Cefnogi darlledu yn y DU

22 Gorffennaf 2020

Cefnogi darlledu yn y DU

Helpu darlledwyr i ffynnu a sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu gwasanaethu'n dda gyda rhaglenni o ansawdd uchel.

Dyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus-Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr

Mae gan Ofcom rôl i sicrhau bod gwasanaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus (DGC) y DU yn parhau i ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd. Ym mis Chwefror roeddem wedi cyhoeddi ‘Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – Adolygiad pum mlynedd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus’, a oedd yn rhoi ein barn ni am berfformiad darlledu gwasanaeth cyhoeddus rhwng 2014 a 2018.

Roedd yr adolygiad hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau yn ein hail adroddiad Cyfryngau' Genedl a gyhoeddwyd yr haf diwethaf – a oedd yn adolygu tueddiadau allweddol yn y sector teledu a fideo, yn ogystal â'r sector radio a sain. Ar wahân i hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddii adroddiad pum mlynedd ynghylch a yw Corfforaeth Channel 4 yn cyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â chynnwys cyfryngau.

Dros y flwyddyn diwethaf, rydym wedi rhoi ein barn bod DGC ar groesffordd allweddol, wrth ystyried y newid mewn ymddygiad cynulleidfaoedd a'r ffaith bod mwy a mwy o gystadleuaeth gan ddarparwyr cynnwys byd-eang. Roeddem wedi penderfynu mai dyma’r adeg iawn i ystyried cwestiynau sylfaenol am ddyfodol DGC, ac ym mis Gorffennaf 2019 aethom ati i lansio trafodaeth genedlaethol i drafod dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus – sef Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr. Ers hynny, rydym wedi trefnu trafodaethau â chynulleidfaoedd, darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu, y Llywodraeth, Senedd y DU, cyrff yn y diwydiant, cynrychiolwyr cenedlaethol a rhanbarthol, ac eraill. Mae mwy o wybodaeth am ddatblygiad y drafodaeth hon ar gael ar wefan benodol y drafodaeth Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.

Dros y flwyddyn nesaf byddwn ni’n bwrw ymlaen ag amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, gan ofyn beth ddylai DGC ei gyflawni, sut dylai gael ei gyflawni a’i ariannu, a pha adnoddau rheoleiddio a pholisi fyddai eu hangen i sicrhau bod cynnwys DGC yn dal i gael ei ddarparu yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn ystyried effaith Covid-19 ar y diwydiant, ac ar y berthynas rhwng cynulleidfaoedd a DGC.

Bydd y trafodaethau ym mhob un o wledydd y DU, ynghyd â’n hymchwil, ein dadansoddiadau a thystiolaeth bellach gan randdeiliaid yn cyfrannu at ymgynghoriad ar yr opsiynau ar gyfer dyfodol DGC, ac rydym yn bwriadu cyhoeddi’r ymgynghoriad cyn diwedd 2020. Byddwn wedyn yn gwahodd safbwyntiau a thystiolaeth ynghylch yr opsiynau hyn, cyn gwneud argymhellion i’r Llywodraeth yn 2021.

Adolygu'r canllawiau i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar gynyrchiadau y tu allan i Lundain 

Ym mis Mehefin 2019, roeddem wedi cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol ynghylch ein hadolygiad o gynyrchiadau rhanbarthol, ac wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar gyflawni eu cwotâu ar gyfer rhaglenni a wneir y tu allan i Lundain.

Mae’r newidiadau rydym wedi’u gwneud yn cynnwys cryfhau’r meini prawf sy’n diffinio cynhyrchiad rhanbarthol, eithrio cynnwys sy’n hunan-hyrwyddo rhag cael ei ystyried ar gyfer y cwotâu cynyrchiadau rhanbarthol, a rhoi mwy o wybodaeth yn y canllawiau ynghylch pob maen prawf a sut dylid eu rhoi ar waith. Er mwyn gwella cydymffurfiad a helpu i orfodi hyn, rydym hefyd wedi cyflwyno archwiliadau yn y fan a’r lle a threfn adrodd gliriach.

Bydd y canllawiau newydd yn dod i rym ar gyfer rhaglenni a ddarlledir o fis Ionawr 2021 ymlaen. Yn ein barn ni, bydd ein pecyn o newidiadau’n golygu bod mwy o fanylder ac atebolrwydd yn y drefn, gan sicrhau ei bod yn cyflawni bwriad y polisi’n well, sef cefnogi ac ysgogi’r economïau creadigol ar draws gwledydd a rhanbarthau'r DU

Ymateb i Ddatganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau Blynyddol Corfforaeth Channel 4 

Mae Corfforaeth Channel 4 (C4C) yn llunio Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau blynyddol, sy’n egluro sut roedd y Gorfforaeth wedi cyflawni ei chylch gwaith ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus a’i dyletswyddau cynnwys cyfryngau yn ystod y flwyddyn flaenorol, a sut mae’n bwriadu gwneud hynny yn y flwyddyn i ddod. Rhaid i C4C drafod â ni wrth baratoi’r Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau, a byddwn ni’n cyhoeddi ymateb bob blwyddyn.

Roeddem wedi cyhoeddi ein hymateb i Ddatganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau 2018 Channel 4 pan gyhoeddodd ei Adroddiad Blynyddol fis Mehefin diwethaf. Roeddem ni o’r farn bod C4C wedi cyflawni ei ddyletswyddau’n dda yn 2018 mewn sawl elfen bwysig, gan gynnwys gwariant ar raglenni yn y gwledydd a’r rhanbarthau, ei fuddsoddiadau mewn cynnwys sy’n apelio at blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, ei ymrwymiad i raglenni sy’n ymwneud ag amrywiaeth, a pherfformiad Film4 Productions. Roeddem wedi nodi rhai elfennau lle gallai C4C wneud mwy. Er enghraifft, nid oedd yn dangos cymaint o syniadau newydd ar y sgrin, nac yn gweithio gyda chymaint o gynhyrchwyr gwahanol o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Yn ogystal â’n hadolygiad blynyddol o berfformiad C4C, eleni byddwn yn ystyried cyfraniad C4C at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, ac a oes angen newid ei rwymedigaethau yn y dyfodol a sut bydd angen gwneud hynny, fel rhan o’n rhaglen waith Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.

Adolygiad o'r cynnwys i blant 

Cafodd DGC ei ddylunio gan Senedd y DU i sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau amrywiaeth eang o raglenni o ansawdd uchel, gan gynnwys rhaglenni gwreiddiol ar gyfer plant.

Ym mis Gorffennaf 2019, roeddem wedi cyhoeddi ein barn ar ymatebion ITV, Corfforaeth Channel 4 a Channel 5 i’n Hadolygiad o Gynnwys i Blant. Roedd pob darlledwr wedi gwneud ymrwymiad o’r newydd ar gyfer cynnwys i blant, drwy greu a buddsoddi mwy mewn rhaglenni gwreiddiol o’r DU sy’n cael eu cynhyrchu’n arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau yn y DU, gan gynnwys rhaglenni sy’n defnyddio actorion, adloniant a newyddion.

Rydym ni’n teimlo bod eu cynlluniau, gyda’i gilydd, wedi ymateb yn gadarnhaol i’r pryderon roeddem wedi tynnu sylw atynt yn ein hadroddiad yn 2018. Mae cynlluniau’r darlledwyr hefyd yn adlewyrchu’r llu o wahanol ffyrdd mae cynulleidfaoedd iau yn gwylio cynnwys DGC erbyn hyn – yn fyw, ar-alw ac ar-lein – ac mae hynny’n bwysig iawn.

Amlygrwydd DGC a diweddaru’r Cod Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig (EPG)

Ym mis Gorffennaf 2019, gwnaethon ni gyhoeddi datganiad roeddem wedi cyhoeddi datganiad yn diwygio’r adran amlygrwydd yn y Cod Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig Llinol. Rydym wedi diwygio’r Cod Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig i sicrhau ei bod yn dal yn hawdd dod o hyd i'r pum prif sianel DGC (BBC1, BBC2, gwasanaethau Channel 3, Channel 4 a Channel 5). Rydym hefyd wedi pennu lefelau sylfaenol o amlygrwydd ar gyfer gwasanaethau teledu lleol a DGC eraill. Bydd hyn yn sicrhau bod gwylwyr yn dal yn gallu dod o hyd i sianeli DGC yn hawdd, ac yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd i rai gwasanaethau DGC. Disgwylir y bydd yr adrannau diwygiedig hyn o’r Cod yn dod i rym ar 4 Ionawr 2021.

Ochr yn ochr â'n diwygiad i'r Cod Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig, roeddem hefyd wedi cyhoeddi ein hargymhellion i'r Llywodraeth i ddiogelu amlygrwydd gwasanaethau ar-alw, llinol a DGC ar-lein. Ers hynny, rydym wedi cydweithio’n helaeth â rhanddeiliaid y diwydiant a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i ystyried sut byddai’r rheolau newydd hyn ar amlygrwydd yn gweithio’n ymarferol. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r diwydiant ynghylch a fyddai’n ddymunol cael rheolau newydd sy’n gwarantu bod cynnwys ar-alw DGC ar gael. Bydd y trafodaethau hyn yn llywio’r opsiynau ar gyfer dyfodol DGC, fel rhan o raglen waith Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr.

Disgwyliadau cynulleidfaoedd mewn byd digidol

Mae’n bwysig bod y rheolau rydym yn eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau darlledu ac ar-alw yn adlewyrchu disgwyliadau ac ymddygiad gwylio defnyddwyr wrth iddyn nhw newid.

Roeddem wedi comisiynu Ipsos MORI i gynnal ymchwil ansoddol i helpu ni ddeall  sut mae agweddau cynulleidfaoedd at safonau cynnwys yn newid, a’u profiadau o raglenni ar wahanol lwyfannau – gan gynnwys teledu, radio, ar-alw, gwasanaethau tanysgrifio a rhannu fideos.

Rhai o ganfyddiadau’r ymchwil, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, oedd bod y rheini a gymerodd ran o'r farn:

  • mai cynnwys sy’n annog troseddu ac iaith casineb yw’r cynnwys mwyaf difrifol;
  • y dylid blaenoriaethu cynnwys niweidiol dros gynnwys tramgwyddus;
  • ond bod cynnwys tramgwyddus sy’n codi materion yn ymwneud â gwahaniaethu yn peri pryder, ac y dylid blaenoriaethu hynny hefyd.

Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan Ofcom.

Mae darn ar wahân o waith ymchwil ar ddisgwyliadau cynulleidfaoedd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi cael ei gomisiynu, gyda phwyslais ar niwed a thramgwyddo.

Diogelu’r rhai sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu a radio

Ddechrau 2019, roedd Bwrdd Cynnwys Ofcom wedi dechrau ystyried a ddylai darlledwyr orfod diogelu lles pobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni. Yn dilyn hynny, ac yn dilyn adroddiadau newyddion am The Jeremy Kyle Show, roeddem wedi ymgynghori ym mis Gorffennaf 2019 ar reolau newydd arfaethedig i helpu i ddiogelu lles pobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni, gan gynnwys rhaglenni realaeth ar y teledu. Roedd ein rheolau arfaethedig yn seiliedig ar y cysyniad o ‘ofal priodol’.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Medi 2019. Er bod cefnogaeth fawr i’n nodau polisi, mynegwyd pryderon ynghylch ai’r rheolau arfaethedig hynny oedd y ffordd orau o gyflawni’r nodau. Ar ôl ystyried y pwyntiau a gyflwynwyd, ym mis Mawrth 2020 cyhoeddwyd ymgynghoriad arall yn gofyn am farn ar gynigion diwygiedig. Ein nod yw cyhoeddi Datganiad, rheolau newydd a chanllawiau manwl yn ystod Hydref 2020.

Gwneud gwasanaethau rhaglenni ar-alw a theledu yn fwy hygyrch (ODPS)

Er mwyn i bobl sydd â nam ar eu golwg neu eu clyw allu mwynhau gwylio’r teledu, maen nhw’n dibynnu ar wasanaethau mynediad o ansawdd uchel (isdeitlau, arwyddo neu ddisgrifiadau sain).

Er bod llawer o ddarlledwyr yn gorfod sicrhau bod eu rhaglenni’n hygyrch, nid yw’r un peth yn wir am wasanaethau a darparwyr ar-alw.

Eleni rydym wedi bod yn gweithio gyda darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS), grwpiau defnyddwyr a’r Llywodraeth i weld sut dylai rheoliadau sydd ar y gweill wneud y gwasanaethau hyn yn fwy hygyrch. Ym mis Rhagfyr 2019, ysgrifennodd y Llywodraeth atom yn gofyn i ni gynnal ail ymgynghoriad ar rai agweddau ymarferol ar y gofynion, ac ar ôl hynny byddwn yn gwneud argymhellion pellach i’r Llywodraeth.

Maes o law, rydym hefyd yn bwriadu ymgynghori ar ddiwygiadau i’n canllawiau arfer gorau ar hygyrchedd teledu, gan eu hymestyn i gynnwys canllawiau ar gyfer darparwyr ar-alw.

BBC

Yn 2019, roeddem wedi cyhoeddi adolygiad manwl o gynnwys newyddion a materion cyfoes y BBC. Roeddem wedi holi pobl am eu harferion newyddion, beth sy'n bwysig iddyn nhw am y cynnwys newyddion a materion cyfoes maen nhw’n ei wylio, yn ei ddarllen ac yn gwrando arno, a'r rôl mae newyddion a materion cyfoes y BBC yn ei chwarae yn eu bywydau.

Er gwaethaf sefyllfa wleidyddol ansicr roeddem wedi casglu bod y BBC, at ei gilydd, wedi cynnal ei enw da am ohebu’n gywir ac yn ddibynadwy, ac mai at y BBC y mae pobl yn troi o hyd i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau mawr a chyfredol. Dywedodd cynulleidfaoedd wrthym eu bod yn gwerthfawrogi safon newyddiaduraeth y BBC.

Ond, i rai roedd hanes unigryw’r BBC yn gryfder, ac i eraill roedd y dreftadaeth hon yn gwneud iddyn nhw gwestiynu didueddrwydd y BBC wrth ohebu. Gwelsom hefyd y gallai’r BBC wneud yn well wrth gynrychioli’r DU i gyd. O ran y ddarpariaeth ar-lein, daethom i’r casgliad bod angen i BBC News wneud mwy i sefyll allan, neu bydd mewn perygl o golli ei enw da a’i statws fel llais dibynadwy.

Rydym wedi parhau i gydweithio â’r BBC ar y camau mae’n eu cymryd i ymateb i bob un o’n hargymhellion. Er mwyn sicrhau tryloywder, rydym yn disgwyl i’r BBC adrodd yn ôl ar y cynnydd mae’n ei wneud ar yr argymhellion hyn yn ei adroddiad blynyddol nesaf.

Newidiadau sylweddol i weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus y BBC

Yn 2018/19, roeddem wedi rhoi cyfarwyddyd i’r BBC gynnal Prawf Lles y Cyhoedd (PIT) ar ei newidiadau arfaethedig i BBC iPlayer, a oedd yn cynnwys darparu pob rhaglen newydd ar BBC iPlayer am 12 mis fel mater o drefn.

Ym mis Ebrill 2019 dywedodd y BBC fod y cynigion yn bodloni Prawf Lles y Cyhoedd, gan y byddai’r gwerth cyhoeddus y byddai’r newidiadau yn ei sicrhau i gynulleidfaoedd yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Roeddem wedi cynnal asesiad cystadleuaeth ac wedi gofyn am dystiolaeth gan randdeiliaid ynghylch sut byddai cynigion y BBC yn effeithio ar eu cynlluniau buddsoddi neu eu busnesau presennol. Penderfynwyd y dylai’r BBC allu bwrw ymlaen â’i gynigion, yn unol ag amodau a chanllawiau, oherwydd ei bod yn hollbwysig yn ein barn ni bod y BBC yn gallu datblygu’r iPlayer er mwyn bodloni disgwyliadau cynulleidfaoedd wrth iddyn nhw newid.

Adolygiad BBC Studios 

Cafwyd oedi cyn dechrau ar ein hadolygiad o BBC Studios gan fod ei sefyllfa yn y farchnad a’i sefyllfa fasnachol yn newid, er mwyn i ni allu ystyried y newidiadau i BBC Studios yn dilyn cytundebau BritBox ac UKTV, yn ogystal ag adolygiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o BBC Studios. Rydym bellach yn bwriadu cyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad hwn yn Ch4 2020/21.

Adroddiad blynyddol Ofcom ar y BBC

Ym mis Hydref 2019,  roeddem wedi cyhoeddi ein hail adroddiad blynyddol ar y BBC a oedd yn ymdrin â'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019.

Roedd yr adroddiad hwn yn egluro sut rydym wedi cyflawni ein swyddogaethau fel rheoleiddiwr annibynnol y BBC, ac yn asesu cydymffurfiad y BBC â’i ofynion rheoleiddio.

Roeddem hefyd wedi cyhoeddi adroddiad manwl a oedd yn mesur perfformiad y BBC o ran ei genhadaeth a’i ddibenion cyhoeddus ar draws ei holl wasanaethau a chynnwys, ac yn rhoi barn gyffredinol ynghylch i ba raddau mae’n cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd.

At ei gilydd, gwelsom fod y BBC yn dal yn rhan ganolog o’r cyfryngau a'r gwasanaethau newyddion y mae cynulleidfaoedd yn eu defnyddio, drwy amrywiaeth ac ansawdd ei arlwy ar draws ei wasanaethau niferus. Mae’n darparu llawer iawn o gynnwys newyddion a materion cyfoes, amrywiaeth eang o gynnwys dysgu ac addysgol, yn ogystal â chynnwys creadigol ac unigryw o ansawdd uchel i bawb ar draws ei wasanaethau prif ffrwd ac arbenigol.

Fodd bynnag, gwelsom hefyd fod y pryderon yr oeddem wedi’u codi ar ran cynulleidfaoedd y llynedd yn dal yn bodoli. Er bod y BBC wedi cymryd rhai camau i fynd i’r afael â materion roeddem wedi’u codi o’r blaen, fe ddywedom ein bod yn disgwyl i’r BBC fynd ati’n awr i amlinellu cynllun eglur i fynd i’r afael â themâu sy’n codi’n gyson.

Rydym yn disgwyl i’r BBC ganolbwyntio ar y canlynol yn benodol:

Cymryd camau pwysig i ennyn diddordeb pobl ifanc

Fel pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae’r newidiadau cyflym yn y sector cyfryngau yn effeithio ar y BBC, yn enwedig wrth iddo gael trafferth denu a dal gafael ar gynulleidfaoedd iau. Os na all fynd i’r afael â hynny, bydd mewn perygl o fethu cyflawni ei genhadaeth a'i ddibenion cyhoeddus i’r un lefel yn y dyfodol.

Parhau i wella sut mae’n cynrychioli ac yn portreadu cymdeithas y DU i gyd

Roeddem wedi cydnabod bod y BBC yn arwain y ffordd o ran casglu data am amrywiaeth y gweithlu, a bod ganddo nifer o gynlluniau ar waith i wella amrywiaeth.

Fodd bynnag, dangosodd ein gwaith ymchwil fod rhai grwpiau yn dal yn anfodlon â’r ffordd maen nhw’n cael eu cynrychioli a’u portreadu gan y BBC.

Fe ddywedom fod angen i'r BBC egluro’n fanylach beth yw ei gynllun i sicrhau bod cymdeithas y DU i gyd yn cael ei chynrychioli a’i phortreadu’n well, gan gynnwys sut mae'n ymateb i ganfyddiadau penodol i’n hadolygiad a gynhaliwyd y llynedd.

Sicrhau bod ei arferion gwaith yn dryloyw

Gwelsom enghreifftiau da o’r BBC yn ymgysylltu ag Ofcom mewn ffordd fwy tryloyw ynghylch rhai o’i newidiadau arfaethedig i’w wasanaeth, er enghraifft BritBox, ac roeddem yn croesawu’r gwelliannau mae wedi’u gwneud i’w drefniadau llywodraethu.

Fodd bynnag, roeddem yn dal i weld enghreifftiau lle nad yw’r BBC yn rhoi digon o ystyriaeth i’r angen i ymgysylltu’n allanol er mwyn asesu’n llawn oblygiadau ei gynigion i’r sector darlledu. Bydd ymgysylltu'n frwd â'r diwydiant ynghylch newidiadau arfaethedig i wasanaethau'r BBC yn galluogi'r BBC i gyflawni ei ddyletswydd i geisio osgoi effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth nad ydynt yn angenrheidiol, er mwyn cyflawni'r Genhadaeth a'r Dibenion Cyhoeddus yn effeithiol.

Gwelsom hefyd fod diffyg tryloywder o ran y ffordd mae'r BBC yn rhyddhau ac yn esbonio ei benderfyniadau am gydymffurfio â'r Cod Darlledu.

Rydym yn gweithio ar ofynion newydd i’r BBC er mwyn helpu i feithrin ymddiriedaeth yn ei benderfyniadau yn yr elfen hon.

Trwyddedau darlledu

Mae’r cyfle i gannoedd o orsafoedd radio lleol bach ddechrau darlledu’n ddigidol wedi dod yn nes o lawer eleni. Pasiwyd deddf gan Senedd y DU a fydd yn rhoi’r pŵer i Ofcom gyhoeddi trwyddedau ar gyfer DAB ar raddfa fach, ac roeddem wedi ymgynghori ynghylch sut rydym yn bwriadu defnyddio’r pwerau newydd hyn. Byddwn yn cyhoeddi maes o law pryd rydym yn disgwyl dechrau gwahodd ceisiadau.

Rydym wedi parhau i drwyddedu gwasanaethau teledu a radio dros y flwyddyn diwethaf i ehangu’r ystod o wasanaethau sydd ar gael i wylwyr a gwrandawyr – daeth ceisiadau i law ar gyfer bron i 200 o wasanaethau teledu, radio digidol a radio tymor byr. Rydym hefyd wedi trwyddedu 12 o wasanaethau radio cymunedol newydd, ac mae 17 o wasanaethau radio cymunedol newydd wedi cael eu lansio – bydd pob un ohonyn nhw’n darparu gorsaf radio â phwyslais lleol ar gyfer eu cymuned.

Yn dilyn ein gwahoddiad i drwyddedeion radio cymunedol presennol wella ac ymestyn ardal eu darpariaeth, rydym wedi cymeradwyo dros 100 o geisiadau am welliannau ac estyniadau i ardaloedd darpariaeth. Bydd y penderfyniadau hyn yn galluogi’r gwasanaethau presennol i naill ai wella ansawdd y signal yn ardal eu darpariaeth, neu i gyrraedd mwy o wrandawyr. Mae’r ddwy elfen yn arwain at fanteision amlwg i wrandawyr.

Rydym hefyd wedi asesu ac ymchwilio i ychydig dros 500 o achosion a oedd yn ymwneud â darlledwyr radio a theledu yn peidio â chyflawni rhwymedigaethau eu trwydded, a arweiniodd at gyhoeddi 249 o ganfyddiadau o dorri amodau. Mae’r gwaith hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod ein trwyddedeion yn parhau i fodloni gofynion penodol sydd wedi’u nodi yn amodau eu trwydded – yn benodol, bod darlledwyr radio yn cynnal cymeriad eu gwasanaeth trwyddedig, tra bo darlledwyr teledu yn darparu is-deitlau, arwyddo a disgrifiadau sain i sicrhau bod eu gwasanaethau’n hygyrch. Mae’r gwaith hwn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gwylwyr a gwrandawyr yn dal yn gallu cael gafael ar ystod eang o wasanaethau teledu a radio o ansawdd uchel.

Safonau Darlledu

Rydym wedi parhau i warchod cynulleidfaoedd drwy orfodi’r Cod Darlledu. Eleni rydym wedi cofnodi 82 achos o dorri’r Cod, ac wedi  rhoi saith sancsiwn i ddarlledwyr 

Roedd y rhain yn cynnwys dirwy o £75,000 i Talk Radio, gorsaf radio llafar genedlaethol, am beidio â dangos didueddrwydd dyladwy. Hefyd, rhoddwyd dirwy o £200,000 i sianel deledu RT am saith achos o dorri rheolau didueddrwydd dyladwy.

Rhoddwyd dirwy o £25,000 i sianel deledu Ben TV am beidio â gwarchod gwylwyr yn ddigonol rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol, oherwydd bod y sianel wedi gwahodd y gwylwyr i archebu ‘dŵr ffynnon gwyrthiol am ddim’ gan honni, neu awgrymu’n gryf, y gallai wella salwch difrifol.

Rhoddodd Ofcom ddirwyon o £200,000 a £100,000 i gyn-ddeiliaid trwydded Peace TV Urdu a Peace TV am dorri ein rheolau ynghylch troseddu, anhrefn, casineb a cham-drin. Canfu ein hymchwiliadau fod rhaglenni a ddarlledwyd ar y sianeli teledu lloeren rhyngwladol – sy'n darlledu rhaglenni crefyddol o safbwynt Islamaidd – yn cynnwys iaith casineb a chynnwys tramgwyddus iawn a oedd, mewn un achos, yn debygol o gymell troseddu.

Ar ôl achosion pellach o dorri amodau, aeth Ofcom ati i atal trwydded Peace TV Urdu ym mis Tachwedd 2019, a chafodd y ddwy drwydded eu hildio.

Rydym wedi gweld cynnydd yn y mathau hyn o achosion, sy’n gymhleth iawn ac yn aml yn cymryd mwy o amser i’w cwblhau, fel rydym yn sôn yn yr adran ar ein perfformiad o safbwynt Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Yn ystod yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019, roedd Ofcom wedi cyflymu ac asesu 2,124 o gwynion am raglenni etholiadol. Bu ein Pwyllgor Etholiadau, sy’n cynnwys aelodau o Fwrdd Ofcom a’r Bwrdd Cynnwys, yn asesu cwyn (PDF, 297.4 KB) gan y Blaid Geidwadol am y Ddadl ar Newid yn yr Hinsawdd gan Channel 4 News, a’i benderfyniad i ddefnyddio cerflun iâ yn lle’r Prif Weinidog, a ddewisodd beidio â chymryd rhan. Roedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd y rhaglen wedi codi materion a oedd yn cyfiawnhau ymchwiliad.

Mewn achosion lle mae diddordeb sylweddol ymysg y cyhoedd, ac er mwyn rhoi gwybodaeth i ddarlledwyr, rydym weithiau’n cyhoeddi ein penderfyniadau asesu. Roedd un o’r rhain yn ymwneud â thrafodaeth ar BBC Breakfast rhwng y cyflwynwyr, Naga Munchetty a Dan Walker, am sylwadau gan Donald Trump, Arlywydd UDA, am bedair cyngreswraig yn UDA. Er ein bod o’r farn nad oedd y drafodaeth wedi codi materion a oedd yn cyfiawnhau ymchwiliad o dan ein rheolau didueddrwydd dyladwy,gwnaethon ni bwysleisio ein pryder (PDF, 1.3 MB) am y diffyg tryloywder cyffredinol ym mhroses gwyno’r BBC a’r penderfyniadau mae’n eu gwneud. Rydym yn croesawu’r camau cadarnhaol mae’r BBC yn eu cymryd yn awr o ran tryloywder y penderfyniadau mae’n eu cyhoeddi ynghylch cwynion.

Rydym hefyd yn ystyried cwynion gan bobl sy’n credu iddynt gael eu trin yn annheg ar raglen, neu sydd o’r farn y tarfwyd ar eu preifatrwydd heb gyfiawnhad. Yn yr achosion hyn, mae Ofcom yn gweithredu fel dyfarnwr rhwng yr unigolyn a’r darlledwr.