Gyrfaoedd cynnar yn Ofcom

Gyrfaoedd cynnar yn Ofcom

Gyrfaoedd cynnar yn Ofcom

Ein cenhadaeth yw hybu amrywiaeth, cynhwysiad cymdeithasol a gallu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol drwy ein piblinell gyrfaoedd cynnar. Mae ein rhaglenni i rai sy’n gadael ysgol, israddedigion a graddedigion i gyd wedi eu llunio i roi’r profiadau, y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i roi cychwyn da i’ch gyrfa.

Byddwch yn cael cyfle i gydweithio ar brosiectau mawr, rhwydweithio â’n timau angerddol, a chael effaith go iawn.  Rydyn ni’n cynnig profiadau dysgu diddorol a chyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad personol i’ch helpu chi i ddod yn arweinydd gwych yn y dyfodol.

Rhaglen i raddedigion

Mae ein rhaglen dwy flynedd i raddedigion wedi ei llunio i roi cyflwyniad i chi i’r holl wahanol adrannau ac arbenigeddau rydyn ni’n eu cwmpasu yn Ofcom. Rydyn ni’n datblygu eich gwybodaeth ac yn rhoi profiad uniongyrchol i chi ar bopeth o bolisi ac ymchwil, i gyfathrebu a seiberddiogelwch.


Wrth i chi gymryd rhan yn ein rhaglen i raddedigion, byddwch yn dod i ddeall yn well sut mae ein gwaith yn cyd-fynd â pholisïau a chanllawiau seneddol. Byddwch yn cael cyfle i gefnogi uwch gydweithwyr wrth iddynt ymgysylltu â swyddogion y Llywodraeth o sectorau fel yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).


Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil – dysgu technegau mesur cynulleidfaoedd a throsi data’n wybodaeth i helpu i oleuo adroddiadau mawr fel Adroddiad Blynyddol y BBC, neu adroddiadau Cyfryngau’r Genedl a Chyfryngau’r Genedl Ar-lein.

Gall graddedigion hefyd gymryd rhan yn ein gwaith yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed, yn ogystal â chyfleoedd i weithio yn swyddfeydd ein cenhedloedd i helpu i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar un rhan o’r Deyrnas Unedig


Ar gyfer ein llwybrau arbenigol, mae gan raddedigion gyfle i ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau technegol ac ymddygiadol yn eu dewis faes, gan adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd ganddynt eisoes.
Fel un o raddedigion Ofcom, byddwch yn elwa o’n Cynllun Dysgu Gyrfaoedd Cynnar. Mae hon yn rhaglen ymbarél sy’n dod â’n holl gydweithwyr gyrfaoedd cynnar (gan gynnwys prentisiaid) at ei gilydd i fynychu diwrnodau Datblygu ffurfiol a hyfforddiant ychwanegol. Mae’r hyfforddiant ychwanegol hwn yn cynnwys sgiliau sy’n gysylltiedig ag Ofcom fel Rheoli Prosiectau, Llywodraethu ac Atebolrwydd, ac Ymchwil a Data, yn ogystal â delio â sgiliau eraill fel cynllunio, cyflwyno ac ysgrifennu. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyfle i glywed gan arbenigwyr eraill yn y diwydiant a siaradwyr ysbrydoledig

Prentisiaethau

Mae ein rhaglenni prentisiaeth yn ffordd wych i chi ddechrau eich gyrfa, cael profiad ymarferol wrth astudio a chael cyflog.

Mae nifer o gymwysterau y gallwch weithio tuag atynt – ar hyn o bryd mae gennym brentisiaid ym maes Polisi, Gweinyddu Busnes, Cyllid, Dadansoddi Data, Seiberddiogelwch ac Economeg.

Pa gymhwyster bynnag y byddwch yn ei ddewis, bydd yn cael ei ariannu’n llawn drwy’r ardoll brentisiaethau a’i ddarparu gan ddarparwr hyfforddiant arbenigol. Mae prentisiaethau’n amrywio o ran hyd a lefel ac fe’u cwblheir drwy gyfuniad o hyfforddiant yn y gwaith ac astudio, gyda chymorth 20% heb fod yn y gwaith.

Drwy gydol eich prentisiaeth, byddwch yn cael dysgu a chymhwyso sgiliau newydd i’r swydd ac adeiladu portffolio o waith, cyn cwblhau asesiad terfynol

Interniaethau

Yn Ofcom rydyn ni’n credu y gall interniaethau chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio eich gyrfa. Dyna pam ein bod yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd interniaeth dros yr haf, sydd wedi eu cynllunio i helpu israddedigion i ddod i gysylltiad go iawn â’r amgylchedd gwaith a datblygu sgiliau gydol oes.
Mae Ofcom yn falch o gefnogi’r rhaglen 10,000 Black Interns, menter newydd yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio cynnig 10,000 o interniaethau i bobl ifanc ddu dros bum mlynedd, ar draws 24 sector, sy’n cynnwys dros 700 o gwmnïau.

Bydd Ofcom yn cymryd rhan yn y rhaglen interniaeth chwe wythnos sy’n cynnig profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr Du Affricanaidd, Du Caribïaidd a Du Prydeinig. Bydd hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig, neu sydd wedi graddio’n ddiweddar o brifysgol yn y Deyrnas Unedig (2018 ymlaen) neu sy’n cymryd blwyddyn fwlch ar ôl cwblhau eu cymwysterau Safon Uwch gyda’r bwriad o ymgymryd ag addysg uwch. Bydd interniaid yn cael cyfle i weithio yn ein swyddfeydd, i gael gwybodaeth fanwl am ein gwaith a’r hyn rydym yn ei wneud, i ddatblygu eu sgiliau ac i ddatblygu eu rhwydwaith proffesiynol.