Yn Ofcom mae gennym nifer o rwydweithiau yn eu lle i gefnogi cydweithwyr ac amrywiaeth.
Mae'r rhwydweithiau ar agor i holl gydweithwyr ac yn helpu i lywio ein Rhaglen Amrywiaeth a Chynhwysiant. Cewch ragor o wybodaeth am rwydweithiau a grwpiau.
Yn cefnogi cydweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a'u cydweithwyr, weithiau gyda rhwydweithiau staff LHDT o sefydliadau eraill.
Er bod y DU yn arwain y byd mewn hawliau LHDT, mae llawer o bobl LHDT yn y gweithle heddiw yn cofio'n glir pan oedd bod yn hoyw yn gallu arwain atoch chi'n colli eich swydd.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod staff LHDT yn gyfforddus yn y gwaith, os ydyn nhw eisiau bod "allan" yn y swyddfa neu beidio.
Mae'r Rhwydwaith Affinedd yn bodoli i gefnogi staff LHDT ac i sicrhau bod Ofcom yn le diogel i weithio ynddo ar gyfer cyflogwyr LHDT.
Ar gyfer cydweithwyr sydd angen sgwrs di-ragfarn.
Rydym oll yn gallu dioddef o iselder ac mae digwyddiadau sylweddol mewn bywyd yn digwydd i bawb. Weithiau, gall gael sgwrs gyda pherson cyfeillgar helpu'n fawr.
Os oes unrhyw gydweithiwr o Ofcom eisiau sgwrs, gallant gysylltu gydag un o'n gwrandawyr am baned o de, neu i fynd am dro neu dros sgwrs ffôn.
Mae ein gwrandawyr yma i helpu cydweithwyr a allai fod yn cael amser anodd tu fewn a thu allan i gwaith neu sy'n dioddef o boen meddwl, iselder neu broblemau eraill.
Amcan y grŵp yw i godi ymwybyddiaeth am faterion mae cydweithwyr anabl yn eu hwynebu. Mae hefyd yn gweithio i wella profiadau cydweithwyr anabl sy'n gweithio yn Ofcom, ac yn hyrwyddo iechyd meddyliol holl gydweithwyr.
Mae cydraddoldeb yn y gweithle yn bwysig i Ofcom ac rydym wedi ymrwymo i leihau'r rwystrau i gyflogaeth y mae pobl gydag anableddau yn eu hwynebu.
Ein nodau trosfwaol yw i ddatblygu diddordebau ein cydweithwyr anabl ymhellach yn y gweithle ac i wneud Ofcom yn le sy'n gwbl hygyrch i weithio ynddo. I gefnogi hyn, mae gennym chwech prif amcan:
Mae'r Grŵp Anabledd a Lles sy'n cynnal Rhwydwaith Anabledd a Lles gweithgar ar Yammer.
Prif amcan Rhwydwaith Menywod Ofcom (OWN) yw i helpu Ofcom i ddenu, datblygu a chadw talent benywaidd.
Yn ymarferol mae hyn yn cynnwys:
Rydym hefyd yn ceisio darparu gofod diogel i drafod materion sy'n effeithio ar fenywod yn y gweithle a hwyluso rhwydweithio, yn fewnol ac yn allanol.
Rydym yn rhwydwaith cynhwysol: mae croeso i'n holl gydweithwyr -dynion a menywod, ar bob lefel yn y sefydliad -i gyfrannu.
Cefnogi rhieni a gofalwyr o fewn Ofcom
Mae ein rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr yn anelu at gefnogi cydweithwyr sydd â gofal plant neu mathau eraill o gyfrifoldebau gofalu.
Weithiau, rydym ni oll angen cefnogaeth gan rywun sy'n deall ein sefyllfa o brofiad. Mae'r rhwydwaith yn helpu i hwyluso hyn drwy ddarparu rhwydwaith cefnogi anffurfiol i rannu profiadau ac i gefnogi'n cydweithwyr yn well a darparu mynediad i adnoddau perthnasol.
Yn cynrychioli holl gydweithwyr Ofcom, ond yn arbennig y rhai hynny sy'n dod o gefndir ethnig lleiafrifol.
Ein cenhadaeth yw i hyrwyddo egwyddorion ac ymarferion amrywiaeth yn y gweithle ac i helpu Ofcom i greu gweithlu sy'n amrywiol o ran ethnigrwydd.
RACE yw ein menter cydweithwyr a greuwyd i drafod ac i ymateb i faterion a allai effeithio ar gydweithwyr o gefndir lleiafrifol ethnig. Gall bob un o'n cydweithwyr, beth bynnag eu hethnigrwydd neu eu rolau o fewn Ofcom, ymuno a chymryd rhan yn ein gweithgareddau.
Mae RACE yma i helpu Ofcom i fod yn le gwell i weithio ynddo i'n holl cydweithwyr drwy hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.
Dyma brif amcanion rhwydwaith RACE: