Yr Uwch Dîm Rheoli


Yr Uwch Dîm Rheoli yw rheolwyr pennaf Ofcom. Maen nhw'n benaethiaid grwpiau o fewn Ofcom ac yn rhan hanfodol o'n Bwrdd Polisi a Rheoli.

Cristina Nicolotti Squires

Cristina Nicolotti Squires

Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau

Cristina Nicolotti Squires yw Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a'r Cyfryngau, sy'n arwain gwaith Ofcom i gefnogi sector darlledu iach a bywiog sy'n gwasanaethu holl wasanaethau teledu, radio a fideo ar-alw yn y DU mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus ac sy'n symud yn gyflym.

Ymunodd Cristina ag Ofcom ar ôl 35 mlynedd fel newyddiadurwr gyda chefndir dwfn yn y sector masnachol. Daeth at Ofcom o Sky lle bu'n Gyfarwyddwr Cynnwys Sky News ac yn gyfrifol am yr allbwn ar draws teledu, ar-lein, radio/podlediadau a rhaglenni dogfen. Cyn hynny bu'n gweithio yn ITN am 22 mlynedd mewn nifer o rolau gan gynnwys cyfrifoldebau fel cynhyrchydd maes ar leoliadau ledled y byd, golygydd rhaglen flaenllaw News At Ten ITV a Golygydd 5 News ar Channel 5. Ei moment fwyaf balch yn ei gyrfa oedd ennill Gwobr RTS am Raglen Newyddion y Flwyddyn yn 2010, nid yn unig am y wobr - ond am ddyfyniad y beirniaid a'i ddatganodd fel "the programme that got Britain". Y cysylltiad dwfn hwnnw â chynulleidfaoedd yw'r hyn sydd wedi ei harwain at Ofcom lle mae'n angerddol dros sicrhau ein bod yn diogelu pob cynulleidfa ledled y DU gyfan.

David Willis

David Willis

Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm

David Willis yw'r Cyfarwyddwr Grŵp dros Sbectrwm, yn gyfrifol am arwain gwaith Ofcom o reoli'r tonnau awyr.

Mae gan David 30 mlynedd o brofiad ym maes technoleg a thelathrebiadau mewn llywodraeth a diwydiant. Cyn ymuno ag Ofcom, bu'n Llywydd y Ganolfan Ymchwil Cyfathrebu, canolfan ymchwil Llywodraeth Canada ar gyfer telathrebiadau di-wifr datblygedig, rheoli sbectrwm a helpu i wella gwasanaethau band eang i bobl Canada.

Cyn hynny, arweiniodd David y tîm Peirianneg a Chynllunio Sbectrwm mewn Innovation Science and Economic Development Canada. Yma, roedd ei waith yn cynnwys safonau sbectrwm rhyngwladol; peirianneg a chynllunio sbectrwm di-wifr; polisi, trwyddedu a chydgysylltu sbectrwm lloerenni; ac arwain y ddirprwyaeth o Ganada yng Nghynhadledd Radiogyfathrebu'r Byd 2019.

Mae David hefyd wedi bod mewn rolau arweinyddiaeth ym meysydd rheoli cynnyrch, gweithrediadau a pheirianneg gyda BlackBerry a Nortel Networks.

Gill Whitehead

Gill Whitehead

Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein

Penodwyd Gill yn Gyfarwyddwr Grŵp Ofcom ar gyfer Diogelwch Ar-lein ddiwedd 2022, gan ymgymryd yn ffurfiol â’i rôl ym mis Ebrill 23 pan ffurfiwyd y Grŵp Diogelwch Ar-lein newydd. Mae hi’n goruchwylio dyletswyddau newydd Ofcom fel rheoleiddiwr y DU ar gyfer diogelwch ar-lein.

Cyn hyn, Gill oedd Prif Weithredwr cyntaf y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol yn y DU (DRCF) lle sefydlodd y Fforwm fel dull gweithredu blaenllaw’r byd o ran gweithredu rheoleiddio digidol.

Treuliodd Gill bedair blynedd fel Uwch Gyfarwyddwr Datrysiadau Cleientiaid a Dadansoddeg Google UK, gan arwain timau mewn dadansoddi data, mesur, profiad defnyddwyr, segmentu defnyddwyr, ar ôl arwain eu Gwybodaeth am y Farchnad yn flaenorol ar draws EMEA. Cyn hynny, bu Gill yn gweithio yn Channel Four a BBC Worldwide mewn amrywiaeth o rolau a oedd yn ymwneud ag arwain strategaethau a thechnoleg, a dechreuodd ar ei gyrfa gyda Banc Lloegr a Deloitte Consulting.

Mae gan Gill radd Meistr o Sefydliad Rhyngrwyd Prifysgol Rhydychen a threuliodd 2 flynedd yn cynnal ymchwil academaidd yn ei meysydd diddordeb sef marchnadoedd data a mynediad at ddata.

Mae Gill yn Gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig. Mae hi’n Gyfarwyddwr Anweithredol ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio Informa plc, Cymdeithas Olympaidd Prydain, ac yn Gadeirydd Bwrdd Cwpan Rygbi’r Byd 2025.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Gill

Jessica Hill

Jessica Hill

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Ymunodd Jessica Hill ag Ofcom yn 2022 ac mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant ers mis Chwefror 2024. Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o ddarparu AD strategol mewn gwasanaethau proffesiynol byd-eang. Mae hi'n Gymrawd o'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Mae Jessica yn ymddiriedolwr elusen fach sy'n cefnogi pobl sy'n cael trafferth gydag amrywiaeth o heriau personol ac economaidd mewn un o rannau tlotaf y DU.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Jessica

Kate Davies

Kate Davies

Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus

Ymunodd Kate Davies ag Ofcom yn 2016, ac mae hi’n Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus ers 2021. Mae hi’n cefnogi gwaith Ofcom ar draws y sectorau cyfathrebu, y cyfryngau ac ar-lein, yn ogystal ag ymgysylltu â llunwyr polisïau ledled y DU. Mae Kate hefyd yn goruchwylio gwaith Ofcom yn y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol. Cyn hynny, bu Kate yn Gyfarwyddwr Strategaeth yn Ofcom am dair blynedd.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Kate yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi yn Nhrysorlys Ei Fawrhydi, yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn y trydydd sector. Kate oedd Pennaeth y Strategaeth Wariant yn Nhrysorlys Ei Fawrhydi, a hi oedd yn gyfrifol am gyflwyno Adolygiad o Wariant 2015.

Mae gan Kate radd MSc mewn Datblygu a Phoblogaeth o’r LSE, a gradd MA Cydanrhydedd mewn Hanes a Saesneg o Brifysgol Caeredin.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Kate

Lindsey Fussell

Lindsey Fussell

Cyfarwyddwr y Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau

Lindsey Fussell yw ein Cyfarwyddwr y Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebiadau, ac fe ymunodd hi â’r Bwrdd fel Aelod Gweithredol ym mis Rhagfyr 2020. Mae Lindsey yn arwain ar waith Ofcom yn y sectorau telathrebu, post a rhwydweithiau, lle mae gennym y nod o warchod buddiannau defnyddwyr a hyrwyddo cystadleuaeth.

Cyn ymuno ag Ofcom ym mis Ebrill 2016, roedd Lindsey mewn amrywiaeth o rolau arweinyddiaeth uwch yn y Gwasanaeth Sifil. Roedd hi’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyhoeddus yn Nhrysorlys EM, lle yr arweiniodd ar ddatganoli, addysg a diwylliant, amddiffyn a chyfiawnder troseddol, a bu hi’n gyfrifol am gyflwyno agweddau allweddol ar Adolygiadau Gwariant 2013 a 2015. Mae Lindsey hefyd yn aelod lleyg Cyngor Llywodraeth Prifysgol Caerefrog.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Lindsey

Luisa Affuso

Luisa Affuso

Prif Economegydd a Chyfarwyddwr y Grŵp Economeg

Luisa Affuso yw ein Prif Economegydd, a Chyfarwyddwr y Grŵp Economeg, sy'n arwain ein heconomegwyr sy'n helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau'n cael eu hategu gan ddadansoddiad economaidd arbenigol.

Mae gan Luisa dros ugain mlynedd o brofiad o gymhwyso cystadleuaeth, rheoleiddio ac economeg ddiwydiannol. Mae'n arbenigo mewn defnyddio dadansoddiad economaidd ac econometrig i gwestiynau cystadleuaeth a rheoleiddio cymhleth.

Ymunodd Luisa ag Ofcom ym mis Hydref 2018 o PwC, lle bu'n arwain yr adran gynghori Economeg Cystadleuaeth.

Cyn dod yn ymgynghorydd economaidd, roedd Luisa yn Gyfarwyddwr Astudiaethau a Chymrawd Economeg yng Ngholeg Robinson, Caergrawnt; a Chymrawd Ymchwil yng Nghaergrawnt ac yna Ysgol Fusnes Llundain. Ar hyn o bryd mae'n Uwch Aelod o Goleg Robinson.

Addysgwyd Luisa ym Mhrifysgol Warwick, lle cafodd MSc a PhD mewn Economeg. Mae ganddi BSc a Doethuriaeth mewn Economeg o Brifysgol Naples (Federico II), yr Eidal.

Lawrlwytho llun manylder uchel o  Luisa

Martin Ballantyne

Martin Ballantyne

Cwnsler Cyffredinol

Martin Ballantyne yw Cwnsler Cyffredinol Ofcom. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyfreithiol yng ngrŵp cyfreithiol Ofcom ers 2011, ac yn darparu cyngor ar draws holl feysydd polisi Ofcom, yn ogystal â goruchwylio cyfreithiad pan mae ein penderfyniadau’n cael eu herio yn y llysoedd.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Martin yn gweithio fel cyfreithiwr cystadleuaeth i gwmni Macfarlanes yn y Ddinas. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Exeter a Tübingen, yn yr Almaen.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Martin

Melanie Dawes

Melanie Dawes

Prif Weithredwr

Ymunodd y Fonesig Melanie Dawes ag Ofcom fel ei Aelod Bwrdd Gweithredol a Phrif Weithredwr ar 2 Mawrth 2020.

Cyn dod i Ofcom, bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig yn Swyddfa'r Cabinet (2011 a 2015). Mae hi wedi dal nifer o swyddi uwch ar draws y Gwasanaeth Sifil, yn cydweithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Hi  oedd cynrychiolydd cyffredinol Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer y Gwasanaeth Sifil yn 2019.Cyn hynny bu'n gwasanaethu ar Fwrdd Cyllid a Thollau ei Mawrhydi fel Pennaeth y Dreth Fusnes.

Yn ogystal â'i rôl bresennol fel Ysgrifennydd Parhaol, mae'r Fonesig Melanie yn cadeirio Bwrdd Pobl y Gwasanaeth Sifil, gan arwain strategaethau gweithlu ar draws holl adrannau'r Llywodraeth. Hi hefyd yw Hyrwyddwr y Gwasanaeth Sifil dros amrywiaeth a chynhwysiant.

Cychwynnodd ei gyrfa fel economegydd a threuliodd 15 mlynedd yn y Trysorlys, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Ewrop.

Mae hi wedi cyflawni rolau anweithredol gan gynnwys gyda'r corff defnyddwyr Which? Mae hefyd yn Ymddiriedolwr Sefydliad Patchwork, sy'n hyrwyddo cyfranogiad pobl ifanc heb gynrychiolaeth ddigonol mewn democratiaeth.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Melanie

A photo of Melissa Tatton, Interim Group Director

Melissa Tatton

Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Grŵp Corfforaethol

Melissa Tatton yw Prif Swyddog Gweithredol Ofcom a Chyfarwyddwr Grŵp Corfforaethol, gan oruchwylio ein swyddogaethau corfforaethol mewnol, fel ein timau Cyllid a Phobl, y Ganolfan Cyswllt Defnyddwyr a thimau cysylltiadau allanol.

Cyn ymuno ag Ofcom ym mis Medi 2020, roedd Melissa yn gweithio mewn amryw o swyddi arwain uwch mewn cyrff cyhoeddus, ac yn fwyaf diweddar fel Prif Swyddog Gweithredol Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Chomisiynydd Sicrwydd Treth ar gyfer HMRC. Gwnaed Melissa yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym Mehefin 2016.

Mae Melissa yn Is-Gadeirydd ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Melissa

Simon Redfern

Simon Redfern

Cyfarwyddwr Cyfathrebu

Simon yw Cyfarwyddwr Cyfathrebu Ofcom. Mae wedi gweithio i rai o sefydliadau mwyaf y byd yn y meysydd cyfryngau, defnyddwyr a thechnoleg, gan ddatblygu a darparu eu strategaethau cyfathrebu ac ymgysylltu gwleidyddol.

Cyn ymuno ag Ofcom, bu Simon yn arwain Materion Cyhoeddus Ewropeaidd i Google. Bu’n arwain y gwaith cyfathrebu hefyd ar gyfer Salesforce EMEA, ac yn adeiladu’r swyddogaeth materion corfforaethol ar gyfer Starbucks yn Ewrop.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Simon

Yih-Choung Teh

Yih-Choung Teh

Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth

Yih-Choung Teh yw ein Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth. Ar hyn o bryd mae hefyd yn Gyfarwyddwr Dros Dro y Grŵp Technoleg.

Yn y gorffennol bu Yih-Choung yn Gyfarwyddwr yng Ngrŵp Cystadleuaeth Ofcom, lle bu'n gweithio ar faterion gan gynnwys strategaeth Ofcom i annog buddsoddi mewn seilwaith telathrebu fel rhwydweithiau ffeibr llawn.

Cyn ymuno ag Ofcom, gweithiodd Yih-Choung i ymgynghoriaeth strategaeth yn y sector telathrebu, gan roi cyngor polisi a strategaeth i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn fyd-eang.

Mae Yih-Choung wedi gweithio mewn rol ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Rhydychen, ar ôl cwblhau DPhil mewn Mathemateg, gan ymchwilio i fodelau mathemategol o rwydweithiau cyfathrebu. Mae ganddo hefyd MA mewn Mathemateg a Diploma mewn Ystadegau Mathemategol, o Brifysgol Caergrawnt.

Lawrlwytho llun manylder uchel o Yih-Choung