Amrywiaeth a chynhwysiad

Amrywiaeth a chynhwysiad

Amrywiaeth a chynhwysiad

Yn Ofcom rydyn ni’n benderfynol ein bod am wneud popeth allwn ni i hybu amrywiaeth a chydraddoldeb yn ein sefydliad ac yn y sectorau ehangach rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae’n hanfodol i’n helpu ni i gyflawni ein pwrpas sefydliadol o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb.
Mae angen i’n sefydliad gynrychioli demograffeg amrywiol y DU, felly mae’n hanfodol ein bod yn creu diwylliant cynhwysol lle mae cydraddoldeb yn sail i bopeth a wnawn.

Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad
Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad

Ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad

Mae amrywiaeth a chydraddoldeb yn hanfodol i’r ffordd rydyn ni’n gweithredu, fel cyflogwr ac fel rheoleiddiwr cyfathrebiadau’r DU. Mae ein strategaeth yn amlinellu gwahanol flaenoriaethau ein gwaith, gan gynnwys targedau sy’n ymwneud â’n gweithlu ac amlinelliad o’n gweledigaeth fel sefydliad.

Rydyn ni’n cyhoeddi adroddiad amrywiaeth blynyddol sydd ar gael ar ein prif wefan.

Dyma ein targedau ar gyfer 2026:

  • Ethnigrwydd mewn rolau uwch: 16% o’n harweinwyr ar lefel uwch yn dod o gefndir lleiafrifoedd ethnig.
  • Cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn rolau uwch: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau ar lefelau uwch.
  • Anabledd: 15% o’n cydweithwyr yn anabl.
  • Byrddau a phwyllgorau: Cydbwysedd cyfartal rhwng y rhywiau a lefel gymharol debyg i’r poblogaethau perthnasol o ran anabledd (15%) ac ethnigrwydd (10%).

Yn ogystal â’r targedau hyn, rydyn ni’n canolbwyntio ar ehangu ein hamrywiaeth economaidd-gymdeithasol ac o ran dosbarth, yn ogystal â chynyddu ein hamrywiaeth ranbarthol, gyda mwy o gydweithwyr wedi’u lleoli y tu allan i Lundain. Mae’r rhain yn feysydd arbennig o bwysig i helpu i sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio’n cael ei lywio gan bobl sydd ag ystod eang o brofiadau, cefndiroedd a safbwyntiau.

Ein gweledigaeth

Mae’r weledigaeth yn nodi’r egwyddorion y tu ôl i’r ffordd rydyn ni’n datblygu ein diwylliant, gan ddod â thegwch i’r ffyrdd rydym yn gweithredu, a sicrhau mwy o gynhwysiad. Mae cynhwysiad i ni yn fwy na dim ond y naw nodwedd sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith – rydyn ni’n golygu bod pawb, o bob cefndir a phrofiad bywyd, yn cael eu cynrychioli. Rydyn ni’n cydnabod bod gan bawb fan cychwyn gwahanol mewn bywyd, a byddwn yn creu cyfleoedd gyda hyn mewn golwg.

RYDYN NI’N CYMRYD CYFRIFOLDEB PERSONOL

Mae amrywiaeth a chynhwysiad yn nod a chenhadaeth bersonol i bob un ohonom. Mae pob un ohonom yn chwarae ein rhan, ni waeth pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud, a ble rydyn ni wedi’n lleoli.

RYDYN NI’N WIRIONEDDOL AMRYWIOL

Rydyn ni’n adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol yr ydym yn ei gwasanaethu, mewn sawl ffordd wahanol. Mae angen inni wneud hynny er mwyn gwerthfawrogi anghenion amrywiol pobl yn well a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

MAE EIN HARWEINWYR YN GOSOD ESIAMPL

Mae ein harweinwyr yn gosod esiampl i bobl eraill o ran sut mae arddel ein gwerthoedd. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth a chynhwysiad yn eu penderfyniadau bob dydd i wneud Ofcom yn lle gwych i weithio i’n cyd-weithwyr, ac i sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb..

RYDYN NI’N GYSYLLTIEDIG Â CHYMUNEDAU

Mae gan yr holl gyd-weithwyr gysylltiad agos â chymunedau a grwpiau sy’n cael eu tan-wasanaethu, er mwyn inni allu clywed lleisiau defnyddwyr a dysgu am y gymdeithas rydyn ni’n ei gwasanaethu. Rydyn ni’n defnyddio ein manteision ein hunain i roi hwb i eraill a chreu canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol. Rydyn ni’n annog cyd-weithwyr i gymryd rhan weithredol mewn meysydd sy’n bwysig iddynt..

RYDYN NI’N NATURIOL GYNHWYSOL

Mae ein diwylliant yn golygu bod pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt lais. Rydyn ni’n deall ac yn dathlu sawl math o amrywiaeth, gan gynnwys cyfuniadau o hunaniaethau hefyd. Gwyddom fod pob un ohonom yn cynnig amrywiaeth i Ofcom mewn ffyrdd gwahanol a’n bod ni i gyd yn fwy na dim ond ein nodweddion.

RYDYN NI’N DEG DRWY DDYLUNIAD

Rydyn ni’n mynd ati’n fwriadol i gynllunio a monitro’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau, y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud a’r systemau rydyn ni’n eu defnyddio fel eu bod yn deg ac yn gyfiawn i’n cydweithwyr ac i’r bobl rydyn ni’n eu gwasanaethu. Gwyddom fod angen weithiau inni gefnogi pobl yn wahanol, er mwyn eu trin yn gyfartal.

Amrywiaeth a chynhwysiad wrth gyflogi

Rydyn ni’n monitro ein polisïau a’n harferion yn helaeth drwy arolygon ymysg cydweithwyr, meincnodi allanol a chynnal archwiliad cyflog cyfartal bob dwy flynedd. Mae gwasanaethau meincnodi allanol yn ein galluogi i gymharu ein prosesau busnes ag arferion gorau yn y diwydiant, ac i ddeall sut hwyl rydyn ni’n ei chael arni o ran cyflawni ein gweithgareddau i hybu amrywiaeth mewn cyflogaeth.
I gefnogi ein hamcanion o ran recriwtio gweithlu mwy amrywiol, rydyn ni’n adolygu ein prosesau a’n methodolegau recriwtio yn rheolaidd i sicrhau bod y rhain yn gynhwysol, yn deg ac yn dryloyw.