheoliadau sydd ar y gweill wneud y gwasanaethau hyn yn fwy hygyrch.
Roeddem wedi cofnodi 82 achos o dorri’r Cod, ac wedi rhoi saith sancsiwn i ddarlledwyr, yn cynnwys chwech dirwy ariannol.
Roeddem wedi ehangu ein gweithgarwch llythrennedd yn y cyfryngau drwy lansio’r rhaglen Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau. Mae rhwydwaith Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau yn dwyn ynghyd sefydliadau ac unigolion sydd ag arbenigedd mewn llythrennedd yn y cyfryngau, gyda'r nod cyffredin o wella sgiliau ar-lein oedolion a phlant yn y DU, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o hynny.
Roeddem wedi cyhoeddi’r adroddiad blynyddol hwn, sy’n ystyried sut mae pobl yn cael eu gwasanaethu gan wasanaethau a chynnwys ar y rhyngrwyd, a’u hagweddau at fod ar-lein. Ochr yn ochr â hyn, roeddem wedi diweddaru ein dadansoddiad a’n hymchwil ar agweddau oedolion a’u defnydd o gyfryngau.
Roeddem wedi cyhoeddi mwy o waith ymchwil manwl yn archwilio profiadau pobl o niwed ar-lein Roeddem hefyd wedi edrych ar sut gallai deallusrwydd artiffisial helpu i gymedroli cynnwys ar-lein wrth symud ymlaen dros y pum mlynedd nesaf.
Rydym yn gweithio gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y broses ddeddfwriaethol a fydd yn rhoi pwerau newydd i Ofcom ar gyfer Gofynion Diogelwch Telegyfathrebiadau, gyda’r nod o wella lefelau diogelwch yn y sector telegyfathrebiadau
Roeddem wedi cyhoeddi adroddiadau amrywiaeth ar gyfer radio a theledu. Am y tro cyntaf, roeddem wedi casglu data ar gefndir economaidd-gymdeithasol y gweithlu teledu.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy’n cynnig gwerth am arian, ac sy’n ymwybodol o gostau wrth gyflawni ein dyletswyddau. Dros y 15 mlynedd diwethaf, rydym wedi parhau i sicrhau arbedion cyllidebol mewn termau real tebyg am debyg o un flwyddyn i'r llall.
Mae’r adran hon yn egluro sut rydym wedi ein trefnu i gyflawni ein dyletswyddau a sut hwyl rydym wedi'i chael arni o ran ein hamcanion strategol sydd wedi’u nodi yn ein Cynllun Gwaith Blynyddol, yr effaith ar ddefnyddwyr a’r canlyniadau, a’r camau nesaf rydym yn eu cymryd.
Mae’r adran hon yn egluro’r trefniadau llywodraethu a’r llinellau atebolrwydd i sicrhau bod ein hamcanion a’n dyletswyddau yn cael eu cyflawni.
Mae’r adran hon yn cynnwys y datganiadau ariannol, yn cynnwys nodiadau’r cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.
Yn cynnwys Adran 400; datganiadau rheoleiddiol; rhaglenni ar gyfer archwiliadau; cwynion darlledu, trwyddedu a gorfodi sbectrwm; data cynaliadwyedd, ac; ein rhaglen glirio 700MHz.
Manylion y ffioedd a’r taliadau disgwylir i Ofcom gasglu o dan Adran 400 y Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (Saesneg yn unig).