Darpariaeth band eang a symudol gwell – lle bynnag fyddwch chi

22 Gorffennaf 2020

Gwell band eang a gwasanaeth symudol... lle bynnag eich lleoliad

Hybu buddsoddi a gwella darpariaeth band eang a symudol, er mwyn i bawb elwa.

Gwell gwasanaethau band eang

Mae cysylltiadau o ansawdd uchel yn bwysicach nawr nag erioed o'r blaen. Mae arnom eisiau sicrhau bod pawb yn gallu cael gwasanaethau band eang cyflym a dibynadwy, ni waeth ble maen nhw’n byw neu’n gweithio.

Yr effaith ar ddefnyddwyr

Rydym mewn chwyldro cyfathrebu. Mae pobl yn dibynnu mwy ar gysylltiadau band eang sefydlog i’w helpu gyda’u hanghenion bob dydd.

Mae pobl hefyd yn defnyddio mwy o ddata dros eu cysylltiadau sefydlog. Yn 2019, roedd y defnydd o ddata ar linellau sefydlog wedi cynyddu i 315GB ar gyfartaledd fesul cysylltiad bob mis, o 240GB yn 2018.

Mae hyn yn cyfateb yn fras i wylio tair i bedair awr o gynnwys manylder uwch (HD) (ffilmiau, chwaraeon, clipiau fideo) bob dydd. Nid yw’r patrwm yn dangos unrhyw arwyddion o arafu, a bydd yn rhoi straen ar hen rwydweithiau copr y DU dros y blynyddoedd nesaf.

Wrth i fwy a fwy allu cael Mynediad Di-wifr Sefydlog (FWA), bydd nifer yr eiddo sy’n methu cael cysylltiad band eang teilwng yn parhau i ostwng (amcangyfrif o ryw 189,000 o eiddo ym mis Rhagfyr).

Rhwydweithiau sy’n gallu delio â gigabit yw’r dyfodol: rhwydweithiau ffeibr optig gwibgyswllt, sy’n cynnig cyflymder o hyd at 30 gwaith y cyfartaledd ar hyn o bryd, yn ogystal â bod yn fwy dibynadwy.

Beth rydym wedi'i gyflawni

Ym mis Mawrth 2018, cafodd telerau rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol newydd (USO) eu pennu’n derfynol gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid darparu gwasanaethau a chysylltiadau band eang fforddiadwy ar draws y DU, gyda chyflymder llwytho i lawr o 10 Mbit yr eiliad o leiaf.

Ofcom sy’n gyfrifol am weithredu'r USO. Eleni, rydym wedi penodi BT a KCOM fel darparwyr gwasanaeth cyffredinol band eang. Lansiwyd yr USO ar 20 Mawrth 2020, felly mae defnyddwyr bellach yn gallu gwneud cais am gysylltiad band eang teilwng gan BT neu KCOM.

Mae galluogi cystadleuaeth yn rhan ganolog o’n gwaith. Drwy greu’r amodau cystadleuol iawn i gwmnïau fuddsoddi, rydym yn disgwyl gweld buddsoddiad mewn ffeibr llawn gan rwydweithiau newydd sy’n cystadlu â’i gilydd a BT.

Ein nod yw creu’r amgylchedd rheoleiddio gorau posib i hybu buddsoddiad ac arloesedd.

Ym mis Gorffennaf 2018, roeddem wedi amlinellu cynlluniau i gynnig sicrwydd rheoleiddiol yn y tymor hwy, a chefnogaeth ar gyfer buddsoddiad cystadleuol mewn rhwydweithiau ffeibr ar draws y DU. Fe ddywedon ni y byddwn, erbyn 2021, yn rheoleiddio marchnadoedd busnes a phreswyl mewn ffordd fwy cyfannol, gan gyfuno ein hasesiadau mewn un adolygiad, a fydd yn para am o leiaf bum mlynedd yn hytrach na thair.

Ym mis Mawrth 2019 a mis Ionawr 2020, roeddem wedi rhoi manylion am ein fframwaith rheoleiddio arfaethedig i hybu cystadleuaeth a buddsoddiad mewn rhwydweithiau ffeibr llawn. Roedd yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad o'r Farchnad Telegyfathrebiadau Sefydlog Gyfanwerthol yn cynnwys cynigion i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod cwmnïau eraill yn cael mynediad at bolion telegraff a phibellau tanddaearol Openreach, gan helpu i leihau’r gost ymlaen llaw o adeiladu’r rhwydweithiau hyn i tua hanner;
  • mabwysiadu dulliau gwahanol o reoleiddio cynnyrch band eang preswyl cyfanwerthol Openreach mewn gwahanol rannau o’r DU, gyda’r nod o greu’r amodau iawn i ysgogi buddsoddiad yn y ddwy ran o’r DU lle rydym yn credu bod rhwydweithiau sy’n cystadlu ag Openreach yn debygol o gael eu hadeiladu, a’r rheini lle mae cystadleuaeth o’r fath yn annhebygol;
  • rheoleiddio ‘llinellau ar les’ Openreach – cysylltiadau data cyflym a ddefnyddir gan sefydliadau mawr – mewn ffordd debyg i gynnyrch band eang preswyl cyfanwerthol, drwy amrywio ein dull gweithredu yn ôl ardal i adlewyrchu lefel bresennol neu bosib y gystadleuaeth;
  • helpu Openreach i drosglwyddo’n ddidrafferth o’i rwydweithiau copr hŷn a rhoi’r gorau i’w defnyddio, gan helpu i leihau costau a chynyddu nifer y defnyddwyr sy’n defnyddio gwasanaethau ffeibr llawn.
  • Daeth y broses ymgynghori i ben ym mis Mai 2020, ac rydym nawr yn gweithio tuag at gadarnhau ein cynlluniau ddechrau 2021, cyn i’r fframwaith newydd ddod i rym ym mis Ebrill 2021.

Y  canlyniadau a'r camau nesaf

Blaenoriaeth Ofcom yw sicrhau bod rhwydweithiau band eang o ansawdd da yn realiti cenedlaethol, yn enwedig ar gyfer y miloedd o bobl nad ydynt yn gallu cael cysylltiad teilwng ar hyn o bryd.

Pwrpas ein fframwaith rheoleiddio newydd arfaethedig yw cefnogi a hybu'r achos busnes dros ffeibr llawn i ddarparwyr sy’n cystadlu â’i gilydd, yn ogystal ag Openreach.

  • Mae Openreach wedi mynd ati fesul cam i gynyddu ei darged adeiladu ar gyfer Ffeibr i’r Adeilad, o 3 miliwn erbyn 2021, i 4 miliwn i ddechrau, a 4.5 miliwn o eiddo erbyn hyn. Yn yr un modd, ar ôl datgan bwriad yn wreiddiol i adeiladu hyd at 10 miliwn o eiddo erbyn 2025, yna 15 miliwn erbyn tua 2025, mae’r targed bellach wedi cael ei ymestyn i 20 miliwn o eiddo erbyn canol-diwedd y degawd hwn;
  • Mae CityFibre wedi caffael FibreNation, ac wedi ymestyn ei darged i wyth miliwn o eiddo yn hytrach na phum miliwn;
  • Mae Virgin Media wedi parhau i adeiladu ar gyfradd gyson;
  • Mae Hyperoptic wedi sicrhau prif gyfranddaliwr newydd; ac
  • Mae Gigaclear yn bwrw ymlaen â’i fodel busnes penodol mewn ardaloedd gwledig.

Uchelgais y Llywodraeth yw sicrhau bod y wlad i gyd yn gallu cael band eang sy’n gallu delio â gigabit erbyn canol y degawd. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r diwydiant, yn ogystal â'r Llywodraeth ganolog a’r Llywodraethau datganoledig, i ymestyn argaeledd gwasanaethau band eang sylfaenol a ffeibr llawn ar draws y DU.

Gwell gwasanaethau symudol

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau symudol lle bynnag maen nhw, sy’n eu galluogi i wneud galwadau, i ddefnyddio’r rhyngrwyd, i ffrydio cynnwys ac i ddefnyddio apiau ffonau clyfar.

Yr effaith ar ddefnyddwyr

A ninnau’n byw mewn cymdeithas o ffonau clyfar heddiw, mae gallu gwneud galwadau a mynd ar-lein pan fyddwn ar grwydr yn rhan hollbwysig o fywydau personol a gwaith pobl. Mae traffig data dros y rhwydweithiau symudol wedi dyblu bron yn ystod y ddwy flynedd hyd at 2019. Fodd bynnag, er bod y ddarpariaeth symudol ar draws y DU yn gwella’n raddol, mae’r ddarpariaeth yn dal yn anghyson mewn rhannau o’r wlad, a gall profiadau defnyddwyr fod yn anghyson.

Er bod y rhan fwyaf o’r wlad yn gallu cael darpariaeth gan o leiaf un cwmni gwasanaethau symudol, mae gwahaniaethau sylweddol rhwng ardaloedd trefol a gwledig. Gall 96 y cant o ardaloedd trefol gael signal 4G gan y pedwar gweithredwr, o’i gymharu â 63% o ardaloedd gwledig.

Beth rydym wedi'i gyflawni

Ym mis Rhagfyr 2018, roeddem wedi cyhoeddi cynlluniau i ddarparu mwy o sbectrwm i gefnogi’r galw am wasanaethau rhyngrwyd pan fyddwn ar grwydr. Roedd ein hymgynghoriad ar ryddhau 200 MHz o sbectrwm newydd, ar draws y bandiau 700 MHz (80 MHz) a 3.6-3.8 GHz (120 MHz), yn cynnwys cynigion i ymestyn y ddarpariaeth symudol gan ddau weithredwr i o leiaf 90% o holl arwyneb tir y DU o fewn pedair blynedd.

Yn dilyn hyn, mae’r pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol cenedlaethol – BT/EE, O2, Three a Vodafone – wedi datblygu cynnig i’r Llywodraeth gefnogi eu cynllun ar gyfer ‘rhwydwaith gwledig a rennir’, fel opsiwn yn lle ein cynigion.

Roeddem wedi rhoi cyngor technegol i’r Llywodraeth drwy gydol y broses i drafod telerau’r trefniant hwn, ac rydym bellach wedi amrywio trwyddedau pob gweithredwr gwasanaethau symudol i gynnwys ymrwymiadau rhwymol i sicrhau canlyniadau’r Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Bydd gennym ni rôl hefyd i adrodd yn ôl yn rheolaidd ar y cynnydd dros y blynyddoedd i ddod, ac asesu cydymffurfiaeth pan ddylai’r rhwymedigaethau gael eu cyflawni.

Ym mis Gorffennaf 2019, roeddem wedi cadarnhau cynlluniau i ganiatáu rhannu mynediad mewn nifer o fandiau sbectrwm. Er enghraifft, mae’n bosib rhannu mynediad ar gyfer sbectrwm yn y bandiau 1800 MHz a 2300 MHz, ac mae ffonau symudol presennol yn gallu defnyddio'r sbectrwm hwnnw. Hefyd, mae defnyddwyr bellach yn gallu rhannu mynediad i sbectrwm yn y band 3.8-4.2GHz, lle mae’r ecosystem yn dechrau datblygu. Rydym hefyd wedi caniatáu i drydydd partïon ddefnyddio sbectrwm sydd eisoes wedi’i drwyddedu i weithredwyr gwasanaethau symudol, mewn ardaloedd lle nad ydyn nhw’n defnyddio'r sbectrwm.

Rydym yn agor mynediad i sbectrwm, wrth i dechnolegau di-wifr ddechrau chwarae rôl sylweddol yn nhrawsnewidiad digidol llawer o sectorau’r diwydiant – o weithgynhyrchu, logisteg, mwyngloddio, amaethyddiaeth a dyfeisiau wedi’u cysylltu a fydd yn rhan o’r ‘Rhyngrwyd Pethau’. Ym mis Mawrth 2019, roeddem wedi dechrau ar ein rhaglen ymgysylltu â gwahanol sectorau yn y diwydiant, er mwyn rhoi gwybodaeth am rôl technoleg ddi-wifr a helpu sefydliadau i ddeall rôl sbectrwm wrth gyflawni eu hamcanion trawsnewid digidol.

Rydym hefyd wedi bwrw ymlaen â’n rhaglen waith dros y flwyddyn, gan ryddhau rhagor o sbectrwm i hwyluso’r gwaith o lansio gwasanaethau symudol newydd ar gyfer pobl a’r diwydiant, gan gynnwys 5G.

Mae’r cyfuniad o wahanol fandiau sbectrwm yn galluogi gweithredwyr rhwydweithiau symudol i gynyddu capasiti data er mwyn ymdopi â galw sylweddol mewn canolfannau trefol, gan alluogi pobl i gael mynediad mwy dibynadwy i'r rhyngrwyd.

Ar ben hynny, rydym wedi gweithio gyda’r Adran Drafnidiaeth, yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Network Rail a nifer o randdeiliaid eraill ynghylch cysylltedd ar drenau. Rydym wedi canolbwyntio ar geisio deall gofynion teithwyr a gweithredwyr o ran cysylltedd ar drenau.

Y canlyniadau a'r camau nesaf

Gallai’r cynllun rhwydwaith gwledig a rennir weld hyd at £1bn o fuddsoddiad gan y Llywodraeth a’r diwydiant dros y blynyddoedd nesaf, i gynyddu'r ddarpariaeth symudol. Byddwn yn monitro cynnydd y gweithredwyr wrth iddyn nhw gyflawni’r ymrwymiadau o ran darpariaeth sydd wedi’u cynnwys yn eu trwyddedau.

Mae'r holl weithredwyr rhwydweithiau symudol yn y DU eisoes wedi lansio gwasanaethau 5G newydd yn y dinasoedd mwyaf. Byddwn yn penderfynu’n derfynol ar y rheolau ar gyfer dyfarnu 200 MHz o sbectrwm newydd ar draws y bandiau 700 MHz a 3.6-3.8 GHz cyn diwedd y flwyddyn, a byddwn yn cynnal yr arwerthiant cyn gynted ag sy’n ymarferol bosib.

Bydd y ffordd y byddwn ni’n mynd ati i’w gwneud yn bosib i rannu mynediad ac i gael mynediad lleol at sbectrwm mewn sawl band yn golygu bod opsiynau cysylltedd di-wifr ar gael ar draws ystod eang o gwmnïau, cymunedau neu sefydliadau. Byddai’r bandiau sbectrwm rydym wedi’u hagor i’w rhannu hefyd yn gallu cael eu defnyddio i ddarparu band eang di-wifr sefydlog, gan helpu i gysylltu cartrefi a busnesau mewn ardaloedd lle mae’n anodd iawn rhoi ceblau yn y ddaear. Bydd cam nesaf ein gwaith yn ystyried potensial dull awdurdodi cwbl awtomatig ar gyfer darparu gwasanaethau di-wifr dros sbectrwm a rennir.

Byddwn yn adrodd yn ôl ar y cynnydd y mae gweithredwyr rhwydweithiau symudol yn ei wneud i gyflawni ymrwymiadau newydd eu trwydded, cyn asesu cydymffurfiaeth pan ddisgwylir i’r ymrwymiadau gael eu cyflawni. A byddwn yn parhau i ystyried sut gallwn ni gynnig rhagor o gymorth i bobl, drwy sicrhau bod yr wybodaeth orau ar gael iddyn nhw drwy ein mapiau darpariaeth ar-lein a’n cyngor i ddefnyddwyr.