Ein hadroddiadau blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg

30 Medi 2023

Dyma chweched  adroddiad blynyddol Ofcom (ar gyfer 2022-23) i Gomisiynydd y Gymraeg ar ein gwaith o gydymffurfio â deddfwriaeth Safonau'r Iaith Gymraeg.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn nodi ein gweithgarwch a’n cynnydd mewn perthynas â chydymffurfiaeth â deddfwriaeth y Gymraeg, ar gyfer y flwyddyn 2022-2023.[1]

Mae ein hymrwymiad at hyrwyddo’r Gymraeg a galluogi cwsmeriaid a dinasyddion i ryngweithio â ni yn eu dewis iaith – boed hynny yn Gymraeg neu Saesneg - yn parhau’n gadarn. Rydym wedi cyflawni hyn mewn modd sy’n gymesur ac yn gyson â’n dyletswyddau presennol.

Gosodwyd Safonau’r Gymraeg ar Ofcom drwy gyfrwng ei hysbysiad cydymffurfio ym mis Ionawr 2017. Roedd hwn yn cynnwys 141 o Safonau, gan ddarparu’r fframwaith i’n galluogi i gynyddu ein gwaith yn y Gymraeg, gan ystyried effaith ein gwaith llunio polisi ar anghenion siaradwyr Cymraeg ynghyd â ffordd rydym yn cynnal ein gwaith ymchwil i’r farchnad.

Rydym yn croesawu penodiad Efa Gruffudd Jones yn Gomisiynydd y Gymraeg o fis Ionawr 2023 ac roedd yn braf gennym gynnal cyfarfod cyflwyno cychwynnol â hi pan ddechreuodd yn ei swydd. Ar wahân i hynny, cawsom gyfarfod ag Efa ynghyd ag uwch gydweithwyr o’n tîm Cyfathrebu. Rydym o’r farn bod ein rhyngweithgarwch gyda’r Comisiynydd yn bwysig at ddibenion ein datblygiad ein hunain parthed y Gymraeg ac er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg yn gyffredinol, ac edrychwn ymlaen at barhau i ryngweithio i’r perwyl hwn yn y flwyddyn sydd i ddod.


[1] O fis Medi 2022-Medi 2023.

Adroddiad llawn

Adroddiad blynyddol Ofcom i Gomisiynydd y Gymraeg 2022-23 (PDF, 311.3 KB)

Podlediad Cymraeg Bywyd Ar-lein Ofcom