Technology, Data & Innovation

Technology, Data & Innovation

Y Technoleg, Data ac Arloesi Grŵp

Mae’r grŵp Technoleg, Data ac Arloesi yn Ofcom yn gwneud yn siŵr bod pobl a busnesau yn y DU yn gallu defnyddio’r sianeli a’r llwyfannau cyfathrebu y maen nhw’n dibynnu arnynt bob dydd. Mae’n chwarae rhan ganolog yn y gwaith o drawsnewid ein gwaith rheoleiddio a pholisi – gan wneud yn siŵr ein bod yn cadw gam ar y blaen i’r datblygiadau diweddaraf yn y sector cyfathrebiadau. 

Mae ei waith yn ymwneud â sectorau hanfodol fel rhwydweithiau band eang a symudol, a gwasanaethau teledu a radio darlledu. Mae hefyd yn gyfrifol am ein helpu i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU a chanolbwyntio ar sut gallwn reoleiddio diogelwch ar-lein yn well – gan helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel ar-lein.  

Mae hefyd yn ein helpu i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut y bydd technolegau newydd a datblygol fel deallusrwydd artiffisial, realiti estynedig, dysgu peirianyddol a dysgu dwfn yn chwarae rhan ar draws y sectorau rydyn ni’n eu rheoleiddio. 

Y gwahanol dimau

Mae amrywiaeth o gyfleoedd cyffrous a heriol yn y grŵp Technoleg, Data ac Arloesi  

Y tîm Ymddiriedaeth a Diogelwch  

Mae’r tîm hwn yn allweddol i’r ffordd rydyn ni’n mynd ati i reoleiddio diogelwch ar-lein. Mae’r rolau o fewn y tîm hwn yn gofyn am bobl sy’n frwd dros ddeall y technolegau sy’n ysgogi ymddiriedaeth mewn gwasanaethau a llwyfannau ar-lein, ac sy’n awyddus i wneud y byd ar-lein yn fwy diogel.   

Y tîm Cyfathrebu a Thechnolegau’r Cyfryngau 

Y tîm hwn yw’r lle mae arbenigwyr yn gweithio i sicrhau bod Ofcom yn gallu rhagweld, neu hyd yn oed ddylanwadu ar y technolegau a fydd yn cefnogi rhwydweithiau cyfathrebu’r dyfodol, gan gynnwys rhwydweithiau symudol a band eang. 

Canolfan Arloesi Data 

Mae’r tîm hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio data yn y ffordd fwyaf effeithiol – gan ein helpu i ddylunio, rheoli a galluogi arferion rheoleiddio o’r radd flaenaf. 

Y Tîm Polisi Technoleg 

Mae’r tîm hwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn dod â’n harbenigedd ym maes technoleg a datblygu polisi at ei gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol – gan fynd i’r afael â’r prif faterion polisi y mae datblygiadau newydd a chyfredol yn y gofod technoleg yn effeithio arnynt.  

Mae’r grŵp Technoleg, Data ac Arloesi yn agored i amrywiaeth o ymgeiswyr o bob cefndir a set sgiliau. Y peth pwysicaf yw eich bod yn frwd dros dechnoleg, ac yn agored i ffyrdd newydd o weithio. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n awyddus i gael effaith ar y sector cyfathrebiadau yn y DU mewn sefydliad cefnogol sy’n cael ei yrru gan werth. Dyma rai o’r sgiliau neu’r profiadau a allai fod yn berthnasol: 

  • sgiliau academaidd/ymchwil; 
  • dylunio/datblygu/profi cynnyrch; 
  • delweddau cyfrifiadurol; 
  • hunaniaeth ddigidol; 
  • technolegau ymddiriedaeth a diogelwch; 
  • datblygu safonau; 
  • modelu, dadansoddi a gwerthuso technolegau cyfathrebu neu’r cyfryngau; 
  • profiad ymarferol o ddefnyddio technolegau mewn cynnyrch neu rwydweithiau cyfathrebu; a 
  • pensaernïaeth data, peirianneg a dadansoddi.