Hawlfraint ac ailddefnyddio gwybodaeth

21 Mai 2019

Dysgwch sut gallwch chi ddefnyddio gwybodaeth sy’n cael ei darparu gan Ofcom, gan gynnwys cysylltu â’r wefan hon, defnyddio gwybodaeth oddi ar y wefan, a sut i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio mathau eraill o wybodaeth.

Dolenni at wefan Ofcom

Rydym yn croesawu dolenni i wefan Ofcom, a does dim rhaid gofyn am ein caniatâd yn gyntaf.

Hawlfraint

Mae’r holl ddeunyddiau ar wefan Ofcom neu sy’n cael eu darparu gan Ofcom mewn copi caled yn berchen i Ofcom , neu dan drwydded i Ofcom, ac yn cael eu diogelu gan hawlfraint, nodau masnach, nodau gwasanaethau, patentau neu hawliau a chyfreithiau perchnogol eraill. Mae logo Ofcom yn nod masnach cofrestredig. Os ydych chi am atgynhyrchu logo Ofcom, gofynnwch am ein caniatâd i ddechrau: digitalandcreative@ofcom.org.uk

Oni nodir mai'r Goron sy’n berchen ar ddeunydd neu fel arall, mae modd i’r deunydd ar y wefan hon neu a ddarperir mewn copi caled gael ei atgynhyrchu yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, gyhyd â'i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na fydd yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Rhaid cydnabod mai Ofcom sy'n berchen ar hawlfraint y deunydd a rhaid nodi teitl y ddogfen/cyhoeddiad.

I ddefnyddio deunyddiau sy’n eiddo i’r Goron, ewch i wefan yr Archifau Gwladol.

Dylai unrhyw ymholiadau am y deunydd ar y wefan hon gael eu cyfeirio dros drwy anfon llythyr at Ofcom, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA.

Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Trydydd Sector 2015

Mae Rheoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Trydydd Sector 2015 yn rhoi’r hawl i ailddefnyddio gwybodaeth sy’n cael ei darparu gan gyrff yn y sector cyhoeddus. Eu bwriad yw rhoi cyfle i'r cyhoedd ddefnyddio'r wybodaeth honno, lle y bo’n briodol.

Mae Ofcom yn ymrwymedig i ddarparu gwybodaeth ar gyfer ei hailddefnyddio. Lle bo modd, byddwn yn mynd ati i gyhoeddi gwybodaeth ar ein gwefan, i alluogi aelodau'r cyhoedd i ddeall ein gwaith ac i ddefnyddio gwybodaeth rydym yn ei chynhyrchu.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar-lein.

Cwynion

Os ydych chi’n anhapus â’r ymateb i'ch cais i ailddefnyddio, mae gennych hawl i ofyn i’ch achos gael ei adolygu gan Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn Ofcom. Anfonwch y gŵyn at: The Secretary to the Corporation, Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA. Byddwn yn ymateb fel arfer cyn pen 20 diwrnod gwaith.

Os na fyddwch yn fodlon â chanlyniad yr adolygiad, mae gennych hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad.